Amdanom ni Mae'r gwasanaeth Niwrowahaniaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o’r naethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd wedi cael diagnosis o niwrowahaniaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) a Syndrom Tourette sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn ddatblygiad newydd yn y Gwasanaethau Oedolion ac mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i lunio ein darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol. Byddwn ni'n cynnal asesiadau gydag oedolion sydd â diagnosis o niwrowahaniaeth a allai fod ag anghenion gofal a chymorth ac yn trefnu pecynnau gofal a chymorth sy'n briodol i ddiwallu'r canlyniadau a ddymunir gan yr unigolion. Bydd y Tîm hefyd yn cynnal asesiadau pontio ar gyfer y bobl ifanc hynny sydd â diagnosis o niwrowahaniaeth ag anghenion gofal a chymorth sy’n pontio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Bydd y tîm yn rhan bwysig o sicrhau bod y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol dan y Cod Ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth (2021). Bydd y gwasanaeth sy'n cael ei sefydlu yn cynnwys gweithiwr cymdeithasol a gweithiwr cymorth. Bydd elfen ataliol gref i’r swydd gweithiwr cymorth a disgwylir i ddeiliad y swydd gynnig amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth. Bydd y gwasanaeth yn rhan o'r Gwasanaeth Gofal Tymor Hirach. Mae'r Tîm yn cael ei reoli gan y Rheolwr Tîm sydd â chyfrifoldeb am y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion yn y Gwasanaeth Gofal Tymor Hirach. Bydd cymorth pellach i'r gwasanaeth a mynediad at adnoddau arbenigol yn cael eu cynnig gan y swyddog arweiniol awtistiaeth. Mae'r tîm hefyd wedi ymrwymo i ymarfer gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau, a chewch gyfle i ddatblygu'r sgiliau hyn. Mae’r Tîm wedi ymrwymo i feithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni eu llawn botensial. Ynglŷn â'r rôl Manylion Tâl: Gradd 8 pcg 26-30 - £36,124-£39,513 / Gradd 9 pcg 31-35 £40,476-£44,711 Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: Dydd Llun i Ddydd Gwener Prif Weithle: Lleoliadau amrywiol ar draws y Gwasanaethau Oedolion, Bro Morgannwg Gwerthfawrogir ein Gweithwyr Cymdeithasol oherwydd y sgiliau a’r wybodaeth y maen nhw’n cyfrannu at y gwasanaeth. Maen nhw’n allweddol i'r arfer parhaus o ddulliau gwaith cymdeithasol sy’n seiliedig ar gryfderau ym Mro Morgannwg. Bydd y rôl yn rhan o'r Gwasanaeth Gofal Tymor Hirach. Fel Gweithiwr Cymdeithasol, byddwch yn cynnal asesiadau, yn llunio cynlluniau gofal a chymorth gydag unigolion yn nodi eu canlyniadau ac yn comisiynu gofal a chymorth. Bydd gofyn i chi hefyd reoli llwyth achosion prysur. Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd a phan fyddwch yn meddu ar gymwysterau priodol bydd disgwyl i chi oruchwylio cydweithwyr tîm heb gymwysterau. Mae disgwyl i Weithwyr Cymdeithasol Gradd 8 oruchwylio cydweithwyr Gradd 7 a staff anghymwys yn ôl y galw. Byddwch yn cefnogi gweithrediad parhaus arferion sy'n seiliedig ar gryfderau ac yn cyfrannu at Sicrwydd Ansawdd yn y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Mae'r gwasanaeth Niwrowahaniaeth yn wasanaeth newydd sy’n datblygu a bydd disgwyl iddo roi cyngor a chymorth i unigolion, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd disgwyl i chi ddatblygu eich gwybodaeth am y materion sy'n effeithio ar y rhai sy'n niwrowahanol. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddefnyddio arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth gydag unigolion Amdanat ti Bydd angen y canlynol arnoch: 1. Profiad o weithio gydag oedolion neu bobl ifanc a chynnal asesiadau gyda'r unigolion hynny sydd angen gwasanaethau cymorth. 2. Ymrwymiad i arfer rhagorol gydag unigolion, teuluoedd, Gofalwyr a Chymunedau. 3. Sgiliau asesu a dealltwriaeth glir o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 4. Hyder a gwybodaeth o ran gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Ar gyfer y swydd Gradd 8 mae profiad o waith a phrosesau’r Llys Gwarchod yn fantais. 5. Disgwylir i bawb sy’n gweithio yn y gwasanaeth ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles dinasyddion. 6. Ymrwymiad i weithio'n agos gyda chydweithwyr mewn tîm gwaith cymdeithasol arbenigol ac i weithio'n amlbroffesiynol gyda chydweithwyr mewn gwasanaethau statudol a gwasanaethau'r trydydd sector. Gwybodaeth Ychwanegol Oes angen gwiriad GDG: Manwl I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Andrew Cole Gweler y disgrifiad swydd/manyleb person atodedig am ragor o wybodaeth Job Reference: SS00828