Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig – Swyddog Gweinyddol - Bywyd Myfyrwyr Gwahoddir ceisiadau ar gyfer rôl Swyddog Gweinyddol Bywyd Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Mae hon yn rôl a fydd yn cynnwys gweithio ar draws dau dîm ym maes Bywyd Myfyrwyr — Iechyd a Lles a Dyfodol Myfyrwyr. Ffocws y rôl yw cefnogi Iechyd a Lles myfyrwyr yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnwys cyfnodau o amser yn astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor. Bydd y rôl hon yn cynnwys ystod eang o dasgau gweinyddol sy'n gysylltiedig â chefnogi myfyrwyr. Bydd y rhain yn cynnwys ymateb i ymholiadau, cynnig gwybodaeth gefnogol, cysylltu â chydweithwyr, uwchgyfeirio materion, gwiriadau lles rhagweithiol, darparu a diweddaru adnoddau ac adrodd ar dueddiadau a phatrymau wrth ymgysylltu â myfyrwyr. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chefndir mewn gweinyddiaeth, cymorth i fyfyrwyr, gwasanaeth cwsmeriaid neu rolau tebyg. Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am gyfnod penodol tan 30 Medi 2026 tra bod yr aelod o’r staff ar secondiad. Cyflog: £27,644 - £30,805 y flwyddyn (Gradd 4) Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fanteision rhagorol, gan gynnwys 32 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i'r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol i fyny’r raddfa gyflog, a rhagor. Dyma le cyffrous a bywiog i weithio ynddo. Ceir llawer o heriau gwahanol ac mae'n gefnogwr balch o’r Cyflog Byw. Dyddiad cau: Dydd Llun, 31 Mawrth 2025 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg. Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Prif Ddyletswyddau Rhoi cyngor ac arweiniad manwl ar brosesau a gweithdrefnau mewn perthynas â chefnogaeth i fyfyrwyr i gwsmeriaid mewnol ac allanol; gan ddefnyddio synnwyr cyffredin i awgrymu'r camau gweithredu gorau lle bo'n briodol, a chyfrannu at ddatrys materion mwy cymhleth. Ymateb i ymholiadau myfyrwyr ar-lein, wyneb yn wyneb, dros y ffôn, diweddaru Cwestiynau Cyffredin y gwasanaeth a helpu ein Cyswllt Myfyrwyr wyneb yn wyneb a staff eraill Bywyd Myfyrwyr. Adolygu a phrosesu gweithgareddau myfyrwyr a’r dogfennau cysylltiedig y Llwybr Cyfleoedd Byd-eang Diweddaru cynnwys digidol y Brifysgol sy'n ymwneud â chymorth i fyfyrwyr (bydd hyfforddiant ar gael). Diweddaru cynnwys digidol y Brifysgol sy'n ymwneud â chymorth i fyfyrwyr a chyfleoedd byd-eang (bydd hyfforddiant ar gael). Cyfathrebu’n rhagweithiol â myfyrwyr sy’n paratoi i fynd dramor, a thra eu bod i ffwrdd, gan gynnig gwybodaeth ac adnoddau cefnogol, a chynnal gwiriadau lles yn achlysurol. Cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb i fyfyrwyr oresgyn heriau sy'n effeithio arnynt tra ar leoliad dramor, gan uwchgyfeirio achosion cymhleth a risg uchel i'r timau Iechyd a Lles a Chyfleoedd Byd-eang os oes angen. Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a threfnu gweithdai a gweithgareddau cyn ymadael sy'n cefnogi lles meddyliol a diogelwch myfyrwyr dramor Cydweithio ag eraill i wneud argymhellion ar gyfer gwella prosesau a gweithdrefnau sefydledig Meithrin perthynas waith gyda chysylltiadau pwysig i helpu i wella’r gwasanaeth, gan ddatblygu cysylltiadau cyfathrebu addas gydag Ysgolion/Cyfarwyddiaethau’r Brifysgol a chyrff allanol lle bo angen Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r Timau Iechyd a Lles Myfyrwyr a Chyfleoedd Byd-eang, gan gynnwys cefnogi rheoli unrhyw ddigwyddiadau tramor (e.e. cefnogi cyfarfodydd, cysylltu â thimau yswiriant a chyllid y brifysgol am achosion penodol). Coladu data cywir o systemau a ffynonellau gweinyddol, gan lywio dadansoddiad o dueddiadau a phatrymau sylfaenol i ysgogi gwelliant parhaus. Cyfarwyddo ac arwain gweithwyr eraill ar draws y Brifysgol mewn perthynas â chymorth i fyfyrwyr. Cefnogi cyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol yn ogystal â sesiynau hyfforddi, trwy wneud y trefniadau priodol o ran trefnu lleoliad, arlwyo a chymhorthion clyweledol, yn ogystal â chyfathrebu'r digwyddiadau i'r rhai bydd yn bresennol. Dyletswyddau Cyffredinol Gofalu eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau Cadw at bolisïau’r Brifysgol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cyflawni dyletswyddau eraill o bryd i'w gilydd nad ydynt wedi'u cynnwys uchod, ond sy'n cyd-fynd â'r swydd. Cadw cydbwysedd rhwng eich llwythi gwaith ar draws pob tîm Gwybodaeth Ychwanegol Mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn gallu dangos sut y maent yn bodloni pob un o'r meini prawf person. Os na ddarperir datganiad ategol ynghyd â CV ni fyddwn yn gallu llunio rhestr fer o ymgeiswyr. Nodyn pwysig: Mae'n bolisi gan y Brifysgol i ddefnyddio manyleb yr unigolyn fel adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Dylai ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, yn ogystal â'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Fel rhan o’ch cais, gofynnir i chi roi'r dystiolaeth hon mewn datganiad i ategu'r cais. Gwnewch yn siŵr bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf isod sydd wedi' rhifo. Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o dan bob elfen. Wrth atodi’r datganiad i ategu eich cais i broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen e.e. Datganiad Ategol ar gyfer 19655BR. Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg NVQ Lefel 3/cymwysterau Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad Profiad sylweddol o weithio mewn rôl weinyddol gymharol Gwybodaeth arbenigol neu brofiad o waith mewn lleoliad gwasanaethau/ cymorth i fyfyrwyr neu leoliad tebyg Gallu sefydlu a rheoli systemau a gweithdrefnau swyddfa safonol a gwneud gwelliannau fel y bo'n briodol Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cyfathrebu a Gweithio mewn Tîm Gallu i gyfleu gwybodaeth arbenigol a chymhleth yn effeithiol ac yn broffesiynol i ystod o gwsmeriaid â lefelau dealltwriaeth amrywiol Gallu diamheuol i gynghori a dylanwadu'n briodol Gallu ystyried anghenion cwsmeriaid ac addasu gwasanaethau yn unol â hynny i ofalu y bydd gwasanaeth o safon uchel Cynllunio, Dadansoddi a Datrys Problemau Tystiolaeth o allu i ddatrys problemau drwy gymryd y cam cyntaf a bod yn greadigol; adnabod a chynnig atebion ymarferol a datrys problemau lle mae ystod o ddewisiadau posibl ar gael Tystiolaeth o allu i ddadansoddi prosesau a gweithdrefnau, a chynghori ar welliannau Tystiolaeth o’r gallu i weithio heb oruchwyliaeth, gan gadw at derfynau amser, cynllunio a phennu blaenoriaethau ar gyfer eich gwaith eich hun Meini Prawf Dymunol Gradd neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad cyfatebol cysylltiedig â’r gwaith Profiad o weithio mewn amgylchedd Addysg Uwch, a/neu wybodaeth am symudedd rhyngwladol Rhuglder yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar