Contents Location About the job Benefits Things you need to know Apply and further information Location Cardiff, Mold, Swansea About the job Job summary A ydych chin ddarpar gyfreithiwr sydd â diddordeb mewn cyfraith trosedd? Gwnewch gais am gynllun hyfforddeion cyfreithiol Gwasanaeth Erlyn y Goron nawr a chychwyn ar eich llwybr hyfforddi ym mis Hydref 2026. Yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, rydym yn gyfrifol am weinyddu cyfiawnder drwy erlyn trosedd yn annibynnol ac yn effeithiol. Ni ywr cyflogwr arbenigwyr cyfraith droseddol mwyaf yng Nghymru a Lloegr, ac mae Universum wedi ein gosod ymysg y cyflogwyr mwyaf atyniadol i fyfyrwyr y gyfraith. Rydym yn falch o gael ein cydnabod gan ein hyfforddeion cyfreithiol yn arolwg Legal 500 Future Lawyers 2023 am ein technoleg gyfreithiol, am fodlonrwydd mewn swydd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Fel cyfreithiwr dan hyfforddiant, rydym yn cynnig ichi raglen hyfforddi ddwy flynedd a rôl barhaol fel erlynydd y goron ar ôl cwblhau ein cynllun hyfforddeion cyfreithiol yn llwyddiannus. Cewch eich cefnogi gan oruchwyliwr hyfedr a fydd yn cynnig arweiniad a chyfleoedd i ddatblygu eich dealltwriaeth o weithio fel erlynydd. Byddwch yn cael o leiaf un secondiad mewn maes y tu allan i gyfraith trosedd, ac yn cwblhau cyrsiau mewn sgiliau erlyn rhagweithiol, datgelu, eiriolaeth, driliau eiriolaeth cam-drin domestig, a chymhwyster erlynydd cyswllt wedii reoleiddio gan CiLEX ar gyfer hawliau i ymddangos yn y llys, gan eich galluogi i gyflwynon annibynnol yn y llys. Gallwch ddatblygu eich gwybodaeth drwy weithio mewn meysydd trosedd arbenigol gan gynnwys troseddau rhywiol difrifol a threisio, troseddu cyfundrefnol a thwyll. Rydym wedi ymrwymo ich twf proffesiynol ac rydym yn disgwyl y byddwch, yn dilyn eich rôl gychwynnol yn y llys ynadon, wedi meithrin y sgiliau angenrheidiol i wneud cais am gyfleoedd am ddyrchafiad yn Llys y Goron gan gynnwys rôl uwch erlynydd y goron. Cewch glywed gan ein hyfforddeion cyfreithiol yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, www.cps.gov.uk/careers/legal-trainee. Ar hyn o bryd mae gennym ddwy hysbyseb yn fyw, un ar gyfer rôl bargyfreithiwr dan hyfforddiant ac un ar gyfer rôl cyfreithiwr dan hyfforddiant. Dim ond ar gyfer un o'r swyddi gwag hyn y gallwch gyflwyno cais. Os byddwch yn gwneud cais am y ddwy swydd, neu am yr un swydd fwy nag unwaith, byddwn ond yn derbyn cais am y swydd gyntaf y gwnaethoch gais amdani a byddwn yn gwrthod yr ail yn awtomatig. Yn ogystal, mae gennym ddwy hysbyseb yn fyw ar gyfer siaradwyr Cymraeg, os ydych yn ddarpar fargyfreithiwr neu gyfreithiwr syn siarad Cymraeg, rydym yn eich annog i wneud cais dan un o'r hysbysebion hynny. Job description Mae ein cynllun hyfforddeion cyfreithiol yn rhaglen hyfforddi helaeth ich helpu i ddod yn gyfreithiwr cwbl gymwys. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ym mhob maes o gyfraith trosedd, o adolygu achosion a pharatoi cyngor cyn cyhuddo i gyfarfod gyda dioddefwyr a thystion. Byddwch yn sicr o gael swydd barhaol fel erlynydd y goron ar ôl cwblhau eich cyfnod prawf yn llwyddiannus. Person specification Rydym yn chwilio am bobl syn meddu ar y canlynol: diddordeb amlwg ym maes erlyn troseddol a gwasanaeth cyhoeddus gwybodaeth a dealltwriaeth amlwg o waith Gwasanaeth Erlyn y Goron an rôl yn y system cyfiawnder troseddol ehangach ffocws cryf ar ddysgu parhaus a'r gallu i gymhwyso gwybodaeth am y gyfraith trosedd a gafwyd o astudio a phrofiad ymrwymiad i yrfa fel cyfreithiwr syn gweithio ym maes cyfraith trosedd yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron Eich rôl ach cyfrifoldebau Paratoi i erlyn achosion ar droseddau diannod yn unig a throseddau neillffordd yn y llys ynadon gan weithio gyda gweithwyr achos, cwrdd â thystion, a chefnogir cwnsler. Cynghorir heddlu ac ymchwilwyr eraill ar benderfyniadau ynghylch cyhuddo, a gweithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol, cyfreithwyr yr amddiffyniad ar cwnsler ar waith achos. Cysgodi erlynwyr yn Llys yr Ynadon a Llys y Goron ac arsylwi ar eiriolaeth. Mynychu cynadleddau gydar heddlu ar cwnsler, a chyfarfodydd gyda dioddefwyr a thystion. Cynnal ymchwil gyfreithiol a rhoi adborth ich goruchwyliwr cyfreithiol a chydweithwyr eraill. Gweithio gyda goruchwyliwr drwy gydol cyfnod prawf, gan gadw cofnodion cywir o waith a chyfarfodydd i drafod cynnydd eich hyfforddiant. Trefnu a chwblhau eich secondiadau gwaith gofynnol. Qualifications Cymwysterau Gradd israddedig Rhaid i chi fod â gradd israddedig prifysgol 2:2 neu uwch. Nid oes angen i hon fod yn y gyfraith, rydym yn ystyried graddau israddedig cyfatebol. Os ydych wedi cwblhaur Cwrs Ymarfer y Gyfraith a bod gennych radd israddedig 2:2 neu uwch mewn pwnc ar wahân i'r gyfraith, rhaid ichi fod wedi cwblhau un o'r cyrsiau trosi canlynol: Diploma Graddedig yn y Gyfraith (GDL) Arholiad Proffesiynol Cyffredin (CPE) Os ydych chi wedi dewis y llwybr Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr, nid oes angen cwrs trosi. Rydym yn derbyn graddau nad ydynt yn y gyfraith gyda chanlyniadau llwyddiannus yn yr Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr 1 a 2, heb y GDL nar CPE. Cymwysterau ôl-raddedig Rhaid i chi fod wedi cwblhau, neu fod ar fin cwblhau, y Cwrs Ymarfer y Gyfraith neu Arholiadau Cymhwyso i Gyfreithwyr 1 a 2 er mwyn gallu dechraur cynllun hyfforddeion cyfreithiol ym mis Hydref 2026. Rhaid i chi ddarparu eich cymwysterau in tîm recriwtio erbyn 1 Medi 2026. Os na allwch roi cadarnhad eich bod wedi pasio eich LPC neuch SQE erbyn hyn, cewch eich tynnu allan or broses. Nid ydym yn derbyn CILEX yn ller cymhwyster LPC neu SQE. Nid yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynnig nawdd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol. Byddwn yn gwirior holl dystysgrifau ar cymwysterau academaidd os cewch eich gwahodd i gwblhau cyfweliad fideo ar-lein. Eich cyfrifoldeb chi yw darparu tystiolaeth ategol o gymhwysedd academaidd o fewn y dyddiad cau. Os na fyddwch yn cynnwys eich cymwysterau israddedig ac ôl-raddedig ar eich ffurflen gais, ni fyddwch yn bodlonir meini prawf cymhwyso a byddwch yn cael eich tynnu or broses recriwtio. Behaviours We'll assess you against these behaviours during the selection process: Making Effective Decisions Seeing the Big Picture Delivering at Pace Communicating and Influencing Technical skills We'll assess you against these technical skills during the selection process: Gradd israddedig Cymwysterau ôl-raddedig Benefits Alongside your salary of £29,620, Crown Prosecution Service contributes £8,580 towards you being a member of the Civil Service Defined Benefit Pension scheme. Find out what benefits a Civil Service Pension provides. Gwarantir swydd fel naill ai erlynydd y goron neu eiriolwr y goron ichi ar ôl cwblhau eich cynllun hyfforddeion cyfreithiol yn llwyddiannus. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn frwd dros sicrhau ein bod nin sefydliad syn perfformio ar ei orau ac yn lle gwych i weithio. Rydym wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cyfle cyfartal ac i greu diwylliant lle gall pawb ddod âi hunan yn gyflawn ir gwaith, ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi unigoliaeth. Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod ein holl weithwyr yn gallu ffynnu yn y gwaith ac yn y cartref, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth i sicrhau cydbwysedd. Mae hyn yn cynnwys, lle bo modd, oriau gwaith hyblyg a hyblygrwydd i gefnogi cyfrifoldebau gofalu. Byddwch yn treulio eich wythnos waith naill ai yn y llys neu'r swyddfa i sicrhau eich bod yn cael y gorau och goruchwyliwr ach hyfforddiant. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion: pensiwn cyfrannol y Gwasanaeth Sifil o hyd at 28.9% 25 diwrnod o wyliau bob blwyddyn, yn codi i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth diwrnod braint ychwanegol i nodi pen-blwydd y Brenin absenoldeb cystadleuol o ran mamolaeth, tadolaeth ac absenoldeb rhieni cynllun Seiclo i'r Gwaith, cynilion gweithwyr hyd at £350 bob blwyddyn i'w wario ar ddatblygiad personol Things you need to know Selection process details This vacancy is using Success Profiles (opens in a new window), and will assess your Behaviours, Strengths, Ability, Experience and Technical skills. Cam cyntaf profion ar-lein a gwneud cais Rhaid ichi gyflwyno eich ffurflen gais fer drwy Swyddir Gwasanaeth Sifil. Yna, fech gwahoddir i gwblhau prawf sgiliau gwaith achos y Gwasanaeth Sifil a phrawf llafar y Gwasanaeth Sifil ar-lein. Os byddwch yn methu naill air prawf sgiliau gwaith achos neur prawf rhesymu llafar, caiff eich cais ei wrthod ac ni fyddwch yn gallu ailymgeisio. Caiff unrhyw geisiadau dyblyg eu gwrthod. I gael rhagor o wybodaeth am brofion y Gwasanaeth Sifil ar-lein, ewch i Civil Service online tests - GOV.UK. Os byddwch yn pasior profion hyn, cewch eich gwahodd i gyflwyno eich ffurflen gais lawn ach CV drwy Swyddir Gwasanaeth Sifil. Rhaid cyflwynor rhain erbyn 1pm ar 6 Chwefror 2025. Mae angen i chi atodi eich CV fel un ddogfen ar ddim mwy na dwy dudalen A4. Ni fydd hwn yn cael ei asesu ond maen rhoi cipolwg ir panel ar eich hanes gwaith ach profiad. Dylai eich CV gynnwys: hanes gyrfa a chyfrifoldebau allweddol sgiliau a phrofiad cyflawniadau cymwysterau Yn adran cymwysterau eich ffurflen gais, rhowch: dosbarth eich gradd israddedig eich Cwrs Ymarfer y Gyfraith ach cwrs trosi os yw eich gradd israddedig mewn pwnc ar wahân i'r gyfraith, neur Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr. Dylech ddewis arall o dan deitl y cymhwyster. Ail gam cyfweliad fideo Os byddwch yn pasior cam recriwtio cyntaf, cewch eich gwahodd i gyfweliad fideo. Anfonir gwahoddiadau ir cyfweliadau fideo ar wahân yn uniongyrchol gan ein tîm recriwtio. Anfonir y rhain rhwng 6 a 7 Chwefror 2025 cewch ganllawiau a chyfarwyddiadau llawn ar gyfer y broses cyfweliad fideo gydach gwahoddiad. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch ar gyfer y cyfweliad fideo, cysylltwch â earlycareerscps.gov.uk erbyn 1pm ar 6 Chwefror 2025. Maen bosibl na fydd unrhyw gais ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei ystyried. Gallwch ddefnyddior system cyfweliad fideo rhwng 10 a 14 Chwefror 2025 ac maen rhaid i chi fod wedi cwblhau a chyflwyno eich cyfweliad fideo erbyn 1pm ar 14 Chwefror 2025. Rydym am ddeall pam eich bod eisiau gweithio yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron. Rydym yn asesu eich cymhelliant a'ch cryfderau yn y cam hwn i weld pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl. Maer panel yn cadwr hawl i farcior cryfder arweiniol yng ngham y rhestr fer a chodir marc pasio safonol sylfaenol ar gyfer y cryfder hwn yn y cam hwn or broses ddethol. Trydydd cam cyfweliad terfynol ac asesiad Os byddwch yn pasio ail gam y broses recriwtio, fech gwahoddir i asesiad a chyfweliad gyda phanel Gwasanaeth Erlyn y Goron. Cewch ganllawiau a chyfarwyddiadau llawn am y broses hon gydach gwahoddiad. Cynhelir y cyfweliadau rhwng 10 Mawrth a 4 Ebrill 2025 drwy Microsoft Teams. Fech gwahoddir i drefnu slot cyfweliad ar ein system archebu ar-lein ar 4 Mawrth 2024 o 1pm ymlaen. Gofynnwn i chi nodir dyddiadau y maer cyfweliad ar asesiadau i fod i gael eu cynnal. Fodd bynnag, gall y dyddiadau hyn newid, ac ni allwn warantu dyddiadau cyfweld gwahanol. Meini prawf asesu cam cyfweld ac asesu Byddwch yn cael eich asesu yn erbyn meini prawf ymddygiad y Gwasanaeth Sifil yn yr asesiad cyfreithiol ar cyfweliad. Mae angen i chi ystyried eich sgiliau personol, eich rhinweddau, eich profiad a sut maer rhain yn cyd-fynd âr ymddygiadau ar gofynion penodol fel y nodir yn y disgrifiad swydd. Mae angen i chi hefyd ddangos gwerthoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron neur Gwasanaeth Sifil. Dymar ymddygiadau syn cael eu hasesu: gwneud penderfyniadau effeithiol gweld y darlun ehangach cyflawni'n gyflym cyfathrebu a dylanwadu Maer panel yn cadwr hawl i asesur prif ymddygiad (gwneud penderfyniadau effeithiol) yng ngham y cyfweliad a'r asesiad a chodir marc pasio safonol sylfaenol ar gyfer yr ymddygiad hwn yn y cam hwn or broses ddethol. Addasiadau rhesymol Mae amrywiaeth yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn ymwneud â chynhwysiant, croesawu gwahaniaethau a sicrhau bod ein gweithlu wir yn adlewyrchur cymunedau a wasanaethwn. Rydym eisiau in pobl deimlo eu bod yn perthyn au bod yn gallu ffynnu, beth bynnag fou cefndir, eu hunaniaeth neu eu diwylliant. Fel cyflogwr hyderus o ran anabledd, rydym yn hapus i gefnogi ceisiadau am addasiadau rhesymol a gwella eich profiad or broses recriwtio. Os hoffech chi i unrhyw addasiadau rhesymol gael eu gwneud in proses recriwtio, rhowch wybod i ni ar eich cais neu cysylltwch ag earlycareerscps.gov.uk i drafod hyn gydan tîm. Mae un rhan or prawf seicometrig ar gyfer gwaith achos yn cael ei hamseru a rhaid ei chwblhau o fewn 10 munud. Ni allwn wneud unrhyw addasiadau i brofion seicometrig y Gwasanaeth Sifil. Os cewch eich gwahodd ir asesiad cyfreithiol ar cyfweliad terfynol, rydym yn ystyried pob cais am addasiadau rhesymol yn unol ân polisi. Lleoliadau Maer swyddi hyn ar gael yn genedlaethol. Gofynnir i chi gadarnhaur lleoliad lle byddain well gennych gael eich lleoli. Rydym yn gwneud cynigion yn nhrefn teilyngdod ac yn ceisio cynnig y lleoliad och dewis. Fodd bynnag, allwn ni ddim gwarantu hyn. Dim ond yn yr un lleoliad y gallwch chi gael eich hyfforddiant - yr un rydych yn ei dderbyn pan gynigir eich swydd ichi. Yma bydd eich goruchwyliwr yn cael ei neilltuo ichi gydol eich hyfforddiant. Ni allwn wneud newidiadau ar ôl i chi dderbyn swydd nac yn ystod eich swydd. Rhestrwch eich tri lleoliad mwyaf dymunol ar eich ffurflen gais yn y drefn yr ydych yn eu ffafrio. Os ydych yn llwyddiannus, fe allwch gael eich lleoli yn unrhyw un or lleoliadau a hysbysebir maen bosibl y bydd y rhain yn newid. Maer lleoliad terfynol a gynigir i chi yn adlewyrchu anghenion busnes y sefydliad. Fel rhan o'r hyfforddiant i gyfreithwyr mae gofyn ichi fod yn bresennol yn y llys neur swyddfa yn y lleoliad daearyddol lle cewch eich lleoli. Mae angen ichi wneud cyrsiau rheolaidd i gwblhau eich cyfnod hyfforddi, gan gynnwys aros dros nos o dan y cod teithio a chynhaliaeth. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd sydd wedi ymrwymo i wneud addasiadau rhesymol ich helpu i fod yn bresennol yn y llys neu yn eich swyddfa bob dydd. Rydym yn ystyried ceisiadau am weithio hyblyg, rhan-amser a rhannu swydd gan ystyried anghenion gweithredol yr adran. Sesiynau gwybodaeth Rydym yn cynnal cyfres o sesiynau gwybodaeth cyn y dyddiadau cau ar gyfer y swyddi gwag hyn. Mae'r sesiynau'n sgyrsiau byw ar y we lle gallwch ofyn unrhyw gwestiynau i ni am eich cais, y broses neu'r rolau. Gallwch chi gofrestru yma. Dydd Mercher 15 Ionawr, 1pm-2pm (cyfreithiwr sy'n siarad Cymraeg) - https://meetandengage.com/am5fap5yr Cymhwysedd Os byddwch yn gwneud cais ac os canfyddir yn ddiweddarach nad ydych yn bodloni'r meini prawf academaidd, cenedligrwydd neu fewnfudo, byddwch yn cael eich tynnu o'r broses ddethol. Mae cynigion cyflogaeth amodol yn cael eu tynnun ôl os nad yw ymgeiswyr yn bodlonir gofynion hyn. Os ydych eisoes wedi cwblhau eich cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, nid ydych yn gymwys i wneud cais. Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau syn cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd, ac rydym yn ymfalchïo ein bod yn gyflogwr o ddewis. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle - Wythnos Gynhwysiant Genedlaethol, Gwasanaeth Erlyn y Goron Cliriad Os ydych yn llwyddiannus, maen ofynnol ichi gael cliriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac mae rhai rhannau or busnes yn gofyn ichi gael cliriad Archwiliad Diogelwch (SC). Caiff y cliriad sydd ei angen arnoch ei gadarnhau pan fyddwch yn cael cynnig y rôl. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnwn i chi lenwi ffurflen ymholi am gymeriad ar holiadur cenedligrwydd a mewnfudo. Os ydych yn aelod mewnol o staff, ni fydd angen i chi gael gwiriad DBS gan fod gennych chir cliriad hwn yn barod. Rhestr wrth gefn Os ydych yn cael eich argymell gan y panel dethol ond heb gael eich penodi ir swydd wag bresennol, cewch eich rhoi ar restr wrth gefn am 12 mis rhag ofn y bydd rhagor o swyddi gwag yn codi. Nid oes sicrwydd y cewch gynnig swydd yn ystod yr amser hwn. Costau teithio ychwanegol Nid yw costau teithio ychwanegol yn berthnasol. Chi syn gyfrifol am dalu eich costau teithio ir lleoliad gwaith och dewis. Archwiliadau twyll Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn darparu Hysbysiad Prosesu Teg i bob ymgeisydd newydd ar ôl iddynt fod yn llwyddiannus yn y cyfweliad. Rhoddir gwybod ir ymgeiswyr hyn, fel un agwedd ar sgrinio cyn cyflogi, bod eu manylion personol enw, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni yn cael eu gwirio yn erbyn y Gronfa Ddata Bygythiadau Mewnol. Ni fyddwn yn cyflogi unrhyw un sydd wedii gynnwys ar y gronfa ddata oni bai eu bod yn gallu dangos amgylchiadau eithriadol. Gweision sifil presennol Mae gan Wasanaeth Erlyn y Goron gyfraddau sefydlog ar gyfer gradd ei Swyddog Gweithredol - cyfradd datblygu (y cyflog cychwynnol) a a'r gyfradd gyfredol (y gyfradd flynyddol ac uchafswm cyflog y swydd). Mae ymgeiswyr fel arfer yn ymuno â ni ar y gyfradd ddatblygu. Sylwch y gellir addasu eich cyflog pan fydd newid yn y lleoliad cyflog daearyddol wrth ymuno â'r rhaglen. Gall hyn gynnwys addasiad ar gyfer unrhyw lwfansau presennol yr ydych yn eu derbyn gan nad oes sicrwydd y gellir cadw'r rhain. Dylech felly wneud ymholiadau am yr effaith ar eich cyflog cyn gwneud cais am le ar y rhaglen neu dderbyn lle ar y rhaglen. Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil Os ydych chin anfodlon âr broses recriwtio ach bod yn dymuno cwyno, cysylltwch â strategic.resourcingcps.gov.uk gydach pryderon. Os ydych yn dal yn anfodlon ac yn dymuno gwneud cwyn arall, gallwch wneud hynny drwy dudalen gwyno Comisiwn y Gwasanaeth Sifil. Dyma egwyddorion recriwtio Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil. Dim ond os byddwch chin dod i gyfweliad y byddwch chin cael adborth. Diogelwch Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol. Rhaid i bobl syn gweithio gydag asedaur llywodraeth gwblhau gwiriadau Safon Ddiogelwch Sylfaenol ar gyfer Personél (yn agor mewn ffenestr newydd. Gweler ein siarter fetio (yn agor mewn ffenestr newydd). Feedback will only be provided if you attend an interview or assessment. Security Successful candidates must undergo a criminal record check. People working with government assets must complete baseline personnel security standard (opens in new window) checks. Nationality requirements This job is broadly open to the following groups: UK nationals nationals of the Republic of Ireland nationals of Commonwealth countries who have the right to work in the UK nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities with settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) (opens in a new window) nationals of the EU, Switzerland, Norway, Iceland or Liechtenstein and family members of those nationalities who have made a valid application for settled or pre-settled status under the European Union Settlement Scheme (EUSS) individuals with limited leave to remain or indefinite leave to remain who were eligible to apply for EUSS on or before 31 December 2020 Turkish nationals, and certain family members of Turkish nationals, who have accrued the right to work in the Civil Service Further information on nationality requirements (opens in a new window) Working for the Civil Service The Civil Service Code (opens in a new window) sets out the standards of behaviour expected of civil servants. We recruit by merit on the basis of fair and open competition, as outlined in the Civil Service Commission's recruitment principles (opens in a new window). The Civil Service embraces diversity and promotes equal opportunities. As such, we run a Disability Confident Scheme (DCS) for candidates with disabilities who meet the minimum selection criteria. The Civil Service also offers a Redeployment Interview Scheme to civil servants who are at risk of redundancy, and who meet the minimum requirements for the advertised vacancy. Diversity and Inclusion The Civil Service is committed to attract, retain and invest in talent wherever it is found. To learn more please see the Civil Service People Plan (opens in a new window) and the Civil Service Diversity and Inclusion Strategy (opens in a new window). Apply and further information This vacancy is part of the Great Place to Work for Veterans (opens in a new window) initiative. Once this job has closed, the job advert will no longer be available. You may want to save a copy for your records. Contact point for applicants Job contact : Name : Early Careers Email : Earlycareerscps.gov.uk Recruitment team Email : Earlycareerscps.gov.uk Attachments cym - Candidate pack legal trainee solicitor 2025 FINAL Opens in new window (docx, 2269kB) Share this page Print Email Facebook Twitter LinkedIn GMail