You will need to login before you can apply for a job.
Closing Date:
29/01/2025
Group:
Corporate Group
Management Level:
Associate
Job Type:
Fixed Term (Fixed Term)
About Ofcom
Ni yw rheoleiddiwr cyfathrebiadau'r DU ac rydym yn gwneud gwaith hanfodol sy'n helpu i gadw pobl mewn cysylltiad ledled y DU ac sy'n siapio sut byddwn yn cadw mewn cysylltiad â'n gilydd yn y dyfodol. Mae ein gwaith yn cynnwys popeth o ffonau a band eang i deledu, radio, y gwasanaeth post, a dyfeisiau di-wifr. Rydym hefyd yn ymgymryd â'r her o wneud y byd ar-lein yn lle mwy diogel.
About the Team
Mae tîm Ofcom Cymru yn gweithio ar draws pob agwedd ar gylch gwaith Ofcom i gynrychioli Ofcom yng Nghymru a Chymru yn Ofcom drwy ddarparu mewnbwn a chyngor ar anghenion cyfathrebu pobl yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn drwy ymgynghori'n helaeth ledled Cymru, drwy wrando ar y rhai sy'n ein cynghori a drwy gynnal digwyddiadau.
Purpose of the Role
Mae ein Hymgynghorwyr Gymraeg yn gydweithwyr aml-sgil sy'n rhan annatod o'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Cymraeg Ofcom. Maen nhw'n gweithio gyda chyd-weithwyr ar draws Ofcom a'n gwasanaeth cyfieithu allanol i sicrhau bod yr holl gyhoeddiadau ac allbwn cyfathrebiadau o fewn cwmpas yn cael eu cyfieithu a'u bod ar gael yn Gymraeg.
Your Key Responsibilities
Cynghori, rheoli a gweinyddu'r broses gyfieithu ar gyfer holl gyhoeddiadau Ofcom yn y Gymraeg o fewn amserlenni tynn. Bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i:
1. Cynghori a chytuno ar ofynion cyfieithu ac amserlenni ar gyfer pob prosiect cyhoeddi gyda thîm perthnasol Ofcom a chyda'n gwasanaeth cyfieithu allanol.
2. Cydlynu a rheoli'r broses o'r dechrau I'r diwedd ar gyfer pob prosiect cyfieithu.
3. Rheoli nifer o brosiectau cyfieithu ar unrhyw un adeg.
4. Rheoli nifer o fersiynau o ddogfennau gyda'r gwasanaeth cyfieithu allanol.
5. Prawf-ddarllen cyfieithiadau er cywirdeb.
6. Gweithio gyda thimau a'r adran Gyllid i ddarparu rhagolygon cywir o gostau cyfieithu.
7. Nodi tueddiadau a llwythi gwaith y dyfodol.
8. Nodi problemau a chyfleoedd yn y broses gyfieithu.
9. Cadw cofnod o'r cyfieithiadau sydd wedi'u cwblhau.
10. Cyfieithu cyhoeddiadau testun byr (hyd at 500 o eiriau) o Saesneg i Gymraeg yn gywir.
11. Cyhoeddi cynnwys wedi'i gyfieithu i wefan Gymraeg Ofcom.
12. Cymeradwyo testun ar gyfer cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
13. Monitro a gweithredu galwadau i'r llinell gymorth Gymraeg.
14. Cefnogi'r Uwch Reolwr y Gymraeg yn ei waith.
15. Cynorthwyo gwaith Ofcom a'i dîm yng Nghymru drwy ymgymryd â phrosiectau ychwanegol.
The Skills, Knowledge and Experience You Will Need for Success
Utilising language skills: rhaid i chi fod yn defnyddio eich sgiliau ysgrifenedig, llafar, prawfddarllen a golygu rhagorol yn Gymraeg yn eich rôl bresennol.
Channelling influence: wedi cyfrannu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o bwysigrwydd galluogi pobl sy'n dymuno cyfathrebu yn Gymraeg.
Content publishing: profiad o baratoi a phrawfddarllen cynnwys yn Gymraeg i'w gyhoeddi.
Stakeholder management: profiad o reoli cyflenwyr allanol a chleientiaid mewnol.
Executing Plans: gallu pennu a chyfleu blaenoriaethau a therfynau amser clir.
Trailblazing Ideas: profiad o arloesi yn eich gwaith.
Harmonising work: profiad o weithio'n effeithiol i ddarparu gwasanaeth i wahanol dimau.
Embracing change: gallu dangos eich gallu i weld y darlun ehangach.
Inclusivity Statement
Mae cynhwysiad wrth galon popeth a wnawn.
Company
Learn more about this company
Visit this company’s hub to learn about their values, culture, and latest jobs.
#J-18808-Ljbffr