Work base: Coed Pella, Colwyn Bay
About you:
Are you an innovative and organised individual looking for a part-time role in a busy but friendly team? Are you efficient and effective at what you do, and enjoy learning new things and meeting new people? If you are looking for a good opportunity to grow in a new role and develop your skills, then we’d love to hear from you!
We are looking for a new team member to provide administrative support to our central performance team, where daily tasks might include signposting enquiries, arranging meetings, data management, and formatting and publishing documents.
About Us:
Our team has oversight of key business management functions across the council, so working here is a great way to not only learn new skills, but also to learn about the varied work of the council. Our principal responsibilities in the team cover Corporate Planning, Performance Management, Risk Management, support for regulatory activity, but also engagement and strategic partnership working. You will be supporting the team manager and three Corporate Performance and Improvement Officers, each of whom has their own specialty areas, supporting and advising wider service delivery across the council.
The rewards:
As well as a competitive salary and pension offer, we offer an excellent staff rewards package and access to fantastic Learning and Development opportunities to help grow your career. Based at our purpose built, modern Coed Pella offices, you’ll benefit from flexible-working – a balance of home and office working as determined by the needs of the business. It’s important that we feel the right fit for you too, so we’d welcome a chat where we can explain the role and answer any questions you may have. Please feel free to contact the team manager, Iolo McGregor.
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
Manager details for informal discussion: Iolo McGregor, Strategy, Performance and Engagement Manager (iolo.mcgregor@conwy.gov.uk / 01492 577453)
Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh at level 4 for speaking / writing / reading is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Amdanoch chi:
Ydych chi’n unigolyn arloesol a threfnus sy’n chwilio am rôl rhan amser mewn tîm prysur ond cyfeillgar? Ydych chi’n effeithlon ac effeithiol wrth weithio, gan fwynhau dysgu pethau newydd a chwrdd â phobl newydd? Os ydych chi’n chwilio am gyfle da i ddatblygu mewn rôl newydd a datblygu eich sgiliau, hoffem glywed gennych chi!
Rydym yn chwilio am aelod newydd o’r tîm i ddarparu cefnogaeth weinyddol i’n tîm perfformiad canolog lle gallai’r tasgau dyddiol gynnwys cyfeirio ymholiadau, trefnu cyfarfodydd, rheoli data a fformatio a chyhoeddi dogfennau.
Amdanom ni:
Mae ein tîm yn goruchwylio swyddogaethau rheoli busnes allweddol ar draws y Cyngor, felly mae gweithio yma yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd a dysgu am waith amrywiol y Cyngor. Mae ein prif gyfrifoldebau yn y tîm yn cynnwys Cynllunio Corfforaethol, Rheoli Perfformiad, Rheoli Risg, cefnogaeth ar gyfer gweithgarwch rheoleiddio, a hefyd ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth strategol. Byddwch chi’n cefnogi’r rheolwr tîm a thri Swyddog Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol ac mae gan bob un eu meysydd arbenigol eu hunain yn cefnogi a chynghori darpariaeth gwasanaeth ehangach ar draws y Cyngor.
Y gwobrau:
Yn ogystal â chyflog cystadleuol a phensiwn, rydym yn cynnig pecyn gwobrau staff ardderchog a mynediad at gyfleoedd Dysgu a Datblygu gwych i helpu i ddatblygu eich gyrfa. Eich lleoliad gwaith fydd ein swyddfeydd modern a phwrpasol yng Nghoed Pella a bydd buddion gweithio’n hyblyg ar gael i chi – cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa, yn dibynnu ar anghenion y busnes. Mae’n bwysig eich bod yn teimlo ein bod ni’n addas ar eich cyfer chi hefyd, felly byddem yn croesawu sgwrs er mwyn i ni egluro’r rôl ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gennych. Mae croeso i chi gysylltu â’r rheolwr tîm, Iolo McGregor.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Iolo McGregor, Rheolwr Strategaeth, Perfformiad ac Ymgysylltu (iolo.mcgregor@conwy.gov.uk / 01492 577453)
Gofynion y Gymraeg: Mae gallu cyfathrebu yn y Gymraeg ar Lefel 4 ar gyfer siarad / ysgrifennu / darllen yn ddymunol ar gyfer y rôl hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .