Newyddiadurwr
Pecyn Swydd
Cyflog: £27,300 - £32,533 y flwyddyn yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad.
Lleoliad: Caerdydd
Cyflwyniad i'r Swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn ystafell newyddion aml-blatfform ac yn gweithio’n benodol ar raglen deledu Newyddion S4C. Mae newyddiadurwyr yr adran yn cynhyrchu rhaglenni a bwletinau, ysgrifennu a darlledu bwletinau, a gohebu fel bo angen. Byddai disgwyl i chi hefyd gydweithio gyda thimau eraill ar draws yr adran newyddion.
Responsibilities
* I helpu cynhyrchu rhaglenni ac eitemau ar gyfer y prif raglenni newyddion a’r bwletinau a phlatfformau digidol.
* I allu ysgrifennu sgriptiau, bwletinau ac erthyglau fel bo angen.
* I ddarganfod straeon gwreiddiol ac awgrymu dulliau o droi syniadau yn eitemau creadigol ar bob platfform – digidol, teledu a radio.
* I ddarganfod a threfnu gwesteion ar gyfer rhaglenni ac ymchwilio i gefndir y straeon.
* I fod ag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gymru a’i phobl.
* Diddordeb mawr mewn gweithio ym maes newyddiaduraeth Gymraeg.
* Y gallu i ysgrifennu Cymraeg dealladwy a chywir.
* Y gallu i lunio a datblygu syniadau creadigol ar gyfer y gwasanaethau ar bob platfform.
* Dealltwriaeth o ddulliau cynhyrchu a’r gallu i ddefnyddio neu fod ag awydd clir i ddysgu sgiliau technegol perthnasol.
* Y gallu i weithio’n effeithiol mewn tîm a hefyd yn annibynnol.
* Y gallu i weithio’n gyflym gan sicrhau cywirdeb.
* Dealltwriaeth o anghenion y gynulleidfa a gwybodaeth drylwyr am Gymru, yn ogystal â materion Prydeinig a rhyngwladol.
#J-18808-Ljbffr