Please note that this is a voluntary role which will require a commitment of at least 3 hours per month. Please note that this role is available for a fixed-term period of up to 4 years with the possibility of extension. Equal Opportunities At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of. Who we are At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing. We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs. Role responsibilities We are currently recruiting an Accessibility and Inclusion Panel member. Our Accessibility and Inclusion Panel is made up of up to 20 individuals with lived experience of all facets of disability and protected characteristics, providing representation of intersectionality within the disabled, deaf, neurodivergent and older people's communities. Influencing TfW’s multimodal policies and infrastructure, panel members advise the business on how to best support customers with protected characteristics, as referenced within the equalities act 2010, to use our services safely, effectively and sustainably Responsibilities include but are not limited to the following. To identify areas for improvement in accessibility multimodally (Bus, train, Active Travel and Taxi) across TfW’s broad and evolving public transport network and, where required and private transport policy initiatives (such as the 20-mph policy). To develop and implement inclusive policies and practices. To collaborate with stakeholders to enhance the overall accessibility of our services, infrastructure and initiatives. To provide feedback concerning accessibility considerations on projects, schemes and policies which are presented to the panel. Who we’re looking for The ability to work collaboratively at all levels to find solutions Experience of performing access audits on buildings / environments. Understanding access barriers faced by a wide range of people An understanding of the Equality Act 2010 A passion for accessible public transport and environments Welsh Language Skills The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role. Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses. Next steps Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details. TFW is a Disability Confident employer. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful. This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications. If you have submitted an application for this role within the last 6 months and were unsuccessful, please do not re-apply as regrettably, your application will not be considered. Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship. Sylwch mai swydd wirfoddol yw hon. Bydd yn gofyn am ymrwymiad o 3 awr y mis o leiaf. Sylwch fod y swydd ar gael am gyfnod penodol o hyd at 4 blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad. Cyfle Cyfartal Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Pwy ydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb. Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. Cyfrifoldebau’r swydd Rydym wrthi’n recriwtio aelod o’r Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant. Mae ein Panel Hygyrchedd a Chynhwysiant yn cynnwys hyd at 20 o unigolion sydd â phrofiad bywyd o bob agwedd ar anabledd a nodweddion gwarchodedig, gan gynrychioli croestoriadedd yng nghymunedau pobl anabl, pobl fyddar, pobl niwrowahanol a phobl hŷn. Gan ddylanwadu ar seilwaith a pholisïau aml-ddull TrC, mae aelodau’r panel yn cynghori’r busnes ar y ffordd orau o gefnogi cwsmeriaid sydd â nodweddion gwarchodedig, fel y cyfeirir atynt yn Neddf Cydraddoldeb 2010, i ddefnyddio ein gwasanaethau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn gynaliadwy Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill. Nodi meysydd i’w gwella o ran hygyrchedd aml-ddull (Bysiau, Trenau, Teithio Llesol a Thacsi) ar draws rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus eang ac esblygol TrC a, lle bo angen, mentrau polisi trafnidiaeth breifat (fel y polisi 20mya). Datblygu a gweithredu polisïau ac arferion cynhwysol. Cydweithio â rhanddeiliaid i wella hygyrchedd cyffredinol ein gwasanaethau, ein seilwaith a’n mentrau. Rhoi adborth ar ystyriaethau hygyrchedd ar brosiectau, cynlluniau a pholisïau sy’n cael eu cyflwyno i’r panel. Am bwy rydym ni’n chwilio Gallu cydweithio ar bob lefel i ddod o hyd i atebion Profiad o gyflawni archwiliadau mynediad ar adeiladau / amgylcheddau. Dealltwriaeth o’r rhwystrau mynediad a wynebir gan amrywiaeth eang o bobl Dealltwriaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 Brwdfrydedd dros drafnidiaeth gyhoeddus ac amgylcheddau hygyrch Sgiliau Iaith Gymraeg Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol Y camau nesaf A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus. Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried. Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.