Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw : Learning Support Assistant Level 2
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwynderw yn chwilio am unigolyn egnïol a brwdfrydig i ymuno â thîm gweithgar o fewn yr ysgol. Disgwylir i'r ymgeisydd fod yn llwyr ymroddedig i rannu gweledigaeth ac amcanion yr ysgol a chyfrannu at ethos arbennig yr ysgol hon.
Os oes gyda chi ddiddordeb yn y swydd yma, gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r ffurflen gais sydd wedi atodi isod, yn ogystal â llythyr byr yn amlygu eich cryfderau, eich doniau a'ch profiad a'u danfon at YGGLlwynderw@Hwbcymru.net.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : 23.01.25
Bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar : 30.01.25
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod a fydd yn dechrau ar: 10.02.25 (neu cyn gynted â phosibl wedi hynny.)
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Uwch y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe, yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol.
#J-18808-Ljbffr