Am Y Gwasanaeth Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu. Am Y Swydd Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) – Swyddog Rheoli Gwybodaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at y gwaith o reoli perfformiad y GCI yn effeithiol drwy gynnal y system rheoli gwybodaeth (ChildView - Cyfiawnder Ieuenctid). Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb dros ddarparu gwybodaeth ac adroddiadau yn ôl y gofyn gan Lywodraeth Cymru, Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Bwrdd Rheoli’r GCI, y tîm Rheoli a sefydliadau rhanddeiliaid. Byddai dealltwriaeth o’r system cyfiawnder troseddol o ran eu perthnasedd i blant a phobl ifanc o fantais yn ogystal â dealltwriaeth well o'r fethodoleg Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau (ASG). I gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Rhian McCusker, Rheolwr Cymorth Busnes GCI, ar (029) 2233 355. Gwybodaeth Ychwanegol Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol. Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post. O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Laura.white3caerdydd.gov.uk am drafodaeth. Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei ddarllen er mwyn cwblhau eich cais: Canllaw ar Wneud Cais Ymgeisio am swyddi gyda ni Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol: Siarter Cyflogeion Recriwtio Cyn-Droseddwyr Hysbysiad Preifatrwydd