Ysgol Gymraeg Nant Caerau
Camwn Ymlaen Fel Un
Hysbyseb Swydd Athro Dosbarth Derbyn
Llawn Amser a Dros Dro (cyfnod mamolaeth – 31/12/2025)
Ref: ED50196920
Cyflog: Prif Raddfa / Graddfa Uchaf
Cychwyn mis Mawrth 2025
Mae’r swydd yn un dros dro i gyflenwi dros cyfnod mamolaeth deiliad parhaol y swydd a bydd yn para tan 31-12-25, neu pan fydd deiliad parhaol y swydd yn dychwelyd / ymddiswyddo, pa bynnag un sydd gyntaf.
Gwahoddir ceisiadau gan athrawon brwdfrydig, egniol ac ymroddgar i ymgeisio am swydd athro ar gyfer ein hysgol. Eich nod fydd i sicrhau addysg o’r safon uchaf i bob disgybl o fewn y dosbarth, ac i barhau i gynnal y safonau cyrhaeddiad yn enwedig mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau personol a chymdeithasol. Mae dealltwriaeth am les a gofal disgyblion yn hanfodol a dylai’r ymgeisydd llwyddiannus maeddu ar sgiliau cynnal disgyblaeth gref. Mi fydd y gallu i gyd-weithio’n effeithiol fel rhan o dîm yn hanfodol. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol a chymunedol yr ysgol. Mae deallusrwydd a chwilfrydedd tuag at addysgeg oedran dosbarth Derbyn yn hanfodol.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol.
Disgwylir i bob aelod staff a gwirfoddolwr rannu’r ymrwymiad hwn a bydd yr ysgol yn gofyn am Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).
Am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd hon, mae pob croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth, Mr Dylan Hughes.
Lawrlwythwch neu argraffwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm “Ymgeisio Nawr”.
Dylech ddychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau i’r ysgol erbyn y dyddiad cau.
Dyddiad Cau: 06-02-25 canol dydd
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:
1. y rhai sy’n 25 oed ac iau;
2. y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
3. y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;
4. y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.
#J-18808-Ljbffr