This job is with BBC, an inclusive employer and a member of myGwork – the largest global platform for the LGBTQ business community. Please do not contact the recruiter directly. Math o Gontract: Contract Cyfnod Penodol o 17 mis Lleoliad: Bangor Cyflog: £21,840 Mae prentisiaeth yn y BBC yn gyfle i chi roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent. Fel un o'r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg yn y byd dros y 100 mlynedd diwethaf, mae gyrfa yn y BBC yn golygu y cewch gyfle i ddysgu gan y gweithwyr proffesiynol mwyaf profiadol ac uchel eu parch yn y busnes. Mae'r Cynllun Prentisiaeth Cynhyrchu yn eich helpu chi i gael profiad gyda thimau cynhyrchu'r BBC ar draws y DU, sy'n creu cynnwys o'r radd flaenaf ar gyfer ein cynulleidfaoedd ar y radio, ar y teledu neu ar lwyfannau digidol. Byddwch yn dysgu yn y gwaith fel rhan o un o dimau cynhyrchu'r BBC, gan ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth cynhyrchu gydag un o'n darparwyr dysgu. Siawns bod gennych chi ddiddordeb erbyn hyn? PRIF GYFRIFOLDEBAU Beth fyddwch chi'n ei wneud ar y brentisiaeth? Fel Prentis Cynhyrchu, byddwch yn dysgu ystod eang o sgiliau ac yn ennill amrywiaeth o brofiadau bywyd go iawn a allai gynnwys: helpu i ddatblygu syniadau a straeon; dysgu sut i ddefnyddio offer technegol a meddalwedd arbenigol; helpu eich tîm ar leoliad/mewn stiwdio; dod o hyd i westeion a chyfranogwyr; ymchwilio i gynnwys; creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol; helpu neu fod yn rhedwr ar lawr y stiwdio; mewn oriel deledu; mewn stiwdio radio. Drwy gydol hyn i gyd, byddwch yn dysgu sgiliau creu cynnwys gan aelodau profiadol o'r tîm cynhyrchu, yn ogystal hyfforddwyr arbenigol y BBC. Beth fyddwch chi'n ei astudio? Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Bydd hyn yn cynnwys dysgu am gynulleidfaoedd, sut mae timau cynhyrchu'n gweithio, creu cynnwys sain a fideo, yn ogystal datblygu sgiliau i'ch paratoi ar gyfer gyrfa ym maes cynhyrchu yn y BBC, neu yn y diwydiant creadigol ehangach. I gael rhagor o wybodaeth am fframwaith/safon y brentisiaeth y byddwch yn ei hastudio, ewch Cymru: yma. I ble y gallai'r rôl hon fynd chi? Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn gallu chwilio am gyfleoedd gwaith yn y BBC neu'r tu allan i'r BBC fel Rhedwr, Ymchwilydd Iau, Cynorthwyydd Cynnwys neu Gynorthwyydd Golygu, Gweithredwr Technegol (yn dibynnu ar y lleoliad a ddewiswch). Mae'r cynllun hwn yn dechrau ym mis Medi 2025 a byddwch ar gontract cyfnod penodol, sy'n golygu bod eich contract am gyfnod y brentisiaeth yn unig. Mae'r cynllun hwn yn para 17 mis. GWYBODAETH AM Y LLEOLIADAU Mae allbwn BBC RADIO CYMRU yn aml-lwyfan. Gyda'r cynllun hwn, byddwch yn dysgu sut i baratoi rhaglenni byw a rhaglenni wedi'u recordio ymlaen llaw, gan ddatblygu sgiliau ymchwil a chynhyrchu. Bydd cyfleoedd hefyd i baratoi cynnwys ysgrifenedig a fideo ar gyfer ein gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein. Oes gennych chi ddiddordeb mewn cerddoriaeth, darnau nodwedd, newyddiaduraeth, drama neu gomedi? Mae'r hyn a gynigir gan yr adran hon yn amrywiol ac yn gyffrous AI CHI YW'R YMGEISYDD GORAU? Mae gennym ddiddordeb yn eich angerdd i weithio yn y BBC a'ch brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o'r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i'n cynulleidfaoedd. Rydyn ni'n chwilio am bobl gadarnhaol sy'n dilyn ein gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydyn ni'n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a'ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd. Drwy gydol y broses ddethol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o sut rydych chi'n dangos pob un o werthoedd ac ymddygiadau'r BBC. Mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn. Maent yn diffinio'r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan y BBC, a'r hyn y mae'r BBC yn ei ddisgwyl gennych chi. Rhagor o wybodaeth am ein gwerthoedd yma. Prentisiaid Cynhyrchu gwych yw'r rhai sy'n gallu dangos y nodweddion canlynol: • Bod yn angerddol a chwilfrydig am gynnwys, a'r broses gynhyrchu yn y BBC • Bod yn llawn syniadau newydd a safbwyntiau ffres am gynnwys y BBC • Bod yn aelod gwych o dîm sy'n gallu delio heriau annisgwyl • Bod yn hyblyg ac yn barod i addasu i'r gwaith. Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau cynhyrchu yn y BBC, rydyn ni'n argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi yn careers.bbc.co.uk neu'n taro golwg ar ein cynlluniau prentisiaeth eraill. Mae'n rhaid i chi fodloni'r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC: • Bod yn 18 oed neu'n hŷn pan fydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2025. • Erbyn dechrau'r brentisiaeth ym mis Medi 2025, bod wedi byw yn y DU neu mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) am o leiaf 3 blynedd. • Bod yn gymwys i weithio yn y DU yn llawn amser drwy gydol y contract prentisiaeth. • Peidio bod yn cymryd rhan mewn cynllun prentisiaeth sy'n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd. I wneud cais am y cynllun hwn, rhaid bodloni'r canlynol hefyd: • Nid ydych wedi cwblhau cymhwyster ym mhwnc y brentisiaeth ar yr un lefel neu lefel uwch, nac yn meddu ar gymhwyster o'r fath. YR HYN Y BYDDWCH CHI'N EI GAEL Yn ystod eich Prentisiaeth: • Cyflog cychwynnol o £21,840 • Hyfforddiant gyda'r gorau yn y diwydiant drwy BBC Academy a'n darparwyr dysgu (gallai olygu teithio i leoliadau ledled y DU) • Rheolwr Tîm ac Arbenigwr Cynllun dynodedig i helpu gyda'ch datblygiad • Hyfforddiant a Mentora gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant • Wythnos waith 35 awr, 25 diwrnod o wyliau blynyddol a chynllun pensiwn buddion wedi'u diffinio. Yn ogystal gofal deintyddol a gofal iechyd rhatach, aelodaeth o gampfa a llawer mwy. Tuag at ddiwedd eich prentisiaeth: • Cymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant • Llawer o brofiad i'ch helpu i chwilio am heriau a chyfleoedd gwaith newydd yn y BBC ac yn y diwydiant ehangach • Hyfforddiant rhwydweithio a chyflogadwyedd i'ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf. Y CAMAU NESAF Peidiwch cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth arbennig. Os mai hwn yw'r cyfle i chi, ewch i 'Gwneud cais nawr' Ar ôl i chi sefydlu eich proffil ymgeisydd, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ateb y cwestiynau yn yr adran gwybodaeth sy'n benodol i'r swydd ar y cais. Does dim angen i chi lanlwytho CV na Llythyr Eglurhaol. Rydyn ni'n chwilio am eich potensial i wneud gwahaniaeth i'r BBC. Os ydych chi'n gymwys ar gyfer y cynllun, byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am gamau'r broses a beth i'w ddisgwyl. Mae trosolwg cyffredinol o'r broses ymgeisio ar gael yma. Cofiwch fod yn rhaid i chi fyw o fewn pellter cymudo i'r lleoliad BBC rydych chi'n gwneud cais amdano ar gyfer y brentisiaeth hon. Mae'r cynllun PRA25 hwn hefyd yn cael ei gynnig mewn lleoliadau eraill, gweler yr hysbysebion cyfatebol os ydych chi'n dymuno gwneud cais am y lleoliadau hyn. Dylech chi wneud cais i un lleoliad yn unig. Bydd prentisiaid sy'n dechrau yn y BBC o fis Medi 2025 ymlaen yn cael eu rhoi ar gontract 'Tymor Sefydlog'. Mae hyn yn golygu mai dim ond am gyfnod eich prentisiaeth y mae eich contract. Mae'r BBC wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn talent newydd ac, wrth i chi nesáu at ddiwedd eich prentisiaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i'ch cefnogi ac yn cynnig hyfforddiant cyflogadwyedd a rhwydweithio i chi i'ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf - gallai hyn fod yn swydd yma yn y BBC, neu rywle yn y diwydiant cyfryngau ehangach. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y rôl/cynllun yma'n cau ar 17/01/2025. GAIR AM Y BBC Mae amrywiaeth yn bwysig yn y BBC. Mae gennym amgylchedd gwaith lle rydyn ni'n gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniad unigryw pob unigolyn, gan alluogi pob un o'n gweithwyr i ffynnu a chyflawni eu potensial yn llawn. Rydyn ni eisiau denu'r ystod ehangaf o bobl dalentog i fod yn rhan o'r BBC - boed hynny i gyfrannu i'n rhaglenni neu i'n hystod eang o swyddi nad ydynt yn ymwneud chynhyrchu. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y mwyaf y bydd modd i ni ymateb i'n cynulleidfaoedd a'u hadlewyrchu yn eu holl amrywiaeth. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, beth bynnag fo'u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. I gael rhagor o wybodaeth am Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y BBC, cliciwch yma. Cymorth gyda'ch cais Ein huchelgais ni yw bod y BBC i bawb ac y dylai gynnwys pawb. Rydyn ni'n falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau sy'n gysylltiedig ag anabledd. Rydyn ni'n cymryd cynhwysiant o ddifrif ac rydyn ni am sicrhau bod pob ymgeisydd sydd ag anabledd neu sydd chyflyrau iechyd tymor hir yn cael y cymorth a'r addasiadau sydd eu hangen arnynt. Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch chi ar gyfer y broses ymgeisio, neu os oes gennych chi anghenion mynediad yr hoffech chi roi gwybod i ni amdanynt, cysylltwch ni yma. Byddem yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut gallwn ni eich cefnogi chi drwy'r broses. ID y cais i lenwi'r rôl hon yw 20521. LI-DNI