Proffil Swydd/Job Profile Teitl y Swydd - Partner Busnes Cynorthwyol - Adnoddau Dynol Post Title –Assistant HR Business Partner Adran Y Prif Weithredwr Department Chief Executive’s Is-adran/Adain Rheoli Pobl Division/Section People Management Gradd/Grade G Rhif y Swydd/Post Number 033482 Paratowyd Gan/Prepared By Ann Clarke/Rob Young Dyddiad/Date Mawrth / March 2024 Prif Ddiben y Swydd Gweithio fel rhan o'r tîm Adnoddau Dynol i ddarparu cymorth Adnoddau Dynol cynhwysfawr. Byddwch yn cydweithio â Phartneriaid Busnes Adnoddau Dynol ar draws Rheoli Pobl a chefnogi'r gwaith o ddadansoddi a dehongli data'r gweithlu, ac o ddatblygu a chyflawni cynlluniau'r gweithlu. Byddwch yn darparu cymorth a chyngor ar bob mater yn ymwneud ag Adnoddau Dynol ar draws pob Adran ac ysgol, gan weithio'n agos gyda'r Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol i gefnogi materion cysylltiadau gweithwyr. Gweithio'n agos gyda'r timau gwasanaethau gweithwyr, byddwch hefyd yn cyfrannu at ddatblygiadau recriwtio corfforaethol (gan gynnwys atebion TG newydd), yn ogystal â chefnogi'r gwaith o ddatblygu a chynnal strategaeth recriwtio ym maes gofal cymdeithasol. Y Prif Ddyletswyddau 1. Rhoi cyngor Adnoddau Dynol cyffredinol ynghylch pob mater yn ymwneud â chyflogaeth gan gynnwys cysylltiadau â gweithwyr, rheoli presenoldeb, pensiynau, materion contractiol a newid trefniadaethol gan alluogi rheolwyr a phenaethiaid ysgolion i wneud penderfyniadau gwybodus. 2. Rhoi cyngor a chymorth amserol i adrannau ac ysgolion o ran rheoli presenoldeb yn effeithiol a chydweithio â'r Ganolfan Iechyd Galwedigaethol i leihau lefelau absenoldeb. 3. Cefnogi cyfleoedd i gydweithio a gweithio'n agos gyda chydweithwyr Rheoli Pobl, fel sy'n briodol, er mwyn darparu gwasanaeth integredig a rennir. 4. Cydlynu a chynorthwyo'r gwaith o gyfathrebu'n glir, yn ysgrifenedig ac ar lafar, ar gyfer staff a rheolwyr ar bob lefel, gan gynnwys grwpiau arwain ysgolion. 5. Llunio a dadansoddi data recriwtio, cadw, a gweithlu y sector mewnol a'r sector ehangach, gan gynhyrchu adroddiadau i lywio camau gweithredu ac ymyriadau recriwtio a chynllunio'r gweithlu. 6. Cydlynu ymgyrchoedd recriwtio sy'n benodol i wasanaethau, gan weithio gyda Rheolwyr, tîm Gwasanaethau Gweithwyr a phartneriaid busnes i ddenu cymaint o bobl â phosibl i swyddi a gyrfaoedd yn yr Awdurdod. 7. Gweithio'n agos gyda'r Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol, ar draws Rheoli Pobl i ddatblygu a chynnal Strategaeth Recriwtio a Chadw a chynllun gweithlu corfforaethol. 8. Cynorthwyo i weithredu system recriwtio corfforaethol newydd, gan sicrhau bod yr holl reolwyr yn cymryd rhan lawn yn hyn a phob datblygiad recriwtio newydd. Yn gyfrifol am staff/offer Na Yn atebol i Rheolwr Adnoddau Dynol (Partneriaeth Busnes) Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau, Hyfforddiant Galwedigaethol ac Aelodaethau Proffesiynol Cymwysterau Sylfaen Lefel 3 y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) neu brofiad cyfwerth mewn maes perthnasol Aelodaeth Gyswllt o CIPD neu barodrwydd i weithio tuag at hynny. Sgiliau a Galluoedd sy'n ymwneud â'r Swydd Y gallu i weithio'n unol â therfynau amser caeth. Y gallu i fod yn hyblyg o ran blaenoriaethau gwaith yn ôl gofynion newidiol. Cydweithio a rheoli perthnasoedd gydag amrywiaeth eang o bobl ar wahanol lefelau o fewn yr Awdurdod, ac yn allanol i'r Awdurdod. Arddangos sgiliau dadansoddi medrus a'r gallu i nodi tueddiadau. Cyfathrebu'n dda ag eraill. Sgiliau rhifedd a llythrennedd ardderchog. Gwybodaeth Deall deddfwriaeth cyflogaeth a chydraddoldeb ac arfer gorau Gwybodaeth dda am systemau TG Profiad Profiad o weithio gyda phobl Profiad amlwg o ymdrin â newid trefniadaethol Profiad o weithio gyda deddfwriaeth cyflogaeth Profiad o ddefnyddio systemau TG Profiad o ddefnyddio data i lywio syniadau a dylanwadu Rhinweddau Personol Gallu blaenoriaethu ac ymateb yn gadarnhaol yn wyneb nifer o amcanion. Sefydlu a chynnal perthnasau da. Gofyn cwestiynau a derbyn her. Uniondeb Cynnal y wybodaeth sydd ei hangen i ymgymryd â'r swydd, a rhannu'r wybodaeth honno. Monitro ansawdd eich gwaith eich hun, a bod yn barod i ddysgu a datblygu yn y swydd Meini Prawf Dymunol Sgiliau Iaith a Chyfathrebu Cliciwch ar y ddolen Beth yw lefel eich gallu? Cymraeg Sgiliau Siarad Lefel 3 Sgiliau Ysgrifennu Lefel 2 Saesneg Sgiliau Siarad Lefel 4 Sgiliau Ysgrifennu Lefel 4 Arall (nodwch) GWIRIADAU'R GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD (DBS) Gall gwiriadau DBS fod yn ofynnol ar gyfer rhai swyddi sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed. Yn ofynnol ar gyfer y swydd hon: Adran A – y math o ddatgeliad Nid oes angen gwiriad DBS Adran B – y math o weithlu Amherthnasol Y RHESWM Ddim yn berthnasol UNRHYW WYBODAETH ARALL Disgwylir i'r holl weithwyr gynnal gwerthoedd craidd yr Awdurdod a glynu wrth egwyddorion Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Awdurdod neu, os cânt eu cyflogi mewn ysgol, Bolisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr ysgol, fel sy'n briodol i lefel atebolrwydd a chyfrifoldeb y swydd yn y sefydliad. Gall fod yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio mewn rhan arall o'r Gwasanaeth Rheoli Pobl yn ôl anghenion y gwasanaeth. Ar adegau, efallai y bydd gofyn i chi weithio'r tu allan i'r oriau gwaith arferol, gyda'r nos neu ar benwythnosau, os bydd angen cefnogi gweithgarwch Adnoddau Dynol penodol bryd hynny. Bydd gennych fynediad at ddata personol ar adegau, ac mae'n rhaid cymryd gofal priodol i gydymffurfio â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Main Purpose of Job Working as part of the HR team to provide a comprehensive HR support role. You will work collaboratively with HR Business Partners (HRBPs) across People Management and support the analysis and interpretation of workforce data, development, and delivery of workforce plans. You will provide support and advice on all HR matters across all Departments and schools, working closely with HRBPs to support on employee relations matters. Working closely with the employee services team, you will also contribute to corporate recruitment developments (including new IT solutions), as well as supporting the development and maintenance of corporate recruitment strategies. Key responsibilities 1. Provide general HR advice on all employment matters including employee relations, attendance management, pensions, contractual matters, and organisational change enabling managers and head teachers to make informed decisions. 2. Provide timely advice and support to departments and schools in effective attendance management and work collaboratively with Occupational Health Centre to reduce absence levels. 3. Support collaborative working opportunities and work closely with People Management colleagues as appropriate to provide an integrated and shared service. 4. Co-ordinate and assist in producing clear communications, written and verbal for all levels of staff and managers, including school leadership groups. 5. Compile and analyse internal and wider sector recruitment, retention, and workforce data, producing reports to inform recruitment interventions and actions and workforce planning. 6. Co-ordinate service specific recruitment campaigns, working with Managers, Employee Services team and business partners to maximise the attraction of people to jobs and careers in the Authority. 7. Work closely with the HR Business Partners, across People Management to develop and maintain a Recruitment & Retention Strategy and workforce plan corporately. 8. Support the implementation of a new corporate recruitment system, ensuring that all managers are fully engaged in this and all new recruitment developments. Responsible for staff/equipment No Reporting to HR Manager (Business Partnering) Essential Criteria Qualifications, Vocational training and Professional Memberships CIPD Level 3 Foundation qualifications or equivalent experience in a relevant field Associate Membership of CIPD or willingness to work towards Job Related Skills and Competencies Ability to work within tight deadlines. Ability to flex work priorities according to changing demands. Collaborate and manage relationships with a wide variety of people at different levels both within the Authority, and external to the Authority. Demonstrate proficient analytical skills and the ability to diagnose trends. Communicate well with others. Excellent numeracy and literacy skills. Knowledge Understanding employment and equalities legislation and best practice Good working knowledge of IT Systems Experience Experience of working with people Experience of dealing with organisational change Experience of working with employment legislation Experience of using IT systems Experience of using data to inform ideas and influence Personal qualities Ability to prioritise and respond positively when given several objectives. Establish and maintain good relationships. Ask questions and accept challenge. Integrity Maintain the knowledge needed to undertake the job and share that knowledge. Monitor the quality of your own work, and be willing to learn and develop in the job Desirable Criteria Language and Communication Skills Click on the link What level are you? Welsh Spoken Level 3 Written level 2 English Spoken Level 4 Written level 4 Other (please State) DISCLOSURE AND BARRING SERVICES (DBS) CHECKS DBS Checks may be required for certain posts which work with children and vulnerable adults. This post requires: Section A – type of disclosure No DBS check required Section B – workforce type Not Applicable JUSTIFICATION N/A ANY OTHER INFORMATION Every employee is expected to uphold the authority’s core values and maintain the principles of the authority’s Equality and Diversity Policy or, if employed within a school, the school’s Equality and Diversity Policy, as appropriate to the accountabilities and seniority of the post within the organisation. Can be required to work in another part of the People Management Service as and when the service needs demand. On occasion you may be required to work outside the standard working hours, on evenings or weekends, if specific HR activity needs to be supported during this time. You will at times have access to personal data, and due care and diligence must be ensured to comply with the general Data Protection Regulation (GDPR). JD attahced