Am Y Gwasanaeth Mae’r swydd yn cynnwys cefnogi Pennaeth y Ganolfan/yr uwch dîm rheoli/y corff llywodraethu drwy gymryd cyfrifoldeb dros reoli safle’r ysgol a’r cyfleusterau cysylltiedig dan system oruchwylio y cytunwyd arni, a chymryd cyfrifoldeb dros reoli a datblygu gwasanaethau safle arbenigol yn yr ysgol. Mae hefyd yn cynnwys rheoli contractwyr allanol sy’n gweithio ar y safle a goruchwylio staff safle eraill gan ddynodi a monitro gwaith, os yw'n berthnasol. Am Y Swydd Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel rhan o dîm ysgol. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Rydym yn chwilio am reolwr ystâd ymroddedig, trefnus a gweithgar i barhau i gynnal yr ysgol a'i systemau i'r safonau uchaf. Gwybodaeth Ychwanegol Swydd ran amser yw hon, am 37 awr yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion. Mae'r swydd hon yn addas i'w rhannu. Rydym yn deall y gallech ddefnyddio AI ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth a roddwch yn ffeithiol gywir, yn gywir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:- Canllawiau Gwneud Cais Gwneud cais am swydd â ni Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol:- Siarter y Gweithwyr Recriwtio Cyn-droseddwyr Nodyn Preifatrwydd Job Reference: EDU00873