Maternity Cover for 14 months Equal Opportunities At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of. Who we are At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing. We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs. Role responsibilities The Supply Chain Manager will contribute and drive forward the implementation of the supply chain vision, advising and supporting the business on supply chain strategies and initiatives that deliver value from Transport for Wales (TfW) supply chain relationships and contracts. Contribute to shaping and implementing TfW's Supply Chain Management (SCM) strategy and vision into deliverables aligned to TfW strategic priorities through the implementation of supply chain initiatives and activities to build an environment which encourages high performance and continuous development within the SCM team and across the organisation. Identify opportunities to better improve and create efficiencies by overseeing the supply chain and keeping abreast of changes in industry best practice and legislation to ensure TfW has a best in class and compliant supply chain management provision, continuously improving the supply chain management function. Support and drive initiatives that extract value from our supply chain relationships and contracts through supply chain management strategies, delivering savings and benefits that support TfW strategic objectives. Develop and drive responsible procurement governance in line with the requirements of the Social Partnership and Procurement (Wales) Act, to include social value measures by collaborating with key stakeholders across the business and ensure measures are embedded in contractual obligations and performance measures to provide demonstrable evidence in reporting requirements. Who we’re looking for Experience of working in a complex supply chain environment. Experience of identifying and managing risk in the supply chain. Knowledge and understanding of sustainable and social value approaches in the supply chain in order to develop a diverse supply chain. Previous experience in the governance and assurance of the supply chain. Welsh Language Skills The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role. Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses. Next steps Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details. Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful. This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications. Gorchudd Mamolaeth am 14 mis Cyfle Cyfartal Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Pwy ydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb. Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. Cyfrifoldebau’r swydd Bydd y Rheolwr Cadwyn Gyflenwi yn cyfrannu at weithredu gweledigaeth y gadwyn gyflenwi ac yn gyrru hynny ymlaen, gan gynghori a chefnogi'r busnes ar strategaethau a mentrau cadwyn gyflenwi sy'n sicrhau gwerth o berthnasoedd a chontractau cadwyn gyflenwi Trafnidiaeth Cymru (TrC). Cyfrannu at y gwaith o lunio a gweithredu strategaeth a gweledigaeth Rheoli Cadwyn Gyflenwi (SCM) TrC a’u troi’n amcanion sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol TrC drwy weithredu mentrau a gweithgareddau cadwyn gyflenwi i adeiladu amgylchedd sy'n hybu perfformiad uchel a datblygiad parhaus o fewn y tîm SCM ac ar draws y sefydliad. Nodi cyfleoedd i wella ac i greu effeithlonrwydd drwy oruchwylio’r gadwyn gyflenwi a bod yn ymwybodol o newidiadau yn arferion gorau a deddfwriaeth y diwydiant i sicrhau bod gan TrC y ddarpariaeth rheoli cadwyn gyflenwi orau bosibl a chydymffurfiol, gan wella'r swyddogaeth rheoli cadwyn gyflenwi yn barhaus. Cefnogi a gyrru mentrau sy'n echdynnu gwerth o'n cysylltiadau a'n contractau cadwyn gyflenwi drwy strategaethau rheoli'r gadwyn gyflenwi, gan sicrhau arbedion a buddion sy'n cefnogi amcanion strategol TrC. Datblygu a gyrru llywodraethiant caffael cyfrifol yn unol â gofynion y Bartneriaeth Gymdeithasol a Deddf Caffael (Cymru), i gynnwys mesurau gwerth cymdeithasol trwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol ar draws y busnes a sicrhau bod mesurau'n cael eu hymgorffori mewn rhwymedigaethau cytundebol a mesurau perfformiad i ddarparu tystiolaeth amlwg o ran adrodd am ofynion. Am bwy rydyn ni’n chwilio Profiad o weithio mewn amgylchedd cadwyn gyflenwi gymhleth. Profiad o nodi a rheoli risg yn y gadwyn gyflenwi. Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau cynaliadwy a gwerth cymdeithasol yn y gadwyn gyflenwi er mwyn datblygu cadwyn gyflenwi amrywiol. Profiad blaenorol o lywodraethu a sicrhau’r gadwyn gyflenwi. Sgiliau Iaith Gymraeg Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol Y camau nesaf A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion. Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus. Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.