Lleoliad gwaith: Coed Pella
Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol iechyd a diogelwch gyda phrofiad i weithio mewn amgylchedd aml-ddisgyblaeth.
Dylai fod gennych gymhwyster Lefel 6 mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, ac yn Aelod Siartredig o Sefydliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol neu’n gweithio tuag at gyflawni hynny.
Byddwch yn darparu swyddogaeth ymgynghorol i’r Cyngor ar bob mater diogelwch, iechyd, a lles, o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol Corfforaethol, ac yn chwarae rhan arweiniol wrth sicrhau bod y Cyngor yn cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch cyfredol ac unrhyw ddatblygiadau ac unrhyw safonau iechyd a diogelwch eraill cydnabyddedig. Rydym yn darparu hyfforddiant mewnol ac yn monitro, gan gynnwys cynnal rhaglen o archwiliadau mewnol, yn ogystal ag archwiliadau i ddigwyddiadau / damweiniau.
Os teimlwch mai dyma’r rôl i chi, cyflwynwch ffurflen gais neu cysylltwch â Richard Evans am drafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r swydd.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
(bold heading)Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Richard Evans, Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (01492 576090 / Richard.h.evans@conwy.gov.uk)
(bold heading)Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Work base: Coed Pella
We are looking for a health and safety professional with experience to work in a multi-disciplinary environment.
You should have an Occupational Health & Safety Level 6 qualification and hold or be working towards Chartered Member of the Institute of Occupational Safety and Health or equivalent.
You will be providing an advisory function to the Council on all matters of safety, health, and welfare, under the direction of the Corporate Occupational Health and Safety Manager and will play a leading role in ensuring that the Council complies with current and developing health and safety legislation and other recognised health and safety standards. We deliver in house training and conduct monitoring, including a programme of internal audits, and incident / accident investigations.
If you feel like this is the role for you, please submit an application form or contact Richard Evans for an informal discussion regarding the post.
This role offers flexible working options for a work life balance. This can include adjusting your working day and hybrid working, ie a balance of office and home working.
(bold heading)Manager details for informal discussion: Richard Evans, Corporate Health & Safety Manager (01492 576090 / Richard.h.evans@conwy.gov.uk)
(bold heading)Welsh Language Skills: The ability to communicate in Welsh is desirable for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other.
We’re passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Conwy is committed to safeguarding. Qualifications and references will be verified.
In promoting Equal Opportunities, Conwy welcomes applicants from all sections of the community. All Disabled applicants who meet the essential job requirements will be guaranteed an interview. The Council will provide appropriate additional work facilities for disabled applicants. There is an option for disabled people to apply on different formats. Please contact the HR Team on 01492 576129 for further advice.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .