Mae Partneriaeth Ogwen yn darparu gwasanaeth clercio i dri o Gynghorau Cymuned Dyffryn Ogwen, sef Cynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai. Mae Partneriaeth Ogwen am benodi Clerc i weinyddu gwaith a chyllideb 2 Gyngor Cymuned, sef Bethesda a Llandygai. Gan ddal swydd gyfreithiol a chyhoeddus gyfrifol, bydd y Clerc yn gweinyddu materion y Cyngor ac yn sicrhau bod cyfarwyddiadau’r Cyngor yn cael eu cyflawni mewn perthynas â’i ddyletswyddau fel awdurdod lleol.
Bydd y Clerc yn gweithio o swyddfa'r Bartneriaeth ar Stryd Fawr, Bethesda gan ymateb i ymholiadau trigolion lleol ac ymwelwyr i'r swyddfa. Bydd y Clerc yn gyfrifol am wneud gwaith clercio i’r ddau Gyngor Cymuned gan gydlynu cyfarfodydd ac arwain ar waith dilynol. Bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn cynghori’r Cyngor wrth ffurfio ei bolisïau a’i weithgareddau cyffredinol. Yn benodol, cynhyrchu’r holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar gyfer gwneud a gweithredu penderfyniadau effeithiol.
#J-18808-Ljbffr