Ysgol Gymraeg Caerffili Ar gyfer: Medi 2025 Nifer disgyblion ar y gofrestr: 430 Prif Raddfa Cyflog Mae gennym ddwy swydd athro llawn amser ar gael: Un swydd gyda chontract parhaol. Un swydd gyda chontract cyfnod penodol (contract blwyddyn yn y lle cyntaf). Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, proffesiynol, gweithgar ac ymroddedig i ymuno â’n tîm. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar ddealltwriaeth drylwyr o addysgeg effeithiol a’r gallu i ysbrydoli ein disgyblion. Bydd y staff newydd yn derbyn croeso a chefnogaeth lawn gan dîm cryf o arweinwyr, athrawon a staff cynorthwyol, sydd wedi sicrhau safonau dysgu ac addysgu rhagorol trwy'r ysgol. Mae'r ysgol yn canolbwyntio ar recriwtio'r staff addysgol gorau, a disgwylir i'r ymgeiswyr llwyddiannus gallu addysgu yng Ngham Cynnydd 1, 2 neu 3. Mae Ysgol Gymraeg Caerffili yn ysgol flaengar sy’n gosod disgwyliadau hynod uchel ar gyfer ein disgyblion, staff a’r gymuned gyfan. Gyda dull arloesol o addysgu a dysgu, rydym yn meithrin disgyblion uchelgeisiol, hyderus ac ymroddedig sy’n barod ar gyfer heriau’r dyfodol. Mae ein disgyblion wrth galon popeth a wnawn – o greu cyfleoedd dysgu ysbrydoledig i sicrhau eu bod yn cael gofal, cefnogaeth a chyfleoedd i ffynnu. Trwy arweinyddiaeth gadarn, cydweithio cryf a diwylliant o ragoriaeth, rydym yn adeiladu cymuned hapus, gefnogol a Chymreig lle mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a’i annog i gyflawni ei botensial llawn. Sylwadau Estyn 2022 Yn dilyn pumed arolwg llwyddiannus Estyn, dywedodd yr adroddiad: Mae lles ac agweddau disgyblion at ddysgu yn gryfder amlwg. Mae disgyblion yn gwrtais a pharchus. Mae disgyblion yn ymddwyn yn gyson dda mewn gwersi ac ar y maes chwarae. Mae addysgu yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog sy'n cefnogi dysgwyr i fod yn uchelgeisiol a hyderus. Mae trefniadau ar gyfer asesu ac olrhain cynnydd disgyblion yn gadarn. Mae staff yn darparu cymorth ardderchog ar gyfer lles disgyblion. Dyddiadau Allweddol Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 25 Ebrill 2025 Rhestr Fer: Wythnos sy’n dechrau 28 Ebrill 2025 Arsylwadau gwersi: Wythnos sy’n dechrau 28 Ebrill. Cyfweliadau: Wythnos sy’n dechrau 5 Mai. Sut i Wneud Cais Ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o wefan Eteach neu ar gais trwy’r ysgol. Nodwch ba swydd rydych yn ymgeisio amdani. Dylid eu dychwelyd at y Pennaeth Dros Dro: Mrs Eleri Jones, Ysgol Gymraeg Caerffili, Heol Pontygwindy, Caerffili, CF83 3HG Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth Dros Dro: Mrs Eleri Jones Ffôn: 02920 852531 E-bost: YsgolGymraegCaerffilisch.caerphilly.gov.uk Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974), a bydd pob ymgeisydd yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Yn unol â’r Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996, mae’n ofynnol i ni gasglu tystiolaeth o’ch hawl i weithio yn y DU. Bydd angen darparu dogfennau perthnasol megis pasbort, trwydded waith neu dystysgrif geni llawn os cewch eich gwahodd i gyfweliad. Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn eich cais