Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol - Cymru
Wedi’i Leoli Gartref
Y Cwmni
Mae Grwp 24x7 yn cael ei gydnabod fel y prif ddarparwr o gludiant addysg arbenigol i blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig.
Rydym yn gweithio yn y sector trafnidiaeth ers blynyddoedd lawer, ond ers 2001 mae ein cyfarwyddwyr yn defnyddio eu gwybodaeth a'u profiad helaeth i ddylunio a sefydlu'r corff cludiant anghenion arbennig gorau a mwyaf effeithiol yn y wlad. Rydym yn parhau i dderbyn llawer o wobrau am ein gwasanaeth i'r sector ac i rydym randdeiliaid.
Rydym bellach yn chwilio am Reolwr Gweithrediadau Rhanbarthol i ymuno â'r tîm yn llawn amser ac yn barhaol ac i chwarae rôl sylfaenol wrth yrru ein llwyddiant parhaus yng Nghymru.
Y Buddion
- Cyflog cystadleuol
- Bonws Deniadol
- Cynllun Pensiwn Cwmni (gwirfoddol)
- 20 diwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â Gwyliau Banc
Mae hwn yn gyfle na ellir ei golli i arweinydd sydd â phrofiad o reoli ar lefel ranbarthol ymuno â'n sefydliad ysbrydoledig.
Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda set o unigolion o'r un anian ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant sydd ag anghenion addysgol arbennig. Gyda'ch arbenigedd a'n gweledigaeth, byddwn yn gyrru'r busnes yn ei flaen.
Y Rôl
Fel y Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol, byddwch yn goruchwylio ein gweithrediadau ledled Cymru.
Yn benodol, byddwch yn recriwtio ac yn rheoli tîm o Reolwyr Ardal, gan sbarduno twf y busnes a sicrhau bod anghenion cwsmeriaid yn cael eu bodloni.
Gan oruchwylio rheolaeth staff, byddwch yn gyrru recriwtio ac yn sicrhau cydymffurfiaeth reoleiddiol bob amser. Byddwch yn sicrhau bod systemau ar waith i gefnogi eich tîm ac i alluogi ein pobl i ffynnu yn y gwaith.
Byddwch yn rheoli contractau a gwasanaethau, tra byddwch yn sicrhau hefyd fod ein busnes yn parhau’n broffidiol ac yn parhau i dyfu a ffynnu.
Amdanoch chi
I gael eich ystyried ar gyfer swydd y Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol, bydd arnoch angen:
- Hanes diymwad o arwain a rheoli eich safle adrannol eich hun
- Profiad helaeth o reoli staff a rhywfaint o wybodaeth am recriwtio
- Profiad o oruchwylio rheoli contractau
- Profiad o gaffael gwasanaethau trwy wasanaethau trydydd parti a phyrth tendro
- Sgiliau rheoli ariannol a rheoli costau
- Sgiliau rheoli perthynas datblygedig
Byddai profiad mewn rheoli trafnidiaeth yn fuddiol i'ch cais. Byddai sgiliau iaith Gymraeg, yn ogystal â rhuglder yn y Saesneg, hefyd yn fanteisiol.
Mae’n bosibl y bydd sefydliadau eraill yn galw'r rôl hon yn Rheolwr Gweithrediadau, Rheolwr Is-adran, Rheolwr Gwlad, Rheolwr Safle, neu Reolwr Gwasanaeth.
Mae 24x7 Group yn gyflogwyr cyfle cyfartal, yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi ymrwymo'n gryf i ddarparu cyfleoedd cyfartal o ran cyflogaeth i bob gweithiwr a phob ymgeisydd am gyflogaeth. Cyfle cyfartal yw'r unig ffordd dderbyniol o gynnal busnes a chredwn po fwyaf cynhwysol yw ein hamgylcheddau, gorau oll fydd ein gwaith.
Felly, os ydych chi'n barod i ymuno â'r tîm fel ein Rheolwr Gweithrediadau Rhanbarthol, dewiswch y botwm gwneud cais a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Y gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yw rhai Asiantaeth Cyflogi.