Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Gyda gweledigaeth newydd a fydd yn dod ag egni newydd i'n gwaith, mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i Grŵp Cynefin. Mae creu rôl Pennaeth Llywodraethu, i weithio fel rhan o'r Tîm Arweinyddiaeth ehangach, yn ganolog i ddiwylliant a gweledigaeth y grŵp i'r dyfodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y ffordd mewn rôl amrywiol a chyffrous. Byddant yn:
* cefnogi trawsnewid sefydliadol ar draws y grŵp
* cefnogi twf a datblygiad staff
* gwella profiad y cwsmer trwy ddatblygu eu gallu i ddylanwadu ar bob lefel
* darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol
* cryfhau ein proffil cadarnhaol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol
Mae wedi bod yn gyfnod o ystyried, adolygu, gweld lle gallwn wella a gweithredu arno. Rydyn ni yn awr mewn lle hynod o gadarnhaol ac mae'r dyfodol yn un cyffrous.
Rydym yn chwilio am unigolyn i gefnogi byrddau'r grŵp a'r is-gwmniau ym mhob agwedd o'r swydd.
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau bod Grŵp Cynefin yn parhau i weithredu mewn modd sy'n cydymffurfio drwy osod, monitro a gwreiddio Fframwaith Sicrwydd y Bwrdd yn unol â'n Cynllun Corfforaethol newydd, strategaethau busnes, deddfwriaeth, codau ymarfer a gofynion rheoleiddiol a chyfansoddiadol.
Bydd deilydd y swydd yn gweithredu fel ysgrifennydd cwmni Grŵp Cynefin ac yn cynghori'r Bwrdd, y Pwyllgorau a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ar faterion Llywodraethu Corfforaethol ac yn rhoi mewnbwn i drawsnewid strategol Grŵp Cynefin.
Bydd deilydd y swydd yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o safon uchel i'n holl staff a defnyddwyr gwasanaeth a bod yr holl wasanaethau o dan eich arweinyddiaeth yn parhau'n gyfoes a bod llais ein tenant yn cael ei ddefnyddio ar bob lefel o'r sefydliad i wella gwasanaethau.
Bydd deilydd y swydd yn darparu adroddiadau amserol i'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Pwyllgorau a Bwrdd Grŵp Cynefin yn ôl yr angen.
Os oes gennych y rhinweddau a'r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i'n dyfodol, hon yw'r swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch â Crofton Davey, Cydlynydd Adnoddau Dynol ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: Cystadleuol
Oriau: 35 ayw
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal â'r gwyliau banc statudol a'r cyfnod rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
Pensiwn: Mae Grŵp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Buddiannau
Pecyn Buddion.pdf
Datblygiad Personol:
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol a'ch bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol i'ch corff aelodaeth, byddwn yn talu un o'r rhain bob blwyddyn i'ch helpu i aros yn gysylltiedig â'r wybodaeth a'r addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau i'n holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chi'n gweithio gyda ni byddwn ni'n buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Canllawiau cwblhau cais.pdf
Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau 9 Rhagfyr 2024
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.
#J-18808-Ljbffr