Rydym yn chwilio am Arweinydd Prosiectau Dysgu a Datblygu (DaD) profiadol i gyflenwi dros dro am gyfnod penodol o 12 mis. Mae hon yn rôl arwain ymarferol, sy'n gofyn am rywun sy'n gallu cychwyn yn syth a chael effaith ar unwaith. Nid rôl datblygu yw hon; mae arnom angen gweithiwr proffesiynol credadwy sy'n hyderus wrth gyflwyno hyfforddiant ei hun yn ogystal ag arwain prosiectau DaD strategol sy'n gyrru rhagoriaeth weithredol.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu, rheoli a chyflawni prosiectau DaD sy'n gwella gallu arweinyddiaeth, ymgorffori newid diwylliannol, a gwella perfformiad ar draws y Gwasanaeth. Bydd y rôl yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod gan GTADC y sgiliau, y wybodaeth, a'r gallu i arwain sydd eu hangen i gynnal a gwella effeithiolrwydd gweithredol. O ystyried natur gyflym y rôl, rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn hydwyth, gan allu addasu i flaenoriaethau sy'n gwrthdaro, bod yn ystwyth eu hymagwedd, gyda syniadau sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau.