Am Y Gwasanaeth Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y Brifysgol? Cael swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn syth erbyn cymhwyso’r flwyddyn nesaf. Cyflog Cystadleuol Taliad Atodol ar sail y Farchnad Rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr Tyfu a datblygu Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF Dull Ffocws ar y Teulu Gweithio hybrid Diwylliant gwaith hyblyg Swm hael o wyliau blynyddol Dewch i fod yn Gynorthwy-ydd Gwaith Cymdeithasol ar ôl i chi orffen eich lleoliad olaf a thra’ch bod yn aros i gael eich cymhwyster, pam aros, ymgeisiwch nawr Ymgeisiwch ac os cyrhaeddwch y rhestr fer, byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn ystod yr wythnosau nesaf. Gallwn ni ddarparu cymorth ac arweiniad gyda'ch cais ac i baratoi cyn y cyfweliad. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â ni. Ynglŷn â’r Gwasanaeth Yng Nghaerdydd rydym wedi datblygu rhaglen arloesol a fydd yn rhoi mentor i chi (y tu allan i'ch tîm gwaith) a fydd yn eich helpu i adnabod, datblygu a bodloni eich anghenion hyfforddiant parhaus a sicrhau eich bod yn barod i symud ymlaen i'r cam nesaf, sef y cwrs atgyfnerthu yn y brifysgol. Caerdydd yw'r unig awdurdod lleol yn Ne Cymru i ddarparu aseswyr ymarfer annibynnol i'ch helpu gyda’ch dilyniant drwy hyn, a sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i gwblhau'r cam hwn o'ch gyrfa gwaith cymdeithasol yn llwyddiannus. Mae gennym raglen hyfforddiant gynhwysfawr a fydd yn eich galluogi i gael mynediad at yr holl hyfforddiant gorfodol a grwpiau cymorth rheolaidd i sicrhau eich bod mewn cysylltiad â gweithwyr eraill sydd newydd gymhwyso Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i dyfu a datblygu drwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth reolaidd ac effeithiol, ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddilyn datblygiad gyrfaol, er enghraifft eleni mae 10 gweithiwr mewnol wedi cael swyddi uwch o fewn ein timau Gwaith Cymdeithasol. Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Ar ben hynny, Caerdydd hefyd yw’r ddinas gyntaf yn y DU i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF, sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Am Y Swydd Ein Dull Gwaith Cymdeithasol Rydym wedi ailgynllunio ein gwasanaethau i ddilyn taith y plentyn ac wedi creu timau ardal sy'n galluogi gweithwyr i gysylltu'n agos â chymunedau a gwasanaethau lleol. Mae diwylliant iach o ddysgu, cymorth a theulu ar draws ein timau gwaith cymdeithasol anhygoel. Mae’r timau’n gweithio yn ôl dull sy’n seiliedig ar gryfderau (Arwyddion Diogelwch) er mwyn bodloni anghenion pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae gennym amrywiaeth o waith achos, cefnogaeth unigol, ymroddedig a rheolaidd gan uwch reolwyr ochr yn ochr â chyfleoedd dilyniant i'r ymgeisydd llwyddiannus. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull ‘Ffocws ar y Teulu’, sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych. Ymgyfreitha am Y Swydd Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol Gwiriadau manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru Trwydded yrru ddilys lawn a’r defnydd o gar. Y Buddion A Gynigir Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd, gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi. Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a’r Fro, sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg a dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl. Yn weithredol o 1 Ebrill 2024, bydd y rolau hyn yn gymwys ar gyfer taliad atodol marchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£40,235 – £44,513). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis. Dyma rywfaint o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clodydd Caerdydd. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi Rydym yn chwilio am y canlynol: Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eu blwyddyn olaf yn y Brifysgol a Graddedigion Gwaith Cymdeithasol diweddar. Bydd angen i chi allu dangos sgiliau asesu ardderchog a gallu ysgrifennu cofnodion ac adroddiadau cryno. Byddwch yn weithiwr tîm da ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, yn ogystal â sgiliau TG. Gallwn Gynnig Swyddi Parhaol Yn Y Timau Canlynol: Ardal Leol - Mae timau Diogelu a Phlant Sy’n Derbyn Gofal Caerdydd bellach wedi'u lleoli mewn 3 ardal leol ar draws y ddinas, yn Llaneirwg yn y dwyrain, y Tyllgoed yn y gogledd a Bae Caerdydd yn y de gan alluogi staff i fod wedi'u lleoli yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. O fewn ardal ddaearyddol y tîm, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc trwy gynnal asesiadau cadarn, cynllunio sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau ac ymyriadau effeithiol i'w cefnogi wrth gyflawni deilliannau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Iechyd ac Anabledd Plant - Rydym yn dîm arloesol a chreadigol o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys addysg, iechyd meddwl oedolion, gwasanaethau therapiwtig, maethu a phreswyl. Rydym yn cydweithio â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd ar y cyd ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol i greu cynlluniau CAMPUS sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Geiriau Allweddol: Gwaith Cymdeithasol, Myfyriwr Gwaith Cymdeithasol, Gweithiwr Cymdeithasol, Graddedig, newydd gymhwyso, ymarferydd gwaith cymdeithasol newydd, ymarferydd gwaith cymdeithasol, ymarferydd gwaith cymdeithasol, gweithwyr cymdeithasol ar ddechrau eu gyrfa, graddedigion gwaith cymdeithasol diweddar; Gofal Cymdeithasol Cymru, Gwasanaethau Plant, lles plant, cymorth i deuluoedd, iechyd plant, asesiad lles, gweithwyr achos, Derbyn ac Asesu, Ardaloedd, Diogelu, Arwyddion Diogelwch, ail-ddechrau gyrfa Gwaith Cymdeithasol. Gwybodaeth Ychwanegol Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod. Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gydag Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.