Equal Opportunities At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of. Who we are At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing. We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs. Role responsibilities We are currently recruiting for a Change Project Manager to support the Head of Change Management in delivering a range of change projects and programmes. This role will initially focus on supporting the transformational South East Wales Metro programme. This is a role that will work closely with internal TfW Stakeholders ensuring all governance and reporting requirements are met, highlight risks and opportunities, and provide advice based upon experience. Responsibilities to include but are not limited to: Support the Head of Change Management to deliver change projects, implementing the project plans, scheduling of all tasks, key milestones and resource management using an agreed framework to ensure these are completed to time, cost and quality Reactively respond to requests to support and manage change projects. Providing a professional and effective change project management service, including project management planning and monitoring, reporting, working groups, in accordance with the required processes and timelines to ensure projects support the delivery of TfW Strategic Objectives and delivered to cost and quality. Who we’re looking for Demonstrable track record in similar roles within a similar business environment. An understanding of operational or infrastructure projects/programmes is especially welcomed. Strong project management capabilities, and relevant qualification(s). Excellent analytical skills, attention to detail and business writing skills, including experience of creating management reports. Proven ability to work with a range of internal and external stakeholders. Welsh Language Skills The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role. Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses. Next steps Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details. TFW is a Disability Confident employer. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful. This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications. Cyfle Cyfartal Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, ac yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell ac i fod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb ei safbwynt ei hun, felly rydyn ni’n creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Drwy wneud hyn, rydyn ni’n benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydyn ni'n creu rhwydwaith trafnidiaeth gynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Pwy ydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli gwlad i newid y ffordd y mae’n teithio, fel bod pawb ohonom yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb. Rydyn ni’n weithle agored a chynhwysol, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni eisiau creu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i ddatblygu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru, i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. Cyfrifoldebau’r swydd Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am Reolwr Prosiectau Newid i gefnogi’r Pennaeth Rheoli Newid i gyflawni amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni newid. Bydd y swydd hon yn canolbwyntio i ddechrau ar gefnogi rhaglen drawsnewidiol Metro De-ddwyrain Cymru. Mae hon yn swydd a fydd yn gweithio’n agos gyda Rhanddeiliaid mewnol TrC gan sicrhau bod yr holl ofynion llywodraethu ac adrodd yn cael eu diwallu, tynnu sylw at risgiau a chyfleoedd, a darparu cyngor ar sail profiad. Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill: Cefnogi’r Pennaeth Rheoli Newid i gyflawni prosiectau newid, gan roi cynlluniau’r prosiectau ar waith, amserlennu’r holl dasgau a cherrig milltir allweddol, a rheoli adnoddau gan ddefnyddio fframwaith y cytunwyd arno i sicrhau bod y rhain yn cael eu cwblhau yn unol â’r amserlen, y gost a’r ansawdd a ddisgwylir Ymateb yn rhagweithiol i geisiadau i gefnogi a rheoli prosiectau newid. Darparu gwasanaeth rheoli prosiectau newid proffesiynol ac effeithiol, gan gynnwys gweithgorau, adrodd, cynllunio a monitro’r gwaith o reoli prosiectau, yn unol â’r prosesau a’r amserlenni gofynnol i sicrhau bod prosiectau’n cefnogi'r gwaith o gyflawni Amcanion Strategol TrC y cytunwyd arnynt, a’u bod yn cael eu cyflawni yn unol â’r gost a'r ansawdd a ddisgwylir. Am bwy rydyn ni’n chwilio Profiad amlwg mewn rolau tebyg, mewn amgylchedd busnes tebyg. Croesewir yn arbennig ddealltwriaeth o brosiectau/rhaglenni gweithredol neu seilwaith. Gallu cadarn i reoli prosiectau, a chymhwyster(au) perthnasol. Sgiliau dadansoddi rhagorol, sylw i fanylion a sgiliau ysgrifennu busnes, gan gynnwys profiad o greu adroddiadau rheoli. Gallu amlwg i weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol. Sgiliau Cymraeg Byddai’r gallu i siarad/ysgrifennu yn y Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg gan weithwyr, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, i wella ac i gynnal eu sgiliau Cymraeg. Rydyn ni'n rhoi cefnogaeth lawn i'n staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel dysgu ar-lein, cyrsiau mewn ystafell ddosbarth a chyllid i fynd i gyrsiau cymunedol lleol. Y camau nesaf Ai'r swydd hon yw'r cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd wedi'i atodi i gael rhagor o fanylion. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus. Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os byddwn wedi derbyn digon o geisiadau.