Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am weithwyr proffesiynol medrus, llawn cymhelliant, gweithwyr profiadol neu'r rhai sydd newydd gymhwyso ym maes gwaith cymdeithasol a all greu newidiadau cadarnhaol yn y teuluoedd a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Os ydych chi'n rhagori mewn lleoliad llawn dychymyg sy'n canolbwyntio ar y plentyn, efallai mai dyma'r cyfle iawn i chi.
Mae’r Tîm Asesu a Chefnogi wedi ymrwymo i wella safonau cefnogaeth i Blant a’u Teuluoedd gan gynyddu’r adnoddau sydd ar gael i’r Gweithiwr Cymdeithasol a chadw nifer yr achosion sydd ganddynt ar lefel ddichonadwy a phriodol ar gyfer eu sgiliau a’u profiad.
Mae’r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chefnogaeth, plant sydd angen eu hamddiffyn, Plant sy’n Derbyn Gofal a phlant sy'n agored i Achosion Cyfreithiol Cyhoeddus a Phreifat. Mae'r tîm yn ymdrin â rhywfaint o gyfraith breifat, fodd bynnag, caiff Achosion eu trosglwyddo i'n tîm cyfreithiol arbenigol ar y pwynt Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus
Yn y ddau dîm, byddwch yn cael cefnogaeth eich cydweithwyr; mae yna gymhareb uchel o reolwyr tîm i weithwyr a strwythur rheolaeth atebol cyfeillgar ac agored. Mae pob aelod staff yn gweithio oriau hyblyg.
Mae datblygu gyrfa yn bwysig i Gonwy ac mae yna lwybr clir ar gyfer datblygiad i weithwyr sydd newydd gymhwyso neu sy’n fwy profiadol e.e. CPEL/Porth Agored a Hyfforddiant Cydymchwiliad gyda’r Heddlu. Bydd cefnogaeth ar gael drwy oruchwyliaeth ffurfiol reolaidd a bydd goruchwyliaeth anffurfiol, Adolygiadau Datblygu Personol a chyfleoedd Datblygu Gyrfa ar gael drwy Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus ar gyfer swyddi parhaol.
Mae’r mwyafrif o swyddogion yr Awdurdod Lleol bellach wedi eu lleoli o fewn ein hadeilad newydd, cynllun agored o’r radd flaenaf yng Nghoed Pella, Bae Colwyn. Un o brif fanteision hyn yw’r agosrwydd at adrannau partner fel Cyfiawnder Ieuenctid, Addysg, Tai, Gwasanaethau Oedolion a llawer mwy.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gydweithio gyda theuluoedd ac annog Gwaith Uniongyrchol nid Gwaith Papur gymaint â phosibl.
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais rhaid i chi fod ag BA/MA mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster gwaith cymdeithasol cyfwerth, CQSW neu DipSW. Yn ddelfrydol bydd ymgeiswyr wedi cael profiad ar ôl cymhwyso mewn gweithio gyda phlant a theuluoedd a byddai’n fanteisiol petai gan ymgeiswyr brofiad o weithio yn y llys ar gyfer swydd gyda’r Tîm Diogelu a Chyfreithiol.
Mae’n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu teithio ledled y Sir yn rheolaidd, yn aml i ac o leoliadau anghysbell ar fyr rybudd.
Gan fod y tîm yn gweithio mewn ardal ddwyieithog, mae’r gallu i gyfathrebu yn Saesneg yn hanfodol a’r Gymraeg yn ddymunol.
Sylwch nad ydym yn sefydliad noddi ar hyn o bryd.
Work base: Coed Pella, Colwyn Bay
Conwy County Borough Council is looking for skilled, motivated professionals, experienced workers or those newly qualified within social work who can create positive changes in the families and communities they serve. If you excel in a child-focused and imaginative setting, this might be the right opportunity for you.
The Assessment and Support Team is committed to driving up the standards of support to Children and their Families by increasing the resources available to the Social Worker and keeping caseloads manageable and appropriate for you skills and experience.
The team is responsible for delivering services to children in need of care and support, children in need of protection, Looked After Children and children who are subject to Public & Private Law Proceedings. The team does do some private law, however, Cases transfer to our specialist legal team at point of Public Law Outline
Within the team you will feel supported by your peers, there is a low ratio of team manager to workers and a friendly and available line management structure. The opportunity to work flexible hours is available i.e. 9 day fortnight.
Career development is important to Conwy. There is a clear pathway for progression for both newly qualified as well as more experienced workers i.e. CPEL/Porth Agored and Joint Investigation Training with the Police. Support will be available through regular formal supervision, informal supervision and Career Development opportunities through CPEL for permanent posts.
The majority of Local Authority officers are now located within our, open-plan, state of the art building at Coed Pella, Colwyn Bay. One of the key benefits of this is the close proximity to partner departments such as Youth Justice, Education, Housing, Adult Services and many others.
Conwy is committed to collaborative working with families and will encourage Direct Work not Paper work as much as possible.
In order to be eligible to apply you must hold a recognised Social Work qualification - BA/MA, CQSW or DipSW. Ideally applicants will have post qualifying experience in working with Children and families.
It is essential that the post holder has the ability to travel throughout the County on a regular basis, often to and from remote locations at short notice.
As the team works in a bilingual area, the ability to communicate in English is essential and Welsh is desirable.
Please note that we are not currently a sponsoring organisation.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .