Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Welsh Language Skills are essential for this position
Cynorthwy-ydd Addysgu (Cyfnod Mamolaeth)
Generig Lefel 2 (27 awr)
Angen ar gyfer Ebrill, 2025
(Neu cyn gynted a phosib)
Mae llywodraethwyr Ysgol Gymraeg y Trallwng yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Addysgeg ysbrydoledig, brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer yr ysgol flaengar a chynhwysol
hon. Ysgol Gymraeg Y Trallwng, ysgol gynradd sy’n ysgogi a chefnogi pawb sy’n ynghlwm â’r ysgol mewn modd creadigol, torfol a byrlymus. Mae’r ysgol yn cynnig profiadau newydd,
gwerthfawr ac unigryw sy’n sicrhau profiadau dysgu arloesol a difyr. Mae’r staff yn gofalu’n gydwybodol a theyrngar am eu disgyblion ac mae’r disgyblion yn teimlo’n ddiogel ym mhob achos. Mae’r ysgol yn canolbwyntio ar ysgogi pob disgybl i fod yn fedrus a deallus, yn ogystal â datblygu’r staff yn broffesiynol. Mae ffocws angerddol ar yr iaith a’r ymdeimlad o berthyn wrth hybu a ffynnu’r Iaith Gymraeg yn y Trallwng. Yn dilyn adroddiad Estyn llwyddiannus ac adeilad newydd anghredadwy, mae dyfodol disglair iawn o’n blaenau. Bydd ein cynorthwy-ydd newydd yn uchelgeisiol ac yn meddu ar ddisgwyliadau uchel, yn ffynnu ar her, yn gweithio’n galed, yn arddangos sgiliau pobl rhagorol a bydd ef/hi yn benderfynol o ddarparu’r profiadau dysgu gorau i bob plentyn. Mae’r gallu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Mae’r ysgol yn ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pawb. Mae’r swydd yn destun cyfeiriadau boddhaol, DBS manylach a phob cliriad perthnasol arall.
Dylid cyflwyno cais erbyn 12fed o Chwefror, 2025
Dyddiad Cau: 12fed o Chwefror, 2025
Rhestr Fer: 13fed o Chwefror, 2025
Cyfweliadau: 17fed o Chwefror, 2025
‘Does neb yn berffaith, mae pawb yn wahanol. Mae’r ffordd yn un droellog i bawb’
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS