This job is with BBC, an inclusive employer and a member of myGwork – the largest global platform for the LGBTQ business community. Please do not contact the recruiter directly. Math o Gontract: Contract Cyfnod Penodol Lleoliad: Caerdydd Cyflog: £21,840 Mae prentisiaeth yn y BBC yn gyfle i chi roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent. Fel un o'r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg yn y byd dros y 100 mlynedd diwethaf, mae gyrfa yn y BBC yn golygu y cewch gyfle i ddysgu gan y gweithwyr proffesiynol mwyaf profiadol ac uchel eu parch yn y busnes. Ydych chi'n frwd dros deledu a chyfryngau cymdeithasol? Ydych chi'n mwynhau datrys problemau a dadansoddi data? Ydych chi'n arbennig o dda am ddatblygu a chynnal ymgyrchoedd diddorol? Os felly, efallai mai dyma'r rôl i chi Mae swyddogion marchnata aml-sianel yn dylunio, yn adeiladu ac yn gweithredu ymgyrchoedd ar draws amrywiaeth o lwyfannau er mwyn ymgysylltu chynulleidfaoedd. Byddai'r ymgeiswyr delfrydol yn frwd dros gynnwys digidol a'r cyfryngau cymdeithasol, yn rhagweithiol, yn drefnus ac yn awyddus i ddysgu a thyfu ym maes Marchnata - rydyn ni wedi ymrwymo i'ch datblygiad a byddwn wrth eich bodd yn eich gweld yn tyfu Siawns bod gennych chi ddiddordeb erbyn hyn? PRIF GYFRIFOLDEBAU Beth fyddwch chi'n ei wneud ar y brentisiaeth? Fel Prentis Marchnata Aml-Sianel, bydd gofyn i chi wneud y canlynol: Rheoli a gweithredu ymgyrchoedd integredig ar draws sianeli ar-lein ac all-lein Defnyddio data ymchwil i lywio penderfyniadau ac i dargedu, cynllunio a chyflawni gweithgarwch marchnata Cyhoeddi, monitro ac ymateb i gynnwys golygyddol, creadigol neu fideo drwy wefannau, cyfryngau cymdeithasol/llwyfannau rhannu fideos, llwyfannau all-lein. Dadansoddi data i gefnogi gwaith cynllunio cynnwys yn seiliedig ar ddigwyddiadau, achlysuron diwylliannol, a blaenoriaethau'r BBC. Paratoi metrigau perfformiad a rhannu gwybodaeth. Creu cynnwys effeithiol gan ddefnyddio egwyddorion dylunio ac ysgrifennu copi ar gyfer cyfryngau ar-lein ac all-lein. Beth fyddwch chi'n ei astudio? Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a'r tu allan i'r gwaith. Bydd y cwricwlwm yn mynd chi drwy sawl modiwl craidd, gan gynnwys hanfodion marchnata, dadansoddi, cynllunio a strategaeth, rheoli ymgyrchoedd, cynnwys a chyfathrebu, a dadansoddi a gwerthuso. Cyflwynir y dysgu ar gyfer y cwrs hwn ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth am safon y brentisiaeth y byddwch yn ei hastudio, ewch yma. I ble y gallai'r rôl fynd chi? Bydd y brentisiaeth yn rhoi cipolwg ar hanfodion Marchnata ac yn cynnig profiad ymarferol mewn amrywiaeth o adrannau, gan roi cymaint o flas phosib ar wahanol swyddogaethau yn y sefydliad. Mae'r cynllun hwn yn dechrau ym mis Medi 2025 a byddwch ar gontract cyfnod penodol, sy'n golygu bod eich contract am gyfnod y brentisiaeth yn unig. Mae'r cynllun hwn yn para 18 mis. GWYBODAETH AM Y LLEOLIADAU Mae amrywiaeth o rolau Swyddogion Marchnata Aml-sianel ar gael ar draws gwahanol adrannau, gan gynnwys: Marchnata, Cynllunio, Digidol a Gyrfaoedd Cynnar. Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda thimau cyfathrebu mewnol ac allanol ar ymgyrchoedd effaith uchel, yn cysylltu ein gweithlu, yn hyrwyddo cynnwys ac yn amddiffyn enw da corfforaethol y BBC, yn ogystal chynllunio a rheoli digwyddiadau. Byddai'r rôl hon yn addas i rywun sy'n frwd dros ymgysylltu phobl a meithrin perthynas gadarnhaol thimau a rhanddeiliaid, sy'n gallu addasu i lwyth gwaith a strwythur gweithio amrywiol, ac sy'n defnyddio amrywiaeth eang o gynnwys. Tra byddwch ar y brentisiaeth hon, gallech fod yn helpu i oruchwylio ymgyrchoedd a phrosiectau cyfathrebu i helpu i sicrhau eu bod yn cyrraedd y bobl iawn, yn helpu i gynnal digwyddiadau ymgysylltu staff a rhanddeiliaid, ac yn sicrhau bod negeseuon allweddol BBC Cymru Wales yn cael eu cyfleu'n eang. Os ydych chi'n chwilio am brentisiaeth gyffrous a phrysur mewn sefydliad amrywiol, sy'n cynnig cyfle i gydweithio thimau ar draws y BBC, dyma'r brentisiaeth i chi. AI CHI YW'R YMGEISYDD GORAU? Mae gennym ddiddordeb yn eich angerdd i weithio yn y BBC a'ch brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o'r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i'n cynulleidfaoedd. Rydyn ni'n chwilio am bobl gadarnhaol sy'n dilyn ein gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydyn ni'n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a'ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd. Drwy gydol y broses ddethol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o sut rydych chi'n dangos pob un o werthoedd ac ymddygiadau'r BBC. Mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn. Maent yn diffinio'r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan y BBC, a'r hyn y mae'r BBC yn ei ddisgwyl gennych chi. Rhagor o wybodaeth am ein gwerthoedd yma. Prentisiaid Marchnata Aml-sianel Gwych yw'r rhai sy'n gallu dangos y nodweddion canlynol: Gallu datrys problemau a diddordeb brwd mewn llwyfannau cyfryngau a theledu Dealltwriaeth sylfaenol o'r dirwedd cyfryngau cymdeithasol Awyddus i ddysgu a thyfu mewn amgylchedd deinamig Gallu gweithio mewn tîm Sgiliau trefnu rhagorol a bod yn dda iawn am ddatrys problemau Gallu rheoli nifer o ofynion a therfynau amser Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd a bod gennych chi ddiddordeb mewn rolau cynhyrchu yn y BBC, rydyn ni'n argymell eich bod yn gwneud cais am swyddi yn careers.bbc.co.uk Mae'n rhaid i chi fodloni'r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC: Bod yn 18 oed neu'n hŷn pan fydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2025 Erbyn dechrau'r brentisiaeth ym mis Medi 2025, bod wedi byw yn y DU neu mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) am o leiaf 3 blynedd Bod yn gymwys i weithio yn y DU yn llawn amser drwy gydol y contract prentisiaeth Peidio bod yn cymryd rhan mewn cynllun prentisiaeth sy'n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall ar hyn o bryd I wneud cais am y cynllun hwn, rhaid bodloni'r canlynol hefyd: I gwblhau'r brentisiaeth, rhaid meddu ar TGAU Gradd 4/C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg, neu National 5 (Yr Alban) Gradd C, neu gymhwyster cyfatebol. Os nad ydych chi wedi ennill cymwysterau Saesneg a Mathemateg Lefel 2 erbyn dechrau eich prentisiaeth, bydd gofyn i chi gyflawni hyn cyn diwedd eich prentisiaeth pan fyddwch chi'n cwblhau eich asesiad terfynol. Peidio meddu ar gymhwyster Marchnata lefel 3 neu uwch yn barod. YR HYN Y BYDDWCH CHI'N EI GAEL Yn ystod eich prentisiaeth: Cyflog cychwynnol o £21,840 Hyfforddiant gyda'r gorau yn y diwydiant drwy BBC Academy a'n darparwyr dysgu (gallai olygu teithio i leoliadau ledled y DU) Rheolwr Tîm ac Arbenigwr Cynllun dynodedig i helpu gyda'ch datblygiad Hyfforddiant a Mentora gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant Wythnos waith 35 awr, 25 diwrnod o wyliau blynyddol a chynllun pensiwn buddion wedi'u diffinio, yn ogystal gofal deintyddol a gofal iechyd rhatach, aelodaeth o gampfa a llawer mwy. Ar ddiwedd eich prentisiaeth: Cymhwyster sy'n cael ei gydnabod gan y diwydiant Llawer o brofiad i'ch helpu i chwilio am heriau a chyfleoedd gwaith newydd yn y BBC ac yn y diwydiant ehangach. Cymorth a hyfforddiant cyflogadwyedd a rhwydweithio i'ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf CAMAU NESAF Peidiwch cholli'r cyfle i fod yn rhan o rywbeth arbennig. Os mai hwn yw'r cyfle i chi, cliciwch ar 'Gwneud cais nawr' Ar ôl i chi sefydlu eich proffil ymgeisydd, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw ateb y cwestiynau yn yr adran gwybodaeth sy'n benodol i'r swydd ar y cais. Does dim angen i chi lenwi unrhyw un o'r adrannau dewisol na lanlwytho CV neu Lythyr Eglurhaol. Rydyn ni'n chwilio am eich potensial i wneud gwahaniaeth i'r BBC. Os ydych chi'n gymwys ar gyfer y cynllun, byddwch yn cael rhagor o wybodaeth am gamau'r broses a beth i'w ddisgwyl. Mae trosolwg cyffredinol o'r broses ymgeisio ar gael yma. Mae'r hysbyseb hon ar gyfer swyddi yn Caerdydd. Cofiwch fod yn rhaid i chi fyw o fewn pellter cymudo i'r lleoliad BBC rydych chi'n gwneud cais iddo ar gyfer y brentisiaeth hon. Mae'r cynllun (MCM25) hwn hefyd yn cael ei gynnig mewn lleoliadau eraill, gweler yr hysbysebion cyfatebol os ydych chi'n dymuno gwneud cais am y lleoliadau hyn. Dylech chi wneud cais i un lleoliad yn unig. Bydd prentisiaid sy'n dechrau yn y BBC o fis Medi 2025 ymlaen yn cael eu rhoi ar gontract 'Tymor Sefydlog'. Mae hyn yn golygu mai dim ond am gyfnod eich prentisiaeth y mae eich contract. Pan fyddwch chi wedi cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi wneud cais am swydd - gallai hyn fod yn swydd yma yn y BBC, neu rywle yn y diwydiant cyfryngau ehangach. Mae'r BBC wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn talent newydd ac, wrth i chi nesáu at ddiwedd eich prentisiaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i'ch cefnogi chi a chynnig hyfforddiant cyflogadwyedd a rhwydweithio i chi i'ch helpu i sicrhau eich rôl nesaf. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y rôl/cynllun yma'n cau ar 17/01/2025. GAIR AM Y BBC Mae amrywiaeth yn bwysig yn y BBC. Mae gennym amgylchedd gwaith lle rydyn ni'n gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniad unigryw pob unigolyn, gan alluogi pob un o'n gweithwyr i ffynnu a chyflawni eu potensial yn llawn. Rydyn ni eisiau denu'r ystod ehangaf o bobl dalentog i fod yn rhan o'r BBC - boed hynny i gyfrannu i'n rhaglenni neu i'n hystod eang o swyddi nad ydynt yn ymwneud chynhyrchu. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y mwyaf y bydd modd i ni ymateb i'n cynulleidfaoedd a'u hadlewyrchu yn eu holl amrywiaeth. Rydyn ni wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, beth bynnag fo'u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. I gael rhagor o wybodaeth am Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y BBC, cliciwch yma. Cymorth gyda'ch cais Ein huchelgais ni yw bod y BBC i bawb ac y dylai gynnwys pawb. Rydyn ni'n falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau sy'n gysylltiedig ag anabledd. Rydyn ni'n cymryd cynhwysiant o ddifrif ac rydyn ni am sicrhau bod pob ymgeisydd sydd ag anabledd neu sydd chyflyrau iechyd tymor hir yn cael y cymorth a'r addasiadau sydd eu hangen arnynt. Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch chi ar gyfer y broses, neu os oes gennych chi anghenion mynediad yr hoffech chi roi gwybod i ni amdanynt, cysylltwch ni yma gan roi cyfeirnod y swydd yn y maes pwnc. Byddem yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut gallwn ni eich cefnogi chi drwy'r broses. ID y cais i lenwi'r rôl hon yw 20383. LI-DNI