This job is with BBC, an inclusive employer and a member of myGwork – the largest global platform for the LGBTQ business community. Please do not contact the recruiter directly. Pecyn Swydd Band : B Cyflog : £25,400 - £28,833 y flwyddyn, pro rata yn ddibynol ar sgiliau a phrofiad Lleoliad : Caerdydd Cytundeb : Rhan Amser - 25 awr yr wythnos Mae sgiliau yn yr Iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon / Welsh language skills are essential for this role Cyflwyniad i'r Swydd Mae S4C yn sianel deledu Gymraeg gydag ystod eang o raglenni gan gynnwys newyddion, drama, rhaglenni dogfen, cerddoriaeth, adloniant a rhaglenni plant. Mae'r sianel yn cael ei darlledu gan BBC Cymru ar ran S4C ac mae'r tîm bach o Gydlynwyr Cynllunio yn chwarae rhan hanfodol wrth greu'r amserlenni sy'n gyrru'r sianel. Prif Gyfrifoldebau Gan weithio'n agos gyda chydweithwyr yn S4C a'r BBC byddwch yn gyfrifol am lunio'r amserlenni darlledu gan ddefnyddio BSM, system amserlennu S4C. Mae darlledu yn ymwneud ag amseru a chywirdeb felly byddwch chi'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y rhaglenni a'r cynnwys eraill yn mynd ar yr awyr ar yr amser cywir. Byddwch hefyd yn gweithio yn yr ardaloedd byw yn cyfro i'r Cyfarwyddwyr Sianel, ardaloedd sydd hefyd yn darlledu BBC One Wales a BBC Two Wales o bencadlys prysur y BBC yn Sgwr Canolog yng nghanol Caerdydd. Mae'r Cydlynwyr Cynllunio yn gweithio patrwm gwaith 7 diwrnod yr wythnos, ond nid oes unrhyw weithio hwyr na chynnar yn y bore. Ai chi yw'r person cywir? Y gallu i weithio i derfynau gwaith ar amser, gan ddangos sylw i fanylion a dealltwriaeth o weithio i reolau a safonau. Profiad o weithio'n effeithiol mewn tîm gweinyddol, gyda dealltwriaeth o'r effaith bosibl ar amserlenni o ganlyniad i newidiadau cynllunio a chyfleu. Meini Prawf Hanfodol Profiad o weithio mewn ardal/amgylchedd ddarlledu neu debyg, gan ddefnyddio meddalwedd safonol ac arbenigol i amserlennu a chynllunio. Gallu i weithio gydag ystod o randdeiliaid drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn sicrhau bod gofynion golygyddol a chreadigol S4C yn cael eu gwireddu ar y sgrin. Gallu i ddelio'n brydlon gyda newidiadau munud olaf annisgwyl, gan ddilyn canllawiau gweithredol ac uwchgyfeirio at uwch staff pan fo angen. LI-DNI