Ydych chi’n teimlo’n gryf am roi gwasanaeth rhagorol i amrywiaeth o randdeiliaid, gan ddatrys ystod o broblemau cymhleth yn hyderus? Ydych chi wedi blino ar weithio i dargedau ac eisiau canolbwyntio dim ond ar roi gwasanaeth cwsmer o’r radd flaenaf?
Rydym yn chwilio am Gynghorwyr Canolfan Gyswllt i ymuno â ni yn llawn amser, gan weithio 35 awr yr wythnos. Byddwch yn gweithio o ddydd Llun tan ddydd Gwener gan ddilyn trefn cylchdroi shifftiau. Ni fydd angen gweithio ar benwythnos. Rydym wedi cofleidio gweithio’n hybrid felly ar ôl deufis o hyfforddiant cynefino a chymorth cyflwyno i’r rôl, gallwch weithio gartref o bell ar bedwar diwrnod yr wythnos. Mae ein swyddfeydd yn Spinningfields, yng nghanol dinas Manceinion. Gallwch gerdded yn hawdd i wahanol orsafoedd trên a thram.
Byddwch yn cael cyfle i ennill mwy, dysgu mwy a datblygu eich gyrfa gan weithio i sefydliad sy’n hybu lles ei staff ac yn rhoi pwyslais ar gydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Fel Cynghorydd Canolfan Gyswllt bydd gennych rôl annatod mewn sicrhau bod y GMC yn gweithio’n effeithiol.
* Yn ateb galwadau ffôn, e-byst, llythyrau ac ymholiadau ar y we am amrywiaeth eang o faterion gan wahanol gwsmeriaid.
* Yn diweddaru ein systemau cwsmeriaid yn gywir yn ystod ac ar ôl cyswllt â chwsmeriaid.
* Yn dehongli’r wybodaeth a gedwir ar ein systemau’n gywir i sicrhau bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei roi bob amser.
* Yn cwrdd a rhagori ar gytundebau lefel gwasanaeth adrannol ac unigol.
* Yn cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a pholisïau a gweithdrefnau’r GMC i sicrhau y cynhelir cyfrinachedd a safonau’r GMC bob amser.
* Yn cymryd rhan mewn hyfforddiant staff ac yn gyfrifol am eich hunanddatblygiad drwy fod yn ymwybodol o bob datblygiad gweithdrefnol newydd.
Ni fydd angen profiad canolfan gyswllt arnoch i ffynnu yn y rôl hon. Os ydych yn wrandäwr a chyfathrebwr naturiol gydag ymrwymiad gwirioneddol i wasanaeth cwsmer rhagorol, darparwn yr holl hyfforddiant fydd ei angen arnoch. Mae popeth yn dechrau gyda chynefino cynhwysfawr. Fel sefydliad sydd ag ymroddiad diffuant i’w bobl, cynigiwn hyfforddiant parhaus fydd yn eich helpu o ddifrif i dyfu.
Ymgeisiwch heddiw a rhoi cychwyn da i’ch gyrfa!
Sut i ymgeisio am y rôl
Dylech ddarparu CV a llythyr eglurhaol. Dylai’r llythyr eglurhaol egluro’n glir sut yr ydych yn cwrdd â’r sgiliau sy’n hanfodol i’r rôl, a restrir yn y swydd-ddisgrifiad. Dylech hefyd gynnwys paragraff yn egluro eich rhesymau dros ymgeisio am y rôl.
Argymhellwn ddim mwy na 2 ochr o bapur A4 ar gyfer y llythyr eglurhaol, ond gall fod yn hirach.
Byddwn yn asesu’r wybodaeth a roddwch i ni yn erbyn y sgiliau sydd eu hangen ar y rôl ac yn rhoi gwybod i chi a fyddwch yn symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, cysylltwch â recruitment@gmc-uk.org i gael copi o’r ffurflen gais wedi ei chyfieithu. Gallwch fod yn dawel eich meddwl na fydd cais yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais yn y Saesneg.
Os na fyddwch yn darparu’r uchod i gyd, ni fyddwn yn gallu prosesu eich cais.
Cofiwch y bydd y cyfweliadau a’r asesiadau’n cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau sy’n dechrau o 12 i 14 Chwefror 2025 dros MS Teams. Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael ar y dyddiadau hyn. Y dyddiad dechrau i ymgeiswyr llwyddiannus fydd 24 Mawrth 2025, bydd angen i chi fynychu cyfnod cynefino cychwynnol llawn o 5 wythnos, gyda 4 wythnos arall i ddilyn o gymorth cyflwyno i’r rôl. Bydd hyn yn digwydd yn y swyddfa. Dros y cyfnod hwn ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gwyliau blynyddol.
Mae swyddi yn yr ymgyrch hon yn cael eu recriwtio ar sail llawnamser.Bydd eich hyfforddiant yn digwydd yn y swyddfa. Gallwn gynnig gweithio hybrid gyda chymysgedd o weithio gartref ac yn y swyddfa ar ôl i chi gwblhau eich hyfforddiant yn llwyddiannus.
Buddion y GMC – Pam gweithio i ni
Rydym yn gweithio gyda meddygon, cymdeithion meddygol (PA), cymdeithion anesthesia (AA), y rhai y maent yn gofalu amdanynt a rhanddeiliaid eraill i gefnogi gofal da a diogel i gleifion ledled y DU. Rydym yn gosod y safonau y mae angen i feddygon, cymdeithion meddygol, cymdeithion anesthesia a’u haddysgwyr eu bodloni, ac yn eu helpu i’w cyrraedd. Os oes pryderon na fydd y safonau hyn yn cael eu bodloni o bosibl, neu y gallai hyder y cyhoedd mewn meddygon, cymdeithion meddygol neu gymdeithion anesthesia fod mewn perygl, gallwn ymchwilio, a chymryd camau os oes angen.
Am eich gwaith caled byddwch yn cael
* 30 diwrnod o wyliau ac opsiwn i brynu a gwerthu mwy
* cyfraniad hael o 15% gan y cyflogwr at eich pensiwn
* Gweithio’n hybrid a hyblyg
* Disgownt mewn cannoedd o siopau stryd fawr ac ar-lein
* Disgownt ar aelodaeth campfa ar y safle
* Yswiriant meddygol preifat
* Rhaglen cymorth staff
* Cynllun beicio i’r gwaith i rai sy’n awyddus i gymudo’n fwy gwyrdd
* Storfa ddiogel i feics a chyfleusterau cawod
* Ystod o gyfleoedd dysgu a datblygu er mwyn eich cynorthwyo i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Mae’r GMC yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac wedi gwneud ymrwymiad cyhoeddus i brosesau a gweithdrefnau sy’n deg, gwrthrychol, tryloyw a di-wahaniaethol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i’r cynllun cyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac i gefnogi gofynion y cynllun cyfweliad Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd ac yn gallu bodloni gofynion sylfaenol y meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl hon, fel yr eglurir ym manyleb y person, byddwn yn cynnig cyfweliad i chi.
Mae’r GMC yn elusen wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (1089278) a’r Alban (SC037750).
#J-18808-Ljbffr