The following is an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
‘Llwybr, llwyddiant lles a llawenydd’
Rydym am benodi Cynorthwyydd Dosbarth Lefel 2 i’n cynorthwyo, i gefnogi a chyflwyno dysgu, ar gytundeb llawn amser yn Ysgol T Llew Jones.
Lleolir Ysgol T Llew Jones, ym mhentref Brynhoffnant, Ceredigion. Mae tua 167 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol. Mae’r ysgol yn sefydliad hapus a chyfeillgar, gyda’r disgyblion yn ganolog i holl weithgareddau’r ysgol. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig a egniol i ymuno a thîm llwyddiannus er mwyn sicrhau y cyfleoedd gorau ar gyfer disgyblion yr ardal.
Fe fydd gofyn i chi:
- goruchwylio a darparu cefnogaeth neulltiol i ddisgyblion, gan gynnwys y rheiny âg anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt fynediad at weithgareddau dysgu
- sefydlu perthynas adeiladol gyda holl ddisgyblion, gan ryngweithio yn unol â’u hanghenion unigol
- herio a symbylu disgyblion, hyrwyddo ac atgyfnerthuhunan-werth
- annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau o dan yr athro neu’r athrawes
- cynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio a chyflwyno gweithgareddau dysgu penodol megis ymyrraethau fel Trandep a Chyfrif Ceredigion
Rydym am benodi unigolyn sydd â:
- sgiliau rhifedd/llythrennedd da yn y Gymraeg a’r Saesneg
- sgiliau cyfathrebu gwych ac yn meddu ar y gallu i adeiladu perthnasau dros ystod oedran a gallu
- dealltwriaeth gyffredinol o’r Cwricwlwm i Gymru/ rhaglenni a strategaethau dysgu sylfaenol eraill e.e Trandep / Cyfrif Ceredigion
- gweithio’n adeiladol a hyblyg yn rhan o dîm, deall cyfrifoldebau a swyddogaethau’r ystafell ddosbarth a’ch safle bersonol o fewn y swyddogaethau hynny
- CGC3 i Gynorthwyyr Dosbarth, cymwysterau neu phrofiad gyffelyb
Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur, drwy ddefnyddio’u menter, gydag rhagolwg bositif a gwir ddiddordeb yn cefnogi anghenion dysgu’r disgyblion.
I gydnabod eich sgiliau a’ch ymrwymiad, fe fyddwn yn cynnig amrediad o fuddion gweithwyr gan gynnwys cynllun pensiwn cyflogwr hael. Gallwch ddysgu mwy am ein buddion gweithwyr yma.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn yn darparu cefnogaeth i’ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus.
Gweler ein gwefan gyrfaoedd am y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.
Am fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â’r Pennaeth Mrs Rhian Lloyd ar 01239 654553 neu e-bostiwch lloydm38@hwbcymru.net
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .