Y swydd a’r person: Mae Mudiad Meithrin yn dymuno penodi Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh rhan amser, dros gyfnod mamolaeth. Rydym yn chwilio am berson gweithgar, brwd a chydwybodol i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r person a benodir fod â’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd angen i’r person hefyd fod â sgiliau rhyngbersonol da ac mae’r gallu i weithio’n hyblyg, yn annibynnol a chynnig rheolaeth linell i staff perthnasol. Bydd y swydd yn addas i’r sawl sydd â sgiliau trefniadaeth cryf a’r gallu i reoli nifer o gynlluniau ar yr un pryd a’r gallu i ymateb yn sydyn ac o fewn terfynau amser a gwybodaeth gadarn am ddarpariaeth addysg gynnar a dysgu Cymraeg.
Dyletswyddau’r Swydd
Bydd Rheolwr Cynllun Clwb Cwtsh yn atebol i’r Prif Weithredwr trwy’r Pennaeth Hyfforddiant, Datblygu a Dysgu am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflawniad a datblygiad Cynllun Clwb Cwtsh gan sicrhau fod targedau a gytunir gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael eu cyrraedd, a safonau uchel yr adran yn cael eu cadw.
• Rheoli gwaith, a darparu arweiniad a chefnogaeth i holl staff y cynllun.
• Gweithredu fel rheolwr llinell i Brif Swyddogion cynllun Clwb Cwtsh.
• Cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda phob aelod o staff perthnasol i gynllunio gwaith, gosod targedau a chyfeiriad gwaith.
• Sicrhau fod gwaith yr adran yn cyd-fynd â nod ac amcanion Mudiad Meithrin
• Cynnig arweiniad strategol a gweledigaeth ar gyfer cyflawni targedau cynlluniau Clwb Cwtsh
• Adnabod cyfleoedd i ddarparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg DPP drwy Academi
• Adnabod cyfleon i ehangu cwmpawd gwaith Mudiad Meithrin ym maes dysgu Cymraeg mewn cydweithrediad â’r Pennaeth adran a’r Prif Weithredwr.
• Cyflwyno ceisiadau i gyllidwyr yn ôl yr angen er mwyn datblygu’r cynllun mewn cydweithrediad â’r Pennaeth a’r Prif Weithredwr
• Cydweithio â Rheolwyr eraill y Mudiad i adnabod cyfleoedd cydweithio a chryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg i deuluoedd ac mewn lleoliadau
• Chwarae rhan ragweithiol yn nhîm rheoli Mudiad Meithrin gan fynychu a pharatoi at gyfarfodydd, cymryd rhan mewn trafodaethau am weithgaredd cyffredinol Mudiad Meithrin (tu hwnt i arbenigedd yr adran), rhaeadru gwybodaeth berthnasol i aelodau staff tîm yr adran.
• Paratoi adroddiadau manwl ar gyflawniad gwaith yr adran i gyllidwyr ac i bwyllgorau rheoli/pwyllgorau Mudiad Meithrin yn ôl y galw.
• Paratoi adroddiadau monitro yn ôl y galw.
Dyletswyddau perthnasol
• Ar y cyd â’r Prif Swyddogion, sicrhau bod cyfundrefnau addas yn cael eu mabwysiadau a’u gweithredu fel bod cynllun gwaith addas gan bob swyddog.
• Ar y cyd ag adran Gyllid Mudiad Meithrin a Phennaeth yr adran, sicrhau fod gweithdrefnau ariannol tynn yn cael eu cynnal er mwyn dangos llwybrau awdit eglur ar wariant y cynllun.
• Ar y cyd â Rheolwr Marchnata Mudiad Meithrin, sicrhau bod strategaeth farchnata addas yn cael ei dyfeisio a’i gweithredu ar gyfer darganfod dysgwyr, hyrwyddo cynnydd y cynllun a chysylltu’r gwaith i strategaeth ehangach Mudiad Meithrin. Adrodd ar y canlyniadau i gyllidwyr a phwyllgorau fel bo angen.
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Bydd deilydd y swydd yn:
• Ymwybodol o waith y Mudiad ac â dealltwriaeth gadarn o’n blaenoriaethau fel y gallant arwain ar y cynlluniau hyn yn hyderus ac effeithiol
• Meddu ar brofiad o weithio yn y maes dysgu Cymraeg neu â’r gallu i ddysgu’n gyflym
• Person effeithlon a threfnus yn weinyddol er mwyn gallu rheoli nifer o gynlluniau yr un pryd, a’r gallu i ymateb yn sydyn ac o fewn terfynau amser.
• Y gallu i gynnal gwaith ymchwil a phrosesu gwybodaeth a chanllawiau.
• Y gallu i weithio’n annibynnol yn hyderus.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .