Dyletswyddau’r Swydd:
Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
• Dilyn arweiniad a chyfarwyddiadau’r Arweinydd Ystafell i;
• Gyflawni unrhyw dargedau sydd gan bob ystafell
• Ddilyn a gweithredu holl weithdrefnau a pholisïau'r Feithrinfa
• Sicrhau bod bob plentyn yn derbyn sylw gofalgar a phrydlon a gofal o’r safon uchaf
• Sicrhau bod trefniadau bwydo a newid plant yn cael eu gweithredu yn briodol
• Sicrhau bod sylw manwl yn cael ei roi at hylendid y plant a glendid y gweithle ar bob adeg
• Sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i orffwys neu gysgu yn ôl ei anghenion
• Meithrin datblygiad, hyder ac annibyniaeth pob plentyn gan gwrdd â’u hanghenion cymdeithasol ac emosiynol
• Sicrhau bod yr adnoddau o fewn cyrraedd hwylus, ac yn addas i oedran y plant
• Croesawu rhieni i’r Feithrinfa ar bob adeg
• Adrodd i’r rhiant yr hyn a gyflawnwyd gan y plant yn ystod y dydd yn ôl cyfarwyddyd yr Arweinydd Ystafell
• Cwblhau taflen dyddiol y plentyn
• Arsylwi ar blant a chofnodi eu cynnydd a’u datblygiad
• Sicrhau bod amseroedd bwyd yn cynnig profiadau cymdeithasol a phleserus i’r plant
• Sicrhau cyfle cyfartal i bob plentyn gael gymryd rhan yn yr holl weithgareddau
• Cefnogi holl weithgareddau chwarae yn yr awyr agored fydd yn hybu datblygiad corfforol a chymdeithasol ac yn meithrin ymwybyddiaeth y plant o’u hamgylchedd
• Cydweithio i arddangos gwaith y plant mewn modd deniadol ac wedi ei labelu’n glir
• Sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng pob gweithgaredd a gyflwynir i’r plant o fewn y feithrinfa
• Trochi’r plant yn y Gymraeg drwy’r dydd.
• Disgwylir i bob aelod o staff y Feithrinfa gyfathrebu’n Gymraeg gyda’u cyd-weithwyr
• Cydweithio yn effeithiol ac effeithlon ac fel rhan o’r tîm a sicrhau mewnbwn i drefniadau’r dydd
• Sicrhau bod yr offer yn ddiogel ac yn cwrdd â gofynion iechyd a diogelwch, a’u bod yn cael eu cadw’n daclus ar ddiwedd sesiwn/dydd
• Gweithredu pob gweithdrefn a pholisi ar bob adeg
• Cydweithio i weithredu’r Cyfnod Sylfaen
• Sicrhau bod yr ystafell a’r cyfleusterau yn ddiogel, yn lan, yn ddeniadol ac yn groesawgar
• Mynychu cyfarfodydd arfarnu a goruwchwiliaeth rheolaidd gan drafod cyfleodd datblygiad proffesiynol.
• Mynychu cyfarfodydd staff rheolaidd sydd yn cael ei drefnu gan yr arweinydd / Rheolwr y Feithrinfa .
• Cefnogi Arweinydd yr ystafellmewn cyfarfodydd gyda rhieni pan fydd angen e.e (noson rhieni, unrhyw ymholidau ynghun a datblygiad).
• Mynychu hyfforddiant yn ōl yr angen
• Cefnogi gweithgareddau codi arian y Feithrinfa
• Ymddwyn yn broffesiynol ar bob adeg
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol sy’n berthnasol i’r swydd yn ôl cyfarwyddyd Rheolwr y feithrinfa a Rheolwr Meithrinfeydd Cymru.
Proud member of the Disability Confident employer scheme
Disability Confident
About Disability Confident
A Disability Confident employer will generally offer an interview to any applicant that declares they have a disability and meets the minimum criteria for the job as defined by the employer. It is important to note that in certain recruitment situations such as high-volume, seasonal and high-peak times, the employer may wish to limit the overall numbers of interviews offered to both disabled people and non-disabled people. For more details please go to Disability Confident .