Please note that the advertised salary for this position is subject to a pending pay award. The final salary will be adjusted in line with the nationally agreed pay award.
The following is for an advert for a position where the ability to converse through the medium of English and Welsh is essential.
Mae’r hysbyseb hon ar gyfer swydd Pennaeth yn Ysgol Penparc yn llawn amser lle mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Mae meddu ar y cymhwyster CPCP yn ddymunol.
Dyddiad dechrau: 1af o Fedi, 2025
Yn sgil penodiad ein Pennaeth presennol i ysgol uwchradd o fewn yr ardal, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi olynydd ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymunedol Penparc ar gyrion tref Aberteifi yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.
Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd gofalgar, cynhwysol, llawn parch o’r radd flaenaf. Dymuna’r Llywodraethwyr benodi Pennaeth newydd i arwain yr ysgol yn y cyfnod nesaf o’i datblygiad. Mi fydd gan y Pennaeth ymrwymiad dysgu o tua 0.5.
Mae rhyw 109 o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae tîm effeithiol o athrawon a staff cefnogi yn cynorthwyo pob disgybl i ddysgu a datblygu i’w llawn botensial. Mae’r Llywodraethwyr am benodi Pennaeth a all adeiladu ar y cryfderau presennol a bod yn agored i syniadau newydd a sicrhau bod yr ysgol yn paratoi ei disgyblion ar gyfer byd sy’n newid o’u cwmpas.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy’n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth rhagorol ac a fydd yn:
* hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb tra’n hyrwyddo cymuned gefnogol a chynhwysol;
* annog ac yn cefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol;
* ysbrydoli ac yn hybu datblygiad staff o ran addysgu a dysgu arloesol;
* annog ymrwymiad rhieni a’r gymuned o fewn yr ysgol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
* gweledigaeth glir o ran datblygiad yr ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy’n rhoi lle canolog i’r Gymraeg yn y gymuned;
* y gallu i annog disgyblion i gofleidio’r diwylliant a’r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi’r Gymraeg adref;
* dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i’w datblygu drwy’r ysgol yn y dyfodol;
* medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu;
* dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob disgybl er mwyn iddynt gyflawni ei lawn botensial;
* gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol a gwir ddiddordeb yn y maes;
* ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîm er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau posib i bob disgybl;
* ymrwymiad cryf i gyfoethogi’r cysylltiadau gyda’r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion eraill a’r Urdd.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â’r ysgol, os ydynt yn dymuno, cyn cyflwyno cais. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Ymgynghorydd Her yr ysgol, Mr Dafydd Iolo Davies ar dafydd.iolo.davies@ceredigion.gov.uk (07812920421).
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
#J-18808-Ljbffr