Heddlu Heddlu Dyfed Powys
Math o rôl Staff Heddlu
Maes Busnes / Adran Yr Adran Ymchwiliadau Troseddol
Lleoliad Pencadlys
Hyblyg/Sefydlog/Sefydlog a Gweithredol Sefydlog
Gradd D
Cyflog £27,747 - £29,649
Rhan/Llawn Amser Llawn Amser
Oriau'r Wythnos 37
Math o Gytundeb Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad Cyfweliad 13 Mai 2025
Dyddiad cau 09/04/25 23:55
Disgrifiad Hysbysiad Swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Cymorth Cudd-wybodaeth - Desg Cudd-wybodaeth Fyw ymuno â ni. Lleolir y swydd ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin.
Rydyn ni’n chwilio am unigolion sydd â phrofiad o adolygu, ymchwilio, prosesu a chyflwyno gwybodaeth, sy’n gallu trosglwyddo’r sgiliau hynny er mwyn cefnogi staff a swyddogion rheng flaen Heddlu Dyfed-Powys.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Byddwch chi’n gyfrifol am weithredu egwyddorion y Model Penderfynu Cenedlaethol, y Model Cudd-wybodaeth Cenedlaethol a THRIVES wrth adolygu, ymchwilio, prosesu a blaenoriaethu adroddiadau cudd-wybodaeth wedi’u graddio, yn unol â deddfwriaethau perthnasol a chyfredol.
Disgwylir ichi:
Ddarparu cymorth cudd-wybodaeth ar gyfer digwyddiadau argyfyngus a digwyddiadau arfau saethu digymell yn ôl cyfarwyddyd.
Darparu cudd-wybodaeth amser byw i staff gweithredol a anfonir i leoliadau digwyddiadau.
Rheoli derbyn ac ymchwilio i geisiadau cudd-wybodaeth wrth heddluoedd eraill, gan ddefnyddio’r holl gronfeydd data perthnasol, i gasglu a gwerthuso cudd-wybodaeth a ganfyddir am bobl benodol, gan ddilysu cofnodion pan fod angen.
Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mewnol ac allanol ar sawl maes busnes, gan gynnwys: Cronfa Ddata Genedlaethol yr Heddlu, y System Genedlaethol Rheoli Trwyddedu Arfau Saethu, yr Asiantaeth Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig, y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein, yr Adran Dadansoddi Troseddau Difrifol, Crimestoppers, Carchardai, yr Adran Gwaith a Phensiynau, CThEM, Systemau Plismona Cenedlaethol, Canolfan Ganolog y DU.
Mae’r rôl hon mewn safle penodedig, ac wedi ei lleoli ym Mhencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin. Bydd gofyn i chi weithio patrwm sifft yn ôl trefn gan weithio o fewn ystod 24 awr, (gan gynnwys penwythnosau). O ganlyniad i weithio sifft a phenwythnosau, bydd lwfansau’n daladwy.
Mae’r cyflog (gan gynnwys lwfansau) yn cychwyn ar £32,880 ac yn codi i £35,134 ar ôl tair blynedd o wasanaeth.
Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r sgiliau a’r angerdd ar gyfer y swydd hon, cliciwch y ddolen isod er mwyn darllen y proffil swydd. Os ydych chi’n credu bod y swydd hon yn addas i chi, cwblhewch ffurflen gais, gan ddangos tystiolaeth yn erbyn y cymwysterau gofynnol (sydd fel arfer ar dudalen olaf y proffil swydd).
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr a atodir isod, sy’n rhoi mwy o fanylion am sut i gwblhau eich cais.
Beth allwch chi ddisgwyl?
Bydd gan bob dechreuwr newydd gyfaill/mentor i’ch cefnogi pan fyddwch chi’n ymuno
24 diwrnod o wyliau blynyddol (sy’n codi i 29 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth) ynghyd ag 8 gŵyl gyhoeddus
24 diwrnod ychwanegol o oriau hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
Mynediad at gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd yn y gweithle
Gweithio hybrid/ystwyth (gan ddibynnu ar y swydd)
Gostyngiadau gan sawl adwerthwr drwy’r Cynllun Golau Glas
Cynllun Beicio i’r Gwaith
Cefnogaeth gan ein Canolfan Iechyd a Lles, gan gynnwys Swyddogion Lles, Cwnsela a Ffisiotherapi
Cynllun pensiwn
Rhwydweithiau Cymorth Staff
Cyfleoedd gweithio hyblyg
Hawliau cyfnod mamolaeth/tadolaeth/mabwysiadu hael
Darpariaethau tâl salwch
Mae pob ymgeisydd yn ddarostyngedig i wiriadau meddygol a fetio.
Bydd y cyflog ar gyfer unrhyw swyddi gwag rhan amser ar sail pro rata.
Cynhelir cyfweliadau: 13/05/25 & 14/05/25
Amrywiaeth a’r Gymraeg
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyflogwr cynhwysol sy’n anelu i gael gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau mae’n eu plismona a’u gwasanaethu. Credwn y byddwn yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, ymagweddau a sgiliau y gall amrywiaeth gyflwyno, sy’n medru’n helpu i gyflwyno gwell gwasanaeth plismona.
Yr ydym yn parhau i weithio tuag at greu diwylliant diogel, agored sy’n foesegol ac yn cynnwys pawb. Mae gennym amrediad o grwpiau a rhwydweithiau staff i roi cyngor a chymorth penodol, a’n nod yw recriwtio pobl dalentog ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau. Yr ydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir a chymuned, ni waeth am oed, rhyw, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, anabledd, statws cymdeithasol neu gredoau crefyddol.
Cliciwch fan hyn i weld pa un ai a ydych chi’n gymwys ar gyfer Gweithredu Cadarnhaol ai peidio.
Yr ydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Pwynt gwybodaeth:
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y swydd hon arnoch, peidiwch ag oedi i gysylltu: recruitment@dyfed-powys.police.uk
Neu ymunwch â’n digwyddiad recriwtio galw heibio wythnosol ar ddydd Mercher o 11y.b. – 11:30y.b. fan hyn.