Llesiant Delta Wellbeing (Home – Delta Wellbeing) yw un o'r cwmnïau hyd braich mwyaf llwyddiannus sy'n eiddo i'r Cyngor yn y DU. Mae'n cwmni blaenllaw ar gyfer Gofal trwy Gymorth Technoleg yng Nghymru sy'n darparu gwasanaethau i fwy na 30 o sefydliadau ac yn cyflogi mwy na 170 o bobl.
Mae'r Cyngor yn awyddus i benodi Cadeirydd a hyd at ddau Gyfarwyddwr Anweithredol. Bydd y Cadeirydd yn dangos sgiliau allweddol mewn arweinyddiaeth a llywodraethu a bydd ganddo/ganddi brofiad llwyddiannus mewn sefydliadau mawr. Bydd y Cyfarwyddwr Anweithredol yn cynorthwyo'r Cadeirydd a'r Rheolwr-Gyfarwyddwr i gynhyrchu busnes newydd, cyrraedd disgwyliadau'r Cyngor a sicrhau bod yr holl anghenion busnes yn cael eu cyflawni mewn modd effeithiol ac effeithlon.
Mae angen i'r ymgeiswyr fod yn flaengar i gefnogi twf cyflym y cwmni. Bydd y Cadeirydd a'r Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cymryd rhan yn ystod cyfnod cyffrous o ddatblygu'r cwmni.
I fynegi diddordeb, anfonwch CV a llythyr ategol at GLPowell@sirgar.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18/11/2024.