Amdanom ni: Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff. Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref. Y rôl: Byddwch yn bennaf yn gweithio yn y dderbynfa, a bydd gofyn ichi weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid mewnol ac allanol a myfyrwyr. Yn ogystal, byddwch yn cynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar gymorth dysgu, a bydd gofyn i chi wneud hyn wyneb yn wyneb a thros y ffôn, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a hyrwyddo Coleg Gwyr Abertawe. £12.80 - £13.07 yr awr Ledled Campysau’r Coleg Ni fydd gennych oriau gwaith penodol, a byddwch yn gweithio ar sail ad hoc, cyflenwi ar gyfer absenoldeb salwch neu dros dro Byddwch yn cael eich talu mewn ôl-daliadau e.e. byddwch yn derbyn tâl am yr oriau a weithiwyd ym mis Gorffennaf ym mi Awst, ac yn y blaen. Cyfrifoldebau Allweddol: Dyletswyddau derbynfa dyddiol - bydd hyn yn amrywio o gampws i gampws. Ateb y ffôn ac ymateb i e-byst. Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr, gan eu cyfarch yn fewnol ac allanol e.e. paratoi a dosbarthu pasys i ymwelwyr a’u cyfeirio nhw at y mannau cywir. Amdanoch chi: Sgiliau’r Iaith Gymraeg - Lefel 3 (disgrifwyr lefel Iaith ynghlwm) Cymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (Gradd A-C). Profiad o ddefnyddio systemau Microsoft Office a MIS Sgiliau trefnu gwych a’r gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith. Buddion: 28 pro rata diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023) 2 ddiwrnod lles i staff Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: Buddion a Lles Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch ein tudalen canllaw. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad. Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog. Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru. Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).