Fel Arweinydd Gweithgareddau Garddio a Chydlynydd Gwirfoddolwyr byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Prosiect i gydlynu elfen ‘tyfu’ y prosiect a bydd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am y gwaith garddwriaeth yn y safleoedd cymunedol ar draws Edible Mach. Yn y rôl hon byddwch yn datblygu gweithdai ar dyfu planhigion ac yn arwain wrth gynnal y gweithdai hynny a’r sesiynau gwirfoddoli wythnosol a misol, ynghyd â chefnogi cynnal digwyddiadau a gweithdai eraill trwy gydol y flwyddyn yn ôl yr angen.
Prif gyfrifoldebau:
● Gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Prosiect i ddatblygu cynllun o waith garddwriaeth ar gyfer safleoedd cymunedol Edible Mach
● Cyflwyno cynllun gwaith garddwriaeth sydd wedi’i gynllunio yn unol ag amcanion a chyllideb y prosiect
● Cydweithio â’r Rheolwr Prosiect i ddatblygu rhaglen o weithdai ar dyfu planhigion, yn seiliedig ar angen cymunedol, a’r gweithdai wedi’u harwain gennych chi neu arbenigwyr lleol
● Cydlynu ac arwain gweithdai ar dyfu, ynghyd â sesiynau gwirfoddoli wythnosol a misol, ar safleoedd lleol tyfu cymunedol Edible Mach
● Cydweithio â’r Rheolwr Prosiect i gynnal sawl gŵyl bwyd lleol a thymhorol ar adegau allweddol yn ystod y flwyddyn megis amser hau a chynhaeaf i ddathlu bwyd lleol a chynyddu ymwybyddiaeth o’r prosiect
● Gweithio gyda gwirfoddolwyr i helpu i hyrwyddo a dosbarthu Pecynnau Hadau i Deuluoedd
● Creu asesiadau risg a chynnal sesiynau ymsefydlu a chynefino i wirfoddolwyr
● Diweddaru ffurflenni presenoldeb ac adborth ar gyfer digwyddiadau, gweithdai a sesiynau gwirfoddoli
● Dod o hyd i offer sydd ei angen ar gyfer gwirfoddoli a chynnal a chadw gwelyau llysiau cymunedol
● Gweld gwaith sydd angen ei wneud gan drwsio unrhyw ddifrod neu wneud unrhyw waith cynnal a chadw ar safleoedd tyfu cymunedol
● Cefnogi gweithdai a digwyddiadau coginio, yn ôl yr angen
● Mynychu cyfarfodydd pwyllgor misol