Am Y Gwasanaeth Mae Caerdydd am recriwtio gweithwyr parhaol sy’n frwd ac yn llawn cymhelliant i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i'n plant a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae Caerdydd yn sefydliad blaengar sy'n edrych ar ffyrdd o weithio o bell ac arloesol gyda hyblygrwydd i weithio gartref, yn y swyddfa a chefnogi cyswllt diogel wyneb yn wyneb â theuluoedd a phlant. Mae gwasanaethau Plant Caerdydd yn arweinwyr o ran ymarfer ac fe'u dewiswyd fel lleoliad ar gyfer prosiectau peilot allweddol gan gynnwys Llysoedd Cyffuriau ac Alcohol Teuluol. Rydym yn flaengar ac yn ceisio croesawu modelau gweithio newydd er mwyn sicrhau llwyddiant wrth gefnogi plant a phobl ifanc sy'n profi argyfwng iechyd meddwl a phlant sy'n ymwneud â cham-fanteisio troseddol. Mae ein ffyrdd newydd o weithio wedi ein harwain at ddatblygu timau amlddisgyblaethol. Mae Caerdydd yn cefnogi dysgu a datblygu unigolion drwy gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth wrth gynnwys staff yn y gwaith o archwilio ac adolygu dysgu rhagweithiol sy'n galluogi datblygiad parhaus y gwasanaeth ac unigolion o fewn diwylliant meithringar a chefnogol. Mae ffocws allweddol ar symud cydbwysedd gofal gan sicrhau mai dim ond y plant hynny na ellir lliniaru risgiau ar eu rhan sy'n cael eu rhoi y tu allan i'w rhwydwaith teuluol. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ddadansoddi'r materion cyflwyno yn glir a cheisio teilwra cymorth i ddiwallu anghenion teulu a allai gynnwys cymorth dyddiol yn y cartref a/neu ddefnyddio seibiant. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i weithio gyda theuluoedd drwy ymyrraeth statudol a rhannu cyfrifoldeb rhiant dim ond pan fo'r risgiau'n mynnu hynny ac nid o ganlyniad i fynediad at adnoddau / gwasanaethau. Am Y Swydd Rydym wedi creu rôl Prif Weithiwr Cymdeithasol newydd a fydd yn canolbwyntio ar Waith Llys. Byddwch yn weithiwr cymdeithasol ag achosion gyda thua 10/11 o blant (4/5 teulu) sy'n destun achosion gofal. Byddwch yn gyfrifol am bob agwedd ar reoli achosion gan gynnwys ymweliadau statudol, cynllunio ac adolygu gofal, a gwaith llys. Byddwch yn gweithio gyda phlant a'u teuluoedd i helpu i wneud penderfyniadau i blant aros gartref neu ddychwelyd adref i'w rhieni. Bydd angen i asesiadau ystyried y risgiau presennol a'r ffactorau amddiffynnol cysylltiedig gan nodi hefyd y tebygolrwydd o newid parhaus o fewn amserlenni'r plentyn. Bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant sy'n destun achosion gofal a'u teuluoedd a chynhyrchu gwaith o safon ragorol sy'n darparu argymhellion yn seiliedig ar ddadansoddiad cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Y manteision a gynigir Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 33 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. Mae ein diwylliant gweithio yn hyblyg, gyda chynllun fflecsi yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi. Gweithio hybrid – yn eich cefnogi i gyflawni eich rôl yn hyblyg boed ar ymweliadau, o swyddfa neu eich cartref. Mynediad i Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg sy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel a hyblyg, dibynadwy, ar gyfer tawelwch meddwl. Dyma rywfaint o'r hyn sydd gan Gaerdydd i'w gynnig, edrychwch ar ein gwefan Gwaith Cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein holl fanteision a chlywed gan rai o'n gweithwyr cymdeithasol, sy’n canu clodydd Caerdydd. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Byddwch wedi cynnal asesiadau gan ddefnyddio Fframwaith asesu'r Adran Iechyd ac mae gennych wybodaeth a dealltwriaeth o egwyddorion fframwaith Ailuno'r NSPCC. Byddwch yn deall effaith trawma ar allu'r rhieni ac ar anghenion y plentyn ac yn gallu canfod a oes gan y rhiant/rhieni y gallu i ddiwallu anghenion y plentyn unigol. Bydd arnoch angen y sgiliau i oresgyn rhwystrau i ymgysylltu yn ystod y broses asesu a theilwra eich asesiadau i arddulliau dysgu rhieni. Bydd eich asesiadau'n defnyddio gwybodaeth gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda'r plentyn a'u teulu ac yn archwilio'r rhwydweithiau cymorth anffurfiol sydd ar gael i'r rhieni i'w cynorthwyo yn y rôl rhianta. Gwybodaeth Ychwanegol Yn weithredol o 1 Ebrill 2024, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). (£48,693 - £51,731). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis. Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol. Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu. Yn rhan o’r swydd hon, rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, cysylltwch â Laura.white3caerdydd.gov.uk am drafodaeth. Sylwer nad yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Canllaw ar Wneud Cais Ymgeisio am swyddi gyda ni Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Siarter Cyflogeion Recriwtio Cyn-Droseddwyr Hysbysiad Preifatrwydd