Swyddog Dysgu a Datblygu
Caerdydd/Cyffordd Llandudno (Gweithio Hybrid)
Amdanom Ni
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal. Trwy ein gwaith sicrhau ansawdd, rydym yn cefnogi addysgwyr gwaith cymdeithasol mewn lleoliadau addysg ac ymarfer, gan sicrhau'r lefel uchaf o hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol.
Rydym nawr yn chwilio am Swyddog Dysgu a Datblygu i ymuno â ni ar gontract cyfnod penodol o 12 mis, gydag oriau llawn amser o 36 awr yr wythnos ar gael a hyblygrwydd yn cael ei ystyried.
Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon a gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd a nodir pan fo angen.
Y Manteision
1. Cyflog o £40,413 - £45,394 y flwyddyn
2. 28 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc (cynyddu gyda hyd gwasanaeth)
3. Diwrnodau ychwanegol i ffwrdd rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd
4. Cynllun pensiwn llywodraeth leol
5. Polisi gwaith hyblyg
6. Polisi absenoldeb teuluol
Y Rôl
Fel Swyddog Dysgu a Datblygu, byddwch yn arwain ar brosiectau sy'n canolbwyntio ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i hyrwyddo arfer gwrth-wahaniaethol ar draws y sector gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Yn benodol, byddwch yn ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad byw, i lywio a datblygu hyfforddiant cynhwysol ac adnoddau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Byddwch hefyd yn hyrwyddo arfer gwrth-wahaniaethol, yn darparu hyfforddiant, ac yn sicrhau bod anghenion dysgu a gwella yn cael eu diwallu trwy brosiectau wedi'u teilwra, tra'n cyfrannu at ein gwaith yn cefnogi gweithwyr rhyngwladol a mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern.
Amdanoch Chi
1. Profiad o ddarparu hyfforddiant effeithiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd
2. Profiad o ddarparu cymorth lefel uchel i brosiectau o fewn y sector
3. Profiad o ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid
4. Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a pholisi gwrth-wahaniaethol cyfredol yng Nghymru
5. Y gallu i gynhyrchu adroddiadau ysgrifenedig, dogfennaeth a gwybodaeth hyrwyddo sy'n addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 30 Ebrill 2025.
Cynhelir y cyfweliadau wyneb yn wyneb ar 13 Mai yn ein swyddfa yn Llandudno a 15 Mai yn swyddfa Caerdydd.
Gellir gwneud addasiadau rhesymol ar unrhyw gam o’r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, er enghraifft, sy’n niwro-ddargyfeiriol neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â'r Tîm Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Felly, os ydych am ymuno â ni fel Swyddog Dysgu a Datblygu, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth. #J-18808-Ljbffr