RHEOLWR TECHNEGOL A RHEOLWR PROSIECT YR YSTAFELL REOLI
Ystafell Reoli – Y Ganolfan Gyfathrebu ar y Cyd, Llanelwy
Parhaol, 37 awr yr wythnos
GTAGC Gradd 09 £40,221 i £43,421 y flwyddyn
Rydym yn awyddus i benodi Rheolwr Technegol A Rheolwr Prosiect Yr Ystafell Reoli, a fydd yn darparu cefnogaeth dechnegol arbenigol a chefnogaeth ddatblygu i Systemau Ystafell Reoli GTAGC yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth yr Ystafell Reoli ar y cyd â Rheolwr Systemau’r Ystafell Reoli.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael budd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ac yn ei defnyddio mewn ffordd sy’n ei wneud mor effeithlon a chost-effeithiol ag sy’n bosibl. Byddwch yn Rheolwr Prosiect ar brosiectau technegol amrywiol yr Ystafell Reoli a’r adran TGCh a byddwch yn ymgymryd â thasgau rheoli prosiect technegol, ymchwil a dadansoddi yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth yr Ystafell Reoli. Yn ogystal, byddwch yn bwynt cyswllt o fewn yr Ystafell Reoli mewn perthynas ag achrediad, polisi a gweithdrefn diogelwch Systemau’r Ystafell Reoli.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus o leiaf ddwy flynedd o brofiad yn gweithio ar brosiectau Ystafell Reoli a TGCh mawr, a phrofiad o reoli contractwyr yn ystod camau gweithredu a chyflawni prosiectau. Os oes gennych wybodaeth a phrofiad blaenorol o weithredu polisi, strategaeth a monitro perfformiad yna byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Dylai ymgeiswyr fod â phrofiad ymarferol o gynhyrchu adroddiadau a dadansoddi gwybodaeth reoli. Rhaid i ddeiliad y swydd allu casglu a dadansoddi gwybodaeth reoli a chyflwyno canfyddiadau i uwch reolwyr a gallu cyflwyno atebion i unrhyw broblemau a all godi. Efallai y bydd gofyn i chi weithio mewn gwahanol leoliadau sy’n perthyn i’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn unol â chyfarwyddyd Pennaeth yr Ystafell Reoli.
Sylwch fod y swydd hon yn destun Archwiliad Fetio Lefel 2 llwyddiannus gan yr Heddlu a geirdaon boddhaol. I gael manylion pellach ynglŷn â'r rôl, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn ymgeisio drwy e-bost
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00, hanner dydd, 16/10/24
Cedwir at y dyddiad cau yn llym ac ni fydd unrhyw eithriadau.