PENCADLYS GWASANAETH TÂN AC ACHUB DE CYMRU,
PARC BUSNES FOREST VIEW, LLANTRISANT
CYFARWYDDIAETH GWASANAETHAU CORFFORAETHOL
Swyddog Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth
DROS DRO – 12 mis
37 AWR YR WYTHNOS
CYFEIRNOD: 502944
GRADD 7 - CYFLOG: £29,093 - £30,060
Mae cyfle cyffrous wedi codi i benodi Swyddog Cymorth Llywodraethu Gwybodaeth Dros Dro o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Corfforaethol, a leolir ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu hydwythdedd ychwanegol a chymorth gweinyddo i'r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth mewn materion yn ymwneud â Llywodraethu Gwybodaeth, gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r) Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GPDR) Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA), Rheoliadau Preifatrwydd ac Electronig (PECR) a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo mewn perthynas â materion yn ymwneud â rheoli gwybodaeth yn effeithiol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gadw a gwaredu cofnodion, rhannu gwybodaeth a datgelu gwybodaeth.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth am ddeddfwriaeth Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth a phrofiad profedig o weithio mewn Rôl Weinyddol.
Gellir canfod mwy o fanylion mewn perthynas â'r swydd hon o fewn y Swydd-Ddisgrifiad a'r Fanyleb Person. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ychwanegol, fe'ch gwahoddir i gysylltu â'r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth, Christian Landeg-John ar 01443 232213.
Dylid dychwelyd datganiadau o ddiddordeb wedi'u cwblhau i: Christian Landeg-John drwy law e-bost, c-landeg-john@decymru-tan-fire.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 19/12/2024. Mae'r dyddiad ar gyfer y broses ddethol eto i'w gadarnhau.
Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg ill dau a chroesawn gyfathrebiadau yn y naill iaith â'r llall. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n credu yng ngwir werth gweithlu amrywiol ac rydym yn dymuno annog yn rhagweithiol ymgeiswyr o bob sector cymdeithas i ymgeisio.