Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Trochi)
Salary: Graddfa 5Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
Welsh Language Skills are essential for this position
Lleoliad/Canolfan Waith - Llandrindod / Aberhonddu (teithiol)
Am y rôl:
Mae datblygu darpariaeth drochi drwy ganolfannau dynodedig yn gam cyffrous i'r Gymraeg ym Mhowys ac mae'n rhan o'r weledigaeth i gynyddu cyfleoedd mynediad at addysg Gymraeg. Mae'r swydd hon ar gyfer unigolyn ag angerdd dros y Gymraeg, ynghyd â'r amynedd a'r brwdfrydedd i gefnogi plant o Flwyddyn 2 i 6 sy'n cael mynediad at Ganolfan Iaith drochi yng nghanolbarth Powys (ardal Llanfair ym Muallt) ac yn eu hysgolion.
Amdanoch chi:
* Cymhwyster Cynorthwy-ydd Addysgu : Lefel 3
* Y gallu i gyfathrebu yn hyderus yn Gymraeg
* Angerdd dros y Gymraeg
* Ymrwymiad a brwdfrydedd i gefnogi plant o Flwyddyn 2 i 6
* Sgiliau rhyngbersonol cryf
* Mae'r gallu i deithio'n hanfodol
Eich dyletswyddau:
* Gan weithio o dan gyfarwyddyd yr athrawes, bydd cyfleoedd i weithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion, yn ogystal â rhywfaint o oruchwyliaeth dosbarth cyfan.
* Pan fydd y dysgwyr yn trosglwyddo i'w hysgolion eu hunain, bydd disgwyliad y bydd y Cynorthwy-ydd Dysgu yn cefnogi'r broses bontio honno ac yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau perthnasol gyda'r athro/athrawes dosbarth er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn i'r dysgwr.
* Bydd hyn yn cynnwys teithio a bydd costau teithio yn cael eu talu ar y cyfraddau arferol.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â:
Bethan Price - [email protected]
Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.
#J-18808-Ljbffr