PENNAETH CYFATHREBU CORFFORAETHOL
Pencadlys y Gwasanaeth, Llanelwy
Parhaol, 37 awr yr wythnos
Cyflog: £57,692 - £61,877 (gyda lwfans ar alwad o 8.5%)
Mae cyfle arweinyddiaeth strategol wedi codi o fewn Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol parhaol. Bydd y rôl hanfodol hon yn adrodd i'r Bwrdd Gweithredol ac yn aelod gweithgar ac annatod o Dîm Arweinyddol y Gwasanaeth. Lleolir y rôl yn y Pencadlys yn Llanelwy, gyda pheth hyblygrwydd ar gyfer gweithio o bell.
Fel Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol, byddwch yn rhoi cyngor strategol, moesegol a phragmatig, her a chefnogaeth i'r Prif Swyddog Tân, y Bwrdd Gweithredol a'r Awdurdod Tân. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod cyfathrebu ac ymgysylltu wrth wraidd cyflwyno gwasanaethau effeithiol a llwyddiant sefydliadol.
Gan arwain swyddogaeth Cyfathrebu Corfforaethol deinamig, byddwch yn goruchwylio cysylltiadau â’r cyfryngau, cyfathrebu mewnol, cysylltu â’r gymuned, materion allanol a bod yn allweddol wrth gynnal ymrwymiad y Gwasanaeth i ddwyieithrwydd, gan sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal mewn cyfathrebu cyhoeddus a gweithrediadau mewnol. Byddwch yn bwrw ymlaen â Strategaeth Gyfathrebu gynhwysfawr sy’n cael ei llywio gan ddata, gan feithrin ymddiriedaeth, hygrededd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr cyfathrebu proffesiynol profiadol iawn, gyda'r gallu i arwain ar draws pob disgyblaeth, gan gynnwys cyfathrebu mewn argyfwng, ymgysylltu digidol, rheoli brand a newid diwylliant sefydliadol. Byddwch yn dangos arweinyddiaeth drawsnewidiol, gan ymgorffori dulliau cyfathrebu arloesol a sicrhau bod gan y Gwasanaeth lais cryf, dylanwadol a chyson ar draws pob platfform.
Fel rhan o’r rôl hon, byddwch yn arwain ac yn cymryd rhan mewn rota ar alwad 24/7 ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu cefnogaeth yn y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer digwyddiadau mawr y tu allan i oriau arferol.
Rydym yn chwilio am arweinydd â gweledigaeth sy'n cyd-fynd â Chod Moeseg Craidd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, gan ddod ag ymrwymiad cryf i gynhwysiant, cydweithredu a gwasanaeth cyhoeddus.
I gael manylion pellach ynglŷn â'r rôl, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth. I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn ymgeisio
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12.00 hanner dydd, 07/03/2025