Mae'r swydd hon ar agor i weithwyr Prifysgol Caerdydd yn unig ar hyn o bryd. Peidiwch ymgeisio os nad oes ganddoch gytundeb cyflogaeth ddilys gyda’r brifysgol. Ymgeiswyr Mewnol yn Unig- Darlithydd Epidemioleg Clefydau Heintus / Gwyddoniaeth Ymddygiadol Clefydau Heintus Y Ganolfan Treialon Ymchwil Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn dymuno penodi Darlithydd Epidemioleg Clefydau Heintus / Gwyddoniaeth Ymddygiadol Clefydau Heintus i ymuno â’r Uned Firoleg Drosi newydd sy’n rhan o’r Ganolfan Treialon Ymchwil, yr Is-adran Heintiau ac Imiwnedd a’r Is-adran Canser a Geneteg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn deinamig sy'n awyddus i ddatblygu rhaglen ymchwil annibynnol fydd yn cyfrannu at ymchwil firoleg sylfaenol a chymhwysol, gan ganolbwyntio'n bennaf ar glefydau heintus iechyd cyhoeddus cymhwysol. Bydd ganddo brofiad o ymchwil ryngddisgyblaethol ac arbenigedd methodolegol mewn un neu ragor o'r meysydd canlynol: epidemioleg, treialon clinigol, newid ymddygiad, dulliau ymchwil ansoddol a/neu weithio gyda phoblogaethau ymylol. Bydd disgwyl i ddeiliaid y swydd ddatblygu cysylltiadau trawsbynciol er mwyn cydweithio ar draws themâu ymchwil perthnasol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddatblygu cynigion ymchwil cystadleuol a chynyddu capasiti ymchwil i gefnogi ymchwil ym maes Firoleg – sef cryfder allweddol fydd yn derbyn cymorth yn sgil yr Uned newydd hon. Bydd deiliaid y swydd yn mynd ati i gyfrannu at gyflawni'r nodau a'r amcanion a amlygir yn y ddogfen hon. Bydd y rhan fwyaf o amser yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei warchod at ddibenion ymchwil, ond at ddibenion datblygu gyrfaol rydym yn rhagweld y bydd yn cyfrannu at yr Ysgol drwy addysgu dan arweiniad ymchwil – er enghraifft, arwain prosiectau myfyrwyr ar gyfer israddedigion, myfyrwyr MSc a myfyrwyr ar flwyddyn o hyfforddiant proffesiynol (PTY). Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus enw da cynyddol yn genedlaethol/rhyngwladol, hanes rhagorol o gyhoeddiadau o safon, yn ogystal â’r brwdfrydedd a’r awydd i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wella enw da'r Ysgol am ymchwil sy'n cael effaith ac ymgysylltu â'r gymuned. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos tystiolaeth o'i allu i gystadlu'n llwyddiannus am gyllid ymchwil, yn ogystal â’i allu i feithrin tîm ymchwil sy'n cyd-fynd â disgwyliadau’r swydd. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, roedd 92% o weithgarwch ymchwil meddygaeth glinigol Prifysgol Caerdydd yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Bydd deiliad y swydd yn ymgysylltu â phartneriaid academaidd, proffesiynol a diwydiannol allanol i ehangu cyrhaeddiad ac enw da'r Ysgol, a bydd yn cyfoethogi cymuned greadigol a chynhwysol yr Ysgol a gydnabyddir am ei heffaith ar bolisïau, ymarfer a bywyd cyhoeddus. Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â: Dr David Gillespie (Iechyd y Cyhoedd a Threialon Heintiau) – GillespieD1caerdydd.ac.uk Yr Athro Richard Stanton (Firoleg/Imiwnoleg) – StantonRJcaerdydd.ac.uk Yr Athro Alan Parker (Firoleg/Oncolyteg) – ParkerALcaerdydd.ac.uk. Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon am 5 mlynedd yn y lle cyntaf, ac ar gael o 1 Ebrill 2025. Rydym yn dymuno penodi yn yr hysbyseb hon hyd at un swydd cyfwerth ag amser llawn ac rydym yn agored i hyn fod yn un unigolyn amser llawn neu ddau unigolyn rhan-amser sydd â diddordebau a sgiliau cyflenwol. Gofynnwn i ymgeiswyr fod yn glir a ydynt yn ymgeisio am swydd amser llawn neu ran-amser. Cyflog £51,039 - £55,755 y flwyddyn (Gradd 7) Dyddiad hysbysebu: 25 Mawrth 2025 Dyddiad cau: 8 Ebrill 2025 Nid yw ceisiadau allanol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd. Os penderfynir agor y swydd i ymgeiswyr allanol, bydd yr isbennawd ar y brig yn cael ei thynnu a rhoddir digon o amser i chi wneud cais - cadwch olwg ar y dudalen am fanylion. Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn helpu ein gweithwyr i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywyd personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd. Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San Francisco, sy'n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu, yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi na'r cyfnodolyn y mae'r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth yma: Asesu ymchwil yn gyfrifol - Ymchwil - Prifysgol Caerdydd Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Prif swyddogaeth Cyflwyno addysgu o safon o dan arweiniad ymchwil ar y lefel israddedig ac ôl-raddedig, a chyfrannu at hanes ymchwil yr Ysgol drwy ymrwymo i gynnal gwaith ymchwil sy'n arwain at gyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion o safon. Mynnu rhagoriaeth ymchwil, addysgu a mentergarwch ac ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau Ymchwil • Ymchwilio i glefydau heintus firol ym maes iechyd cyhoeddus a chyfrannu at berfformiad ymchwil yr Ysgol a'r Brifysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol drwy greu allbynnau mesuradwy gan gynnwys gwneud ceisiadau am gyllid, cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw o safon drwy gymheiriaid a chynadleddau o bwys, yn ogystal â recriwtio a goruchwylio staff ymchwil a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig/MSc. • Datblygu amcanion, prosiectau neu gynigion ymchwil yn annibynnol ar gyfer eich gwaith ymchwil eich hun neu ar y cyd, gan gynnwys cyllid ymchwil a bod yn Brif Ymchwilydd yn ôl y galw. Datblygu rhwydweithiau ymchwil drwy roi cyflwyniadau mewn seminarau/cynadleddau cenedlaethol/rhyngwladol yn rheolaidd • Cymryd rhan yng ngweithgareddau ymchwil yr Ysgol. Addysgu • Cyfrannu at ddatblygu modiwlau pan fo angen. • Cyflawni mathau eraill o ysgolheictod gan gynnwys rhoi gofal bugeiliol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd • Goruchwylio gwaith myfyrwyr, gan gynnwys goruchwylio myfyrwyr israddedig a meistr, goruchwylio ymchwilwyr ôl-raddedig ar y cyd a bod yn aelod o banel adolygu cynnydd ymchwilwyr ôl-raddedig yn ôl y gofyn • Bod yn Diwtor Personol a rhoi cymorth bugeiliol i fyfyrwyr Arall • Cydweithio’n effeithiol â chyrff diwydiannol, masnachol a chyhoeddus, sefydliadau proffesiynol, sefydliadau academaidd eraill ac ati, a hynny’n rhanbarthol ac yn genedlaethol i godi proffil yr Ysgol, meithrin cynghreiriau strategol werthfawr a chwilio am gyfleoedd i gydweithio ar ystod o weithgareddau. Bydd disgwyl i'r gweithgareddau hyn gyfrannu at waith yr Ysgol a gwella ei phroffil rhanbarthol a chenedlaethol. • Cymryd rhan yng ngweinyddiaeth a gweithgareddau’r Ysgol er mwyn hyrwyddo’r Ysgol a’i gwaith i’r Brifysgol ehangach a’r byd y tu allan. • Unrhyw ddyletswyddau eraill sydd heb eu cynnwys uchod, ond sy’n cyd-fynd â’r swydd. Cwmpas y swydd Bydd deiliad y rôl yn rhan o Uned Firoleg Drosi newydd ei sefydlu sydd hithau ynghlwm wrth y Ganolfan Ymchwil Treialon, yr Is-adran Heintiau ac Imiwnedd a'r Is-adran Canser a Geneteg. Byddant yn gweithio gydag ymchwilwyr ym maes ymchwil firoleg sylfaenol, drosi a chymhwysol ac yn cydweithio'n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chlinigwyr y GIG. PWYSIG: Tystiolaeth o'r Meini Prawf Polisi Prifysgol Caerdydd yw defnyddio manyleb yr unigolyn yn adnodd allweddol wrth ddethol pobl ar gyfer y rhestr fer. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth eu bod yn bodloni'r HOLL feini prawf hanfodol, a'r meini prawf dymunol, lle bo'n berthnasol. Yn rhan o'ch cais, gofynnir i chi gyflwyno'r dystiolaeth hon drwy ddatganiad ategol. Gofalwch bod eich tystiolaeth yn cyfateb i'r meini prawf a amlinellir ym manyleb yr unigolyn. Ystyrir eich cais ar sail y wybodaeth a roddwch ar gyfer pob maen prawf. Wrth roi’r datganiad ategol ynghlwm wrth broffil eich cais, cofiwch roi cyfeirnod y swydd wag yn nheitl y ddogfen: 19911BR Bydd eich cais mewn perygl o beidio â chael ei symud ymlaen os nad ydych yn dangos tystiolaeth eich bod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae'r ysgol yn croesawu cyflwyno CV i gyd-fynd â'r dystiolaeth ar gyfer meini prawf y swydd. Meini Prawf Hanfodol Cymwysterau ac Addysg 1. Gradd ôl-raddedig ar lefel PhD mewn maes cysylltiedig neu brofiad diwydiannol perthnasol 2. Tystysgrif Ôl-raddedig Dysgu ac Addysgu Prifysgol neu gymhwyster neu brofiad cyfatebol Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad 3. Arbenigedd sefydledig a phortffolio diamheuol o ymchwil a/neu brofiad diwydiannol perthnasol ym maes clefydau heintus iechyd cyhoeddus ac arbenigedd methodolegol mewn un neu ragor o'r canlynol: epidemioleg, treialon clinigol, newid ymddygiad, dulliau ymchwil ansoddol, gweithio gyda phoblogaethau ymylol. 4. Profiad sylweddol o addysgu o safon ar lefel israddedig/ôl-raddedig. 5. Enw da cynyddol yn genedlaethol yn y maes academaidd 6. Hanes sicr a diamheuol o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion cenedlaethol ag effaith bellgyrhaeddol. 7. Y gallu diamheuol i sicrhau arian ymchwil gystadleuol ynghyd â phortffolio cryf o grantiau ymchwil. 8. Y gallu i gyfrannu at gyflwyno a datblygu modiwlau’n barhaus ar draws rhaglenni addysgu’r Ysgol Sgiliau Bugeiliol, Cyfathrebu a Gweithio Mewn Tîm. 9. Y gallu diamheuol i gyfathrebu'n effeithiol ac yn argyhoeddiadol 10. Y gallu i gynnig cymorth bugeiliol priodol i fyfyrwyr, gwerthfawrogi anghenion myfyrwyr unigol a’u hamgylchiadau a bod yn diwtor personol iddynt Meini Prawf Dymunol 1. Cymhwyster/cymwysterau proffesiynol perthnasol 2. Tystiolaeth o gydweithio â byd diwydiant 3. Y gallu diamheuol i weithio heb oruchwyliaeth fanwl 4. Y gallu diamheuol i addasu i ofynion newidiol byd Addysg Uwch 5. Tystiolaeth o’r gallu i ddatblygu rhwydweithiau mewnol ac allanol, a chymryd rhan ynddynt, yn ogystal â’u defnyddio i wella gweithgareddau addysgu ac ymchwil yr Ysgol 6. Parodrwydd i ysgwyddo cyfrifoldeb dros waith gweinyddol academaidd. 7. Y gallu diamheuol i weithio’n rhan o dîm ymchwil rhyngddisgyblaethol.