Am Y Gwasanaeth Mae Prosiect May Street Cyngor Caerdydd ar gyfer Gwasanaeth Llety Pobl Ifanc yn darparu tai, cyngor a chymorth i unigolion ifanc agored i niwed sydd mewn angen. Mae ein gwasanaethau'n gweithredu 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn i sicrhau cymorth a gofal parhaus. Oherwydd effeithiau pandemig Covid-19, mae ein gwasanaeth wedi newid yn sylweddol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae rôl allweddol yn ehangu a gwella ein gwasanaethau. Am Y Swydd Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd o fewn ein Gwasanaeth Llety Pobl Ifanc, sydd wedi'i leoli yn May Street, Cathays. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus wneud 3 shifft yr wythnos (8am-8pm) ar batrwm rota sy'n cynnwys gwyliau banc a phenwythnosau. Bydd y Swyddog Llety â Chymorth (Pobl Ifanc) yn gyfrifol am gymryd rhan weithredol yn y gwaith o ddarparu a rheoli llety'r Cyngor yn hosteli penodol i bobl ifanc a gwasanaethau llety dros dro. Mae prif ffocws y rôl hon yn cynnwys: Bydd y swydd yn rhan o dîm sy'n gyfrifol am bob agwedd ar reoli uned llety â chymorth gan gynnwys rheoli adeilad, rheoli tai, rhedeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd ac ymgysylltu â phreswylwyr. Beth Rydym Ei Eisiau Gennych Mae hwn yn gyfle cyffrous, ac rydym yn chwilio am unigolion o gefndiroedd amrywiol sy'n frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth. Byddai profiad o weithio gyda phobl ifanc sydd ag ymddygiadau cymhleth a dealltwriaeth o’r problemau a wynebir gan unigolion digartref yn fanteisiol. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol sy'n gallu ysbrydoli, ennyn brwdfrydedd a chynorthwyo pobl ifanc i wireddu eu potensial a sicrhau annibyniaeth. Gall yr amgylchedd gwaith fod yn heriol felly bydd y gallu i fod yn bwyllog dan bwysau o fudd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn rhoi cymorth i’r tîm rheoli gyda phob agwedd ar y gwasanaeth. Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais. Gwybodaeth Ychwanegol Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n gwneud cais am y swydd fel secondiad gael caniatâd cyn gwneud cais. Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a dderbynnir yn Saesneg. Rydym yn deall efallai y byddwch yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais; fodd bynnag, sicrhewch fod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn ffeithiol gywir, yn wir, yn wreiddiol, ac nad yw’n cynnwys syniadau na gwaith nad ydynt eich rhai chi eich hun. Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Rebecca Callaghan, Ffôn: 029 2087 3141, Ebost: Rebecca.callaghancaerdydd.gov.uk, Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan: Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:- Canllawiau Gwneud Cais Gwneud cais am swydd â ni Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol Gwybodaeth Ychwanegol:- Siarter y Gweithwyr Recriwtio Cyn-droseddwyr Nodyn Preifatrwydd Job Reference: PEO04150