Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os:· ydych yn unigolyn sy’n canolbwyntio ar y cwsmer sydd â dealltwriaeth o bwysigrwydd gwasanaeth gwych,· yn gallu gweithio mewn tîm, ond hefyd yn gallu gweithio’n annibynnol· ydych yn hynod drefnus ac yn meddu ar agwedd hyblyg· ydych yn unigolyn sy'n barod i ddysgu sgiliau newydd· oes gennych agwedd gadarnhaol Cynorthwyydd Croeso a Gwasanaeth / Welcome & Service AssistantSut brofiad yw gweithio yma? Mae Porthdinllaen yn lleoliad adnabyddus ym Mhenrhyn Llŷn sy’n denu miloedd o ymwelwyr i ymlacio ar y traeth, cerdded y llwybrau cerdded arfordirol neu fentro i’r dŵr, wrth fwynhau’r lleoliad hardd a’r Tŷ Coch enwog.Mae’n lleoliad â hanes hynod o gyfoethog a dynodiadau cadwraeth natur pwysig fel Pen Llŷn ac Ardal Gadwraeth Arbennig Sarnau. Mae hefyd yn gartref i un o’r gwelyau morwellt mwyaf yng Nghymru. Mae harbwr Porthdinllaen yn rhoi cysgod rhag y tonnau a’r gwynt heblaw’r adegau pan ddaw’r gwynt o’r gogledd-ddwyrain. Mae gan yr ardal harbwr mewnol tua 40 angorfa, gyda thua 80 angorfa yn yr ardal harbwr allanol. Mae fflyd fach o gychod pysgota’n gweithio o bentref Porthdinllaen, ac mae'r bae’n cael ymweliadau cyson gan gychod gan gynnwys cychod hwylio, cychod pŵer, cychod dŵr personol a chychod padlo. Yn achlysurol gall cychod masnachol angori mewn dŵr dyfnach yn ardal allanol yr harbwr. Mae mynediad i gychod sy’n cael eu lansio gan drelar ar gael ym Morfa Nefyn.Porthdinllaen | Llŷn Peninsula | Cymru | Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Beth fyddwch chi’n ei wneud? Yn atebol i'r Rheolwr Croeso, yn bennaf, bydd eich swydd yn cynnwys ymgysylltu ag ymwelwyr a sicrhau croeso cynnes i Borthdinllaen. Fel wyneb yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen, byddwch yn ateb ymholiadau, hyrwyddo ein gwaith a darparu gwybodaeth er mwyn gwella profiadau ymwelwyr. Byddwch yn cynnal safonau cyflwyno uchel drwy gasglu sbwriel yn ddyddiol a sicrhau bod y traeth yn rhydd rhag peryglon. Diogelwch yw ein blaenoriaeth. Bydd eich swydd yn cynnwys hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o’r ardal hon a chynghori’r cyhoedd ar bolisïau a deddfau arfordirol lleol. Wedi’ch lleoli wrth y fynedfa i draeth Morfa Nefyn yn bennaf, byddwch yn goruchwylio lansiad cychod, gan sicrhau eu bod wedi cofrestru a chasglu ffioedd lansio. Yn ogystal, efallai y bydd eich dyletswyddau pellach yn cynnwys goruchwylio ardal y traeth ehangach, maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phentref Porthdinllaen yn ôl yr angen.Nod y Prosiect Morwellt Porthdinllaen yw diogelu'r morwellt yn y bae. Byddwch yn diweddaru eich hun ar y prosiect ac yn gallu siarad am eu gwaith gydag aelodau o'r cyhoedd.Fel elusen gadwraeth fwyaf Ewrop, rydym yn gweithio’n galed i godi arian hanfodol i ofalu am dreftadaeth ein hymddiriedolaeth. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni targedau recriwtio aelodaeth.Gofynnir i chi hefyd ddarllen y proffil swydd llawn sydd ynghlwm â'r hysbyseb hon.Y pecynYr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw 'I bawb, am byth'. Rydym yn gweithio'n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae'n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a'r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo'n gartrefol yn ein timau hefyd. Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol Mynediad am ddim i eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a'ch plant (dan 18 oed) Cynllun benthyciad blaendal rhent Benthyciad tocyn tymor Gostyngiadau buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol. Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo'n bosibl Rhaglen cynorthwyo cyflogai Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig i’ch cefnogi chi. Closing Date: 20 April 2025To apply for this vacancy simply click the 'apply' button in the top right hand side of the page.If you need any help with your application, i.e. due to technical difficulties, please call us on 0370 240 0274 or email us at recruitmentenquiriesnationaltrust.org.ukIf you require an adjustment to the application process, for example due to disability or medical condition, please call us on 0370 240 0274 or email us at adjustmentsnationaltrustjobs.org.uk and we'll support you as best as we can. For examples of how, please see our supporting you page.Equal Opportunities StatementThe National Trust celebrates diversity and is committed to creating a fair and equal society, free from discrimination. You can read more about our commitment to inclusion and diversity here.Safeguarding StatementThe National Trust is committed to a safe recruitment processes to help the organisation attract and appoint the right staff/volunteer for the role and responsibilities as set out in the vacancy advert. We will not accept applicants who are not suitable to work with children, young people or adults at risk. If you have any questions around your suitability for this vacancy, please contact the people service centre.Please note we reserve the right to close this advert early and therefore we encourage you to apply for this position early.162281IRC162281PwllheliFixed Term p/t (until 21/09/25)Ends: Apr 20th 177.7 mi from High WycombeRydym yn chwilio am unigolyn cyfeillgar a hyderus i oruchwylio’r fynedfa i'r traeth ym Mhorthdinllaen dros dymor yr haf. Os ydych chi wrth eich bodd â’r arfordir, yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored a sgwrsio â phobl, gallai’r swydd hon fod yn berffaith i chi. Byddai wythnos waith arferol yn cynnwys gweithio rhwng 10am-4pm 5 diwrnod yr wythnos (yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Cytundeb Cyfnod Penodol hyd at fis Medi 2025. Noder, mae’r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.Cyfweliadau i'w cynnal wythnos yn dechrau 28 EbrillAr gyfer y rôl hon, bydd angen i chi gwblhau ein hasesiad ar-lein yn hytrach na defnyddio CV neu ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall mwy am eich cryfderau ac yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am y rôl.Llyn Peninsula, Rhiw, Pwllheli, LL53 8AB12.75 per hour