Mae Adferiad Recovery yn darparu ymateb hyblyg a chydgysylltiedig i’r amgylchiadau eithriadol a wynebir gan bobl â chyflyrau iechyd meddwl a defnyddio sylweddau sy’n cyd-ddigwydd a materion cysylltiedig. Mae angen cymorth cyson a di-dor ar bobl agored i niwed sy’n wynebu heriau bywyd cymhleth i sicrhau eu bod yn parhau i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a llesiant hanfodol – ac i’w hatal rhag mynd yn ddifreinio ac yn ynysig.
Mae Adferiad Recovery yn harneisio doniau a phrofiad yr elusennau Cymreig sydd wedi hen ennill eu plwyf, CAIS, Hafal a WCADA. Mae ein harbenigedd cyfun ym meysydd defnyddio sylweddau, iechyd meddwl, tai, cyfiawnder troseddol, a chymorth cyflogaeth yn galluogi Adferiad Recovery i ddiwallu anghenion y rhai mwyaf agored i niwed gydag un dull gweithredu unedig a chynhwysfawr.
Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siŵr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.
#J-18808-Ljbffr