Ffermio Bro Advisor - Until March 2028 Pembrokeshire Coast National Park / Gower National Landscape As a Ffermio Bro Advisor, you will help lead the co-ordination of the Ffermio Bro programme, working closely with farmers and stakeholders across either the Pembrokeshire Coast National Park or the Gower National Landscape to ensure its successful delivery. You will engage with farmers and landowners, offering advice on suitable conservation practices and guiding them through the application process of the Ffermio Bro Scheme. In collaboration with other staff members, you will develop working groups and foster partnerships within the National Park and Gower Landscape. Acting as a vital link between farmers, National Landscapes, and funding bodies, you will play a key role in delivering conservation and land management projects on farms and common land. This role also involves regular farm-based work, providing support and building strong working relationships with participants. Key Responsibilities: Co-ordinate the Ffermio Bro programme within the Pembrokeshire Coast National Park and Gower National Landscape, ensuring its effective implementation and alignment with programme objectives. Identify and engage potential programme participants, including farmers and landowners, encouraging their involvement and addressing any concerns. Provide advice on conservation practices, sustainable land management, and biodiversity connectivity. Act as a liaison between farmers, National Landscapes, funding bodies, and other stakeholders to facilitate strong working relationships and collaborative efforts. Support farmers and landowners in accessing available funding, guiding them through application processes and offering ongoing assistance. Monitor the delivery of funded activities, ensuring compliance with agreed objectives and tracking outcomes. Promote and facilitate group work and collaborative initiatives, fostering clusters and partnerships within the farming and conservation communities. Collaborate closely with Pembrokeshire Coast National Park Authority staff and other partners to align efforts and share best practices. Undertake regular farm-based visits to provide hands-on support and build strong working relationships with participants. Provide financial claims and supporting evidence to Rural Payments Wales. To be considered as a Ffermio Bro Advisor, you will need: Practical conservation experience. Experience in building relationships with farmers and land managers or facilitating farming groups. Broad or specific experience of agricultural practices, either personally or professionally. An understanding of current and past agri-environment schemes in Wales. Knowledge of the characteristic habitats and species of the Pembrokeshire Coast National Park and Gower National Landscape. Awareness of issues affecting farmers and rural communities in Wales. A degree in environment, ecology, agriculture, or land management, or a relevant land-based qualification with experience. A willingness to work evenings and weekends with appropriate time off in lieu. The ability and willingness to travel to sites and destinations across Wales for training and events (a full, valid driving licence required). Interviews will be held during the week commencing 14th of April 2025. We are committed to equality of opportunity for all staff and applications from individuals are encouraged regardless of age, disability, sex, gender reassignment, sexual orientation, pregnancy and maternity, race, religion or belief and marriage and civil partnerships. Closing Date: 06/04/2025 Pembrokeshire Coast National Park Authority reserves the right to close this vacancy early. Cynghorydd Ffermio Bro – Hyd at fis Mawrth 2028Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro / Tirwedd Genedlaethol Gwyr Fel Cynghorydd Ffermio Bro, byddwch yn helpu i arwain y gwaith o gydlynu’r rhaglen Ffermio Bro, gan weithio’n agos gyda ffermwyr a rhanddeiliaid ar draws naill ai Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro neu Dirwedd Genedlaethol Gwyr, i sicrhau y cyflwynir y rhaglen yn llwyddiannus. Byddwch yn ymgysylltu â ffermwyr a thirfeddianwyr, gan gynnig cyngor ar arferion cadwraeth addas a’u harwain drwy’r broses o ymgeisio i’r Cynllun Ffermio Bro. Mewn cydweithrediad ag aelodau eraill o staff, byddwch yn datblygu gweithgorau ac yn meithrin partneriaethau o fewn y Parc Cenedlaethol a Thirwedd Gwyr. Gan fod yn ddolen gyswllt hanfodol rhwng ffermwyr, y Tirweddau Cenedlaethol, a chyrff ariannu, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni prosiectau cadwraeth a rheoli tir ar ffermydd a thir comin. Mae'r swydd hon hefyd yn golygu gwaith fferm rheolaidd, rhoi cymorth ymarferol, a meithrin perthnasoedd gwaith cadarn gyda chyfranogwyr. Cyfrifoldebau Allweddol: Cydlynu’r rhaglen Ffermio Bro o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Thirwedd Genedlaethol Gwyr, gan sicrhau bod y rhaglen yn cael ei gweithredu yn effeithiol ac yn cydweddu ag amcanion y rhaglen. Clustnodi ac ymgysylltu â chyfranogwyr posibl y rhaglen, gan gynnwys ffermwyr a thirfeddianwyr, gan eu hannog i gymryd rhan a mynd i'r afael ag unrhyw bryderon. Rhoi cyngor ar arferion cadwraeth, rheoli tir yn gynaliadwy, ac ar gysylltedd bioamrywiaeth. Bod yn ddolen gyswllt rhwng ffermwyr, y Tirweddau Cenedlaethol, cyrff ariannu, a rhanddeiliaid eraill i hwyluso perthnasoedd gwaith cadarn ac ymdrechion cydweithredu. Cefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr i gael mynediad at y cyllid sydd ar gael, gan eu harwain drwy’r prosesau ymgeisio a chynnig cymorth parhaus. Monitro bod y gweithgareddau a ariennir yn cael eu cyflawni, gan sicrhau y cydymffurfir â’r amcanion y cytunwyd arnynt ac olrhain canlyniadau. Hyrwyddo a hwyluso gwaith grwp a mentrau cydweithredol, gan feithrin clystyrau a phartneriaethau o fewn y cymunedau ffermio a chadwraeth. Cydweithio’n agos â staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a phartneriaid eraill i gysoni ymdrechion a rhannu arferion gorau. Ymweld yn rheolaidd â ffermydd i roi cymorth ymarferol a meithrin perthynas waith gref â’r cyfranogwyr. Cyflwyno hawliadau ariannol a thystiolaeth ategol i Taliadau Gwledig Cymru. Amdanoch Chi - I gael eich ystyried yn Gynghorydd Ffermio Bro, bydd angen y canlynol arnoch: Profiad ymarferol o faterion cadwraeth. Profiad o feithrin perthynas â ffermwyr a rheolwyr tir neu hwyluso grwpiau ffermio. Profiad eang neu benodol o arferion amaethyddol, naill ai'n bersonol neu'n broffesiynol. Dealltwriaeth o gynlluniau amaeth-amgylcheddol presennol a gorffennol yng Nghymru. Gwybodaeth o gynefinoedd a rhywogaethau nodweddiadol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Thirwedd Genedlaethol Gwyr. Ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru. Gradd mewn amgylchedd, ecoleg, amaethyddiaeth, neu reoli tir, neu gymhwyster tir perthnasol ynghyd â phrofiad. Yn barod i weithio fin nos ac ar benwythnosau yn gyfnewid am amser priodol i ffwrdd. Y gallu a’r parodrwydd i deithio i safleoedd a chyrchfannau ledled Cymru ar gyfer hyfforddiant a digwyddiadau (mae angen trwydded yrru lawn a dilys). Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar y 14eg o Ebrill 2025. Rydym yn addo gwella amrywiaeth ein gweithlu, ac felly’n gwarantu cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ac sy’n dewis gwneud cais drwy ein Cynllun Cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd. Dyddiad Cau: 06/04/2025 Cyflogir deiliad y swydd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy'n cynnal y tîm Tirweddau Cymru. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar.