Job Description
Cyfarwyddwr Busnes y Senedd
Cyflog: £117,918 - £150,484 (SC2)
Lleoliad: Senedd, Tŷ Hywel, Bae Caerdydd/Hybrid
Ydych chi’n barod i ymgymryd â rôl arweiniol ganolog yng nghalon democratiaeth Cymru? Mae Senedd Cymru wrth galon democratiaeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru a’i nod yw bod yn gorff seneddol effeithiol sy’n ennyn hyder pobl Cymru. Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Busnes y Senedd i arwain a gwella ein swyddogaethau busnes seneddol yn ystod cyfnod o newid a thrawsnewid sylweddol. Gyda’r Senedd yn ehangu o 60 i 96 Aelod yn dilyn etholiadau 2026, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i ddarparu arweinyddiaeth drawsnewidiol a sicrhau bod anghenion y Senedd yn cael eu diwallu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Bydd y newid sylweddol hwn yn newid sut mae’r Senedd yn gweithredu ei fusnes ffurfiol, a bydd yn effeithio ar y gofynion sy'n wynebu Cyfarwyddiaeth Busnes y Senedd yn y blynyddoedd i ddod. Gan arwain Cyfarwyddiaeth Busnes y Senedd ac adrodd i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd, mae’r rôl hon yn hollbwysig wrth arwain at y Seithfed Senedd a thu hwnt.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd a fydd yn darparu'r arweiniad sydd ei angen i arwain a pharhau i wella ein swyddogaethau busnes seneddol drwy'r cyfnod hwn o newid a thrawsnewid. Gan weithio gyda’r Llywydd, Comisiy...