Rydym yn awyddus i benodi unigolion brwdfrydig i gefnogi disgyblion ac i ymuno ag Ysgol â gweledigaeth uchelgeisiol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cynorthwyo’r dysgu oddi mewn i wersi a hefyd yn cymryd grwpiau bach i wneud gwaith cefnogol. Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. (This is an advertisement for the post of 3X Learning Support Assistants Level 2 at Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential). Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn. This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.