Diolch am eich diddordeb yn y swydd uchod.
Mae Grwp Cynefin wedi bod yn darparu tai o ansawdd, syn ddiogel a fforddiadwy dros chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys i dros 8,000 o bobl ers 2014.
Rydym yn gweithion galed i ddarparu tai a gwasanaethau rhagorol, i gyfrannu i ddatblygiad cymunedau cynaliadwy a gwarchod a hybur iaith Gymraeg gyda balchder.
Rydyn ni am gynyddu iechyd a lles ein cymunedau ir eithaf, creu cyfleoedd i newid bywydau a siapio lleoedd syn sicrhau dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i arwain ar faterion Gwarchod Data/GDPR, a gweithredu fel y Swyddog Gwarchod Data mewnol ar ran y grwp. Byddwch yn cynorthwyor Rheolwr Llywodraethu a Chydymffurfio i weithredur Cynllun Archwilio Mewnol ar ran y grwp, a gweithredu fel pwynt cyswllt gydar Archwilwyr Mewnol. Byddwch hefyd yn cadwr Cofrestrau Risg ar ran y grwp yn gyfredol a chynorthwyo i fonitro gweithrediad yr amcanion strategol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd r un ysfa a ni i ddarparu cartrefi a lleoedd cynaliadwy lle mae ein tenantiaid yn greiddiol yng ngwaith y Gymdeithas a dylai eich gwerthoedd adlewyrchu ein gwerthoedd ni.
Os oes gennych yr ysfa ar angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i'n dyfodol, hon ywr swydd i chi.
Os hoffech sgwrs pellach am y swydd, cysyllwch Helen Jones, Pennaeth Llywodraethu ar 0300 111 2122.
Y Pecyn
Math o gytundeb: Dros dro (9 mis gyda phosibilrwydd o estyniad pellach)
Cyflog: £28,428 - £31,995 y flwyddyn pro rata
Oriau: 35 ayw
Gwyliau: 30 diwrnod y flwyddyn yn ogystal r gwyliau banc statudol ar cyfnod rhwng y Nadolig ar Flwyddyn Newydd pro rata
Teithio: Defnyddiwr Car Achlysurol
Pensiwn: Mae Grwp Cynefin yn cynnig darpariaeth pensiwn trwy Gynllun Social Housing Pension Scheme (SHPS)
Disgrifiadau Swyddi
DS Swyddog Gwarchod Data a Llywodraethu 0225.pdf
JD Data Protection and Governance Officer 0225.pdf
Buddiannau
Pecyn Buddion.pdf
Benefits Package.pdf
Datblygiad Personol
Os oes gennych gymwysterau proffesiynol ach bod yn talu ffioedd proffesiynol blynyddol ich corff aelodaeth, byddwn yn talu un or rhain bob blwyddyn ich helpu i aros yn gysylltiedig r wybodaeth ar addysg ddiweddaraf gan eich corff proffesiynol. Rydyn ni hefyd eisiau in holl gydweithwyr fwynhau buddion dysgu gydol oes, felly os ydych chin gweithio gyda ni byddwn nin buddsoddi ynoch chi fel hyn hefyd!
Dogfennau a Dyddiadau Perthnasol
Canllawiau cwblhau cais.pdf
Cyfweliadau: 04.03.25
Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Byddwn yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad Sylfaenol ar gyfer y swydd hon.
#J-18808-Ljbffr