Equal Opportunities At Transport for Wales we value diversity. It makes us stronger, helps us understand our customers better, make better decisions and be more innovative. Everyone’s different and has their own perspective so we’re building a diverse team that mirrors the communities we serve. Through this we’re determined to be one of Wales' leading inclusive employers. We’re creating an inclusive transport network that everyone in Wales can be proud of. Who we are At Transport for Wales, we’re on a mission to transform transport in Wales and make it fit for the future, whether that’s rail, bus, walking or cycling. We want to inspire a nation to change the way it travels, so that we all travel more sustainably and help to combat the climate emergency we’re all facing. We’re an open and inclusive place to work, where everyone is welcome and our people are supported to reach their full potential. We want to create an environment where our people can grow and succeed. This is key to enabling us to deliver on the promises we’ve made to the people of Wales to build a sustainable transport network that meets their needs. Role responsibilities Lead on transport modelling projects and tasks, covering a wide range of modelling techniques and using specialist software (including Visum and SATURN), to forecast the impacts of transport scheme and policy interventions in line with client requirements while taking account of wide-ranging uncertainty in the factors affecting travel demand. This will include working with our supply chain to manage and maintain the three multi-modal Wales regional transport models. Maintain, update and operate the three Wales Regional Multi Model Transport Models, by working with our supply chain and by using specialist modelling and appraisal software (Visum, SATURN, Tuba), to deliver relevant quality-assured outputs to internal and external clients. Support project managers across Transport for Wales (TfW) and externally by providing and interpreting transport modelling data and analyses tailored to specific project needs, helping to strengthen the evidence base for transport scheme business cases across Wales. Prepare transport forecasts for WelTAG appraisals and other business cases across multiple transport schemes in TfW, by drawing on a wide range of best practice transport modelling and appraisal guidance, to assist TfW in making appropriate decisions regarding transport investment in line with the Well-being of Future Generations Act. Prepare method statements and fee proposals for transport modelling aspects of projects, by liaising with clients, project teams and our specialist supply chain, enabling wider transport planning projects to be delivered to time and budget. Who we’re looking for Degree in transport planning, transport modelling, engineering, mathematics or similar subject. Demonstrable experience of delivering transport modelling services to clients and communicating information clearly and effectively to technical and non-technical audiences. Experience of using Visum and/or SATURN software for strategic transport modelling. Experience of working with transport-related datasets including outputs from transport models. Welsh Language Skills The ability to speak/write Welsh would make a great addition to your application, but it is not essential for this role. Transport for Wales supports and promotes the use of the Welsh Language by employees and will encourage them to develop, improve and maintain their Welsh Language skills. We fully support our people who want to improve their Welsh language skills, and personal development for Welsh Language skills are offered in a variety of ways such as online learning, classroom courses and funding attendance at local community courses. Next steps Does this role sound like the opportunity you are looking for? Do you want to find out more? See attached Job Description for further details. Transport for Wales is a disability leader. We are happy to discuss any reasonable adjustments you may need in the recruitment process or as part of the role if you are successful. This advert will close at midnight on the day of the application closing date stated above. We do encourage you to submit your application as early as possible. Please note, we reserve the right to close this vacancy early if we receive sufficient applications. Note that you must hold the permanent right to work in the UK. We are not currently able to provide sponsorship. Cyfle Cyfartal Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono. Pwy ydyn ni Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb. Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw. Cyfrifoldebau’r swydd Arwain ar brosiectau a thasgau modelu trafnidiaeth, gan gynnwys amrywiaeth eang o dechnegau modelu a defnyddio meddalwedd arbenigol (gan gynnwys Visum a SATURN), i ragweld effeithiau’r cynllun trafnidiaeth ac ymyriadau polisi yn unol â gofynion cleientiaid, yn ogystal ag ystyried amrywiaeth eang o ansicrwydd o ran y ffactorau sy’n effeithio ar y galw am deithio. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi i reoli a chynnal y tri model trafnidiaeth rhanbarthol aml-ddull yng Nghymru. Cynnal, diweddaru a gweithredu’r tri Model Trafnidiaeth Rhanbarthol Cymru Aml-fodd, drwy weithio gyda’n cadwyn gyflenwi a defnyddio meddalwedd modelu ac arfarnu arbenigol (Visum, SATURN, Tuba), i ddarparu allbynnau sicrhau ansawdd perthnasol i gleientiaid mewnol ac allanol. Cynorthwyo rheolwyr prosiect ar draws Trafnidiaeth Cymru (TrC) ac yn allanol drwy ddarparu a dadansoddi data modelu trafnidiaeth wedi’i deilwra i anghenion penodol y prosiect, gan helpu i gryfhau’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer achosion busnes cynlluniau trafnidiaeth ledled Cymru. Paratoi rhagolygon trafnidiaeth ar gyfer arfarniadau WelTAG ac achosion busnes eraill ar draws nifer o gynlluniau trafnidiaeth yn TrC, drwy ddefnyddio ystod eang o ganllawiau arfarnu a modelu trafnidiaeth arferion gorau, i helpu TrC i wneud penderfyniadau priodol ynghylch buddsoddi mewn trafnidiaeth yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Paratoi datganiadau dull a chynigion ffioedd ar gyfer agweddau modelu trafnidiaeth prosiectau, drwy gysylltu â chleientiaid, timau prosiect a’n cadwyn gyflenwi arbenigol, gan alluogi prosiectau cynllunio trafnidiaeth ehangach i gael eu cyflawni’n brydlon ac yn unol â’r gyllideb. Am bwy rydyn ni’n chwilio Gradd mewn cynllunio trafnidiaeth, modelu trafnidiaeth, peirianneg, mathemateg neu bwnc tebyg. Profiad amlwg o ddarparu gwasanaethau modelu trafnidiaeth i gleientiaid, a chyfleu gwybodaeth yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol. Profiad o ddefnyddio meddalwedd Visum a/neu SATURN ar gyfer modelu trafnidiaeth strategol. Profiad o weithio gyda setiau data sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth, gan gynnwys allbynnau o fodelau trafnidiaeth. Sgiliau Iaith Gymraeg Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol Y camau nesaf A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion. Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus. Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl. Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law. Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.